Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhai o REBELS CYMRU Rhwng 1700 ac 1800 fe gododd Cymru genhedlaeth o wyr grymus di-ofn Dr. Richard Price, David Williams, Jac Glan y Gors, Iolo Morgannwg, Morgan John Rhys ac eraill, plant y bobl, caredigion rhyddid, gelynion y rhai traws, ser tragywydd y bore." Gan ITHEL DAVIES FE fagodd Cymru lu o bobl o rym a dylanwad mawr mewn gwladwein- iaeth. Yr oedd Dr. Richard Price yr ystad- egydd a'r diwinydd, yn y ddeunawfed ganrif, yn gwneud argraff mawr ar gwrs pethau yn yr hen fyd a'r newydd. Er mai Cymro o Tynton, yn Sir Forgannwg ydoedd, ar y byd llydan y bu ei sylw. Yr oedd yn ddisgybl i Rousseau, yn gyfaill i Franklin, Tom Paine a Priestley ac arloes- wyr meddwl yr oes honno, ac yn ŵr blaen- Uaw tu ôl i gyfansoddiad Taleithiau Unedig America a chyfundrefn newydd Ffrainc y Chwyldro. Tynged America. Fe gyhoeddodd ei Observations on the Nature of Civil Liberty, the Principles of Government and the Justice and Policy of the War with America yn 1776, ychydig wythnosau ar ôl i Tom Paine gyhoeddi ei bamffled Common Sense. Bu'r ddau gyhoeddiad hyn yn foddion i benderfynu cwrs a thynged America. Y mae'n dechrau ei Observation8 drwy ddywedyd: We hold these truths to be self-evident, that all men are created equal, that they are endowed by their creator .with certain inalienable Rights, that among these ar Life, Liberty, and the pursuit of Happiness. Yr oedd y llywodraeth wladol yn gread- igaeth y bobl. Yn y bobl y gorffwysai yr awdurdod eithaf ar bob pwnc, ac eiddynt hwy oedd penderfynu ffurf eu llywodraeth i warchod a chadw eu hiawnderau priod. Wrth ddelio â phroblem rhyfel y mae'n dadlau dros gyd-lafar yn lle rhyfel, a thros Senedd Cenhedloedd. Meddai: Thus might the scattered force and abilities of a whole continent be gathered into one point; all litigations settled as they rose; univerêal peace preserved; and nation prevented from lifting sword against nation. Pregeth rymus. Yn 1784 y mae'n ysgrifennu ei bamfîled Obseroations on the Importance of the American Revolution and the means of mahing it a Benefit to the World. Rhyddid yw byrdwn hwn eto, a'r ffordd i gyrraedd rhyddid. Yr oedd, fel Tom Paine, yn erbyn caethwasiaeth, ond ni chydffurfiwyd â'u dysgeidiaeth yn hyn o beth, canys cyf- ansoddiad i weriniaeth y dyn gwyn yn unig ydoedd cyfansoddiad y Taleithiau newydd hyd adeg Abraham Lincoln. Ei bregeth ef ar Love of our Country yn Llundain yn 1789 oedd y datganiad cyntaf yn y wlad hon ar y Chwýldro yn Ffraino. Yn ei hen ddyddiau y mae'n llawenhau ei fod wedi cael byw i weled y Chwyldro I could almost say Lord, now lettest thou Thy servant depart in peace, for mine eyes have seen Thy salvation. I have lived to see the rights of men better understood than ever, and the nations panting for liberty who seemed to have lost sight of it. Be encoÿraged, all ye friends of freedom and writers in its defence The times are auspicious. Your labours have not been in vain. Behold kingdoms, admonished by you, starting from asleep, breaking their fetters, and claiming justice from their oppressors Behold the light you have struck out, after setting America free reflected to France, and there kindled into a blaze that lays despotism in ashes, and warms and illuminates Europe Rhaid bod y fath huotledd wedi peri i ddynion feddwl, a meddwl yn ddwys, uwch- ben yr hyn a ddigwyddasai yn Ffrainc. Ateb i'r bregeth hon oedd Uyá». clasurol Burke, Reflection8 on the Frençh R$t>elution, a chanlyniad y Uyfr hwnnw oedd pamffled enwog Tom Paine, The Rights of Man. Dadleuon David Williams. Yn yr un cyfnod yr oedd yn byw ddyn arall o fro Morgannwg a fu a dylanwad mawr ar ei oes,-y Parch. David Williams o Watford, ym mhlwyf Eglwysilan. Yr oedd yn gyfaill i Iolo Morgannwg ac yn ddisgybl i Rousseau a Voltaire. Yr oedd ym mlaen llanw y mudiad a ddaeth i ben mewn mwy nag un ystyr yn y Chwyldro yn Ffrainc. Yn wahanol i Dr. Price, fe ddaeth yr ysbryd yma arno ef drwy astudiaeth ac ym- chwil am y gwirionedd, mewn ymgynefino â meddyliau gorau'r oesoedd yn hytrach nag ag amgylchiadau bywyd dynion. Dadleuai dros ddiwygiadau mewn crefydd, addysg, a gwleidyddiaeth. Fe gyhoeddodd ei Letters on Political Liberty saith mlynedd cyn i'r Chwyldro dorri allan yn Ffrainc, ac fe'i cyfieithwyd i'r Ffrangeg yn 1783. Iddo ef yr oédd bywyd cym- deithas yn beth organig. The multitude, like matter, must be arranged, nay it must be organised; and it may be in any quantity and to any extent. The nature of its sensi- bility, its passions, or its judgments, will depend on its arrangement or its organisation. Rhag-weld y Sofiet. Y mae'n defnyddio'r fyddin-nid am ei fod yn credu ynddi, achos nid ydoedd i ddangos fel y mae'n "connected by a grada- tion of offrcers, which are the nerves, arter- ies and ligaments of this artificial body." Os oedd rhywun wedi rhagweld a rhag- fynegi cyfundrefn Sofiet fel sydd yn Rwsia David Williams ydoedd. Dynion, ac nid eiddo, oedd i fod yn sylfaen y gallu a'r awd- urdod gwladol, ac yr oedd ganddo syniad Mr. Ithel Davies, Abertawe. newydd am elfennau gwerth y gallu hwnnw, canys meddai: But as parishes and counties are unequal divisions, and the most important men in the community are not the mere possessors of lands, but those whose industry and talente increase and multiply their original value, regards must be had to men, not merely to their possessions; and they should be divided by their numbers, not by the space of ground they happen to occupy. Gwaeth na'r anifeiliaid." Am hynny yr oedd y bleidlais i'w rhoddi i bob un dros ddeunaw oed because they contribute by their industry to the support of the State." Y mae'n diweddu: In all the sciences men are but young; in the science of government they are just born. The ants, and bees, and beavers, exhibit institutions which are a reproach to the best form of govern- ment upon earth. Men herd at random, or are driven by miscreants of their own species, in a manner to which the most dastardly animal would not submit; a flock of sheep would not be driven to slaughter by one of its own kind. Yn ei ddarlithiau ar addysg y mae'n dangos yr angen am addysg wyddonol ar yr un llinellau yn gymwys ag athrawiaethau addysg Bertrand Russell a H. G. Wells yn ein dydd ni. Fe sefydlodd Adult Schools yn Llundain ac yn N gwyr ymhell 0 flaen Thomas Charles a'i ysgolion Sul. Helyntion Jac Glan y Gors. Fe gododd Jac Glan y Gors i ddadlau yn iaith lafar Cerrig y Drudion genadwri rymus yr ysbryd newydd oedd yn cerdded y byd. Y mae Seren Tan Gwmwl (gweler Llyfrau'r Ford Gron, Rhif 16) a Toriad y Dydd yn dangos o ba ysbryd yr oedd; ei fod yn werinwr trwyadl yn caru rhyddid yn ei ystyr lawnaf, ac yn casáu â chas cyflawn pob ystryw oedd yn gwahanu ac yn gwa- haniaethu dynion. [7 dudalen 234.