Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR LAN Y MÔR YNG NGWLAD Y CESTYLL CIP-OLWG AR BORT TALBOT R wyf yn eistedd ar y traeth yn Pysgod, a'r papur yn fy llaw yn yng ngwres yr haul. Y mae'r môr cyn lased â môr yr Eidal, a'r tywod sych yn wyn, bron. Y mae merched yn cerdded heibio mewn pyjamas traeth, a'u lliwiau'n dlysion fel yr enfys. Amryw fadau'n gorffwys wrth yr hafan, a'u hwyliau'n ddiog; a phlant yn cael hwyl wrth ddringo a disgyn llethr craig go anodd o'm blaen. Wrth gefn y bae mi welaf gylch o dai a'u hwynebau'n felyn, a gwyn, a lliw hufen, tai a'u taldra plaen, golau, yn rhoddi rhyw olwg estron iddynt. Tybed mai yng Nghymru yr wyf ? Ie, achos mi glywaf Gymraeg yn ogystal â Saesneg o'm cwmpas, ac mi welaf yn y papur fod Mr. Gwilym Lloyd George, A.S. y sir, a Mrs. G. Lloyd George yn paratoi at ddod yma am wyliau. A pha le y ceir mwynach lle na hwn ar ddyddiau teg o ha' hirfelyn tesog ? Digon o dywod. 'DOES unlle yng Nghymru sy'n well na godre Sir Benfro am draethau eang, yn dywod i gyd. Y mae nifer da ohonynt yno, rhai yn tynnu pobl lawer, eraill sy'n unicach: Dinbych-y-Pysgod a Saundersfoot, Penali a Maenor Bŷr, Lydstep a'r ddau Freshwater, Angle a'r Hafan Fach a'r Hafan Lydan. Bae mawr, pentref tawel, a meysydd coediog yn y cefn, dyna ydyw Saunders- foot. Ac os ewch i Faenor Byr cewch orffwys neu ymdrochi wrth droed yr hen gastell mawrfri, a chael te yn un o'r pentrefi tlysaf a welsoch-chi. Gwlad felys. OND peidiwch â thybio mai glannau'r môr ydyw gogoniant Sir Benfro. Y wlad sydd odidocaf, yn arbennig os ewch yno a'r haf yn ifanc. Gwlad o feysydd toreithiog ydyw, gwlad o goed ac o flodau, a'r ffermydd yn ym- guddio yn y pantiau a'r llwyni nes peri i ddyn dybio, wrth edrych dros ddarn eang o wlad, fod y tai yn brin. Fe fûm i yn crwydro'r lonydd dan fwyta syfi oddi ar eu hymylon; a chyda diwedd y dydd fe fyddai'r lonydd hyn yn bersawrus gan rin y winwydden wyllt; ac yn rhyfeddod o hardd gan lawnder trafflith eu rhedyn a'u rhosys gwylltion a'u bysedd cŵn. Cartre Syr Rhys ap Thomas. A OES sir arall yn y deyrnas a chynifer o gestyll ynddi? Penfro a Hwlffordd Maenor Byr; Picton, Dinbych-y-Pysgod, Mr. W. J. Samuel. a Carew, cartref y Syr Rhys ap Thomas hwnnw y canodd Eben Fardd amdano yn awdl Maes Bosworth Yn hynny, deuai'n hoenwych Syr Rhys ap Thomas, gwas gwych, Fe wnâi at fod yn fin at fin, Gyfer-wyneb â'r gau-frenin; Arwrol oedd gweryriad A mawr wawch certh eu meirch cad. Ac nid hen gestyll yn unig chwaith, ond cartrefi mwy newydd pendefigion a chyf- oethogion ein hoes ninnau hefyd. Y ddau gleddau. TTYFRYD iawn ydyw glannau Cleddau H ­y ddau Gleddau, ac ni ellid dymuno taith fwy swynol mewn cwch na thaith o Hwlffordd neu Lawhaden i Aberdau- gleddau, heibio i Gastell Picton, a Langum, a Lorenni. Gresyn fod rhaid dyfod yn y diwedd wyneb-yn-wyneb ag arwyddion diffyg mas- nach, ac at helyntion y bobl ar y glannau sydd wedi colli eu gwaith. Yn yr Hafan, gyferbyn ag Aberdaugledd- au, y mae nifer o longau mawrion wedi eu hangori a'u gadael yno-dim gwaith iddynt bellach, ac y mae'n rhatach eu cadw yno, i aros dyddiau gwell, nag ym mhorthladd- oedd mawr y deyrnas. Ar yr ochr arall i'r afon, y mae tref y try- wanwyd ei bywyd yn sydyn ychydig flyn- yddoedd yn ôl pan gaeodd y Morlys ei ddoc a'i iard yno. Pembroke Dock ydyw'r dref. Am gan mlynedd bu'n adeiladu llongau rhyfel Prydain. Ond 'does dim gwaith yno heddiw, ac y mae'r rhan fwyaf o'r trefwyr heb ddim i'w wneud. Gwneud cwrw. T>UM yn eu gwylio yn bragu cwrw yn y -■-* ffermydd. Y mae bron holl ffermydd mawr Sir Benfro yn gwneud eu cwrw eu hunain adeg y cynhaeaf. Dywedir ei fod yn helpu'r gwaith yn rhyfeddol. Heic. "C'E aeth Mr. Waldo Williams a'i chwaer â ni am dro o Glynderwén hyd odre mynyddoedd Preseli. Dringo Moel Bwlch y Gerwyn (' Precelly Top yn Saesneg) oedd y bwriad, ond fel yr âi'r dydd (a nin- nau) ymlaen, mynd yn bellach yr oedd y mynydd. Bai'r tawch a'r gwres oedd hynny, mae'n debyg. Ond bu'n heic ddiddorol trwy'r Efail Wen a Bethel; yfed llaeth enwyn gyda'n bwyd uwchben y Fynachlog Ddu; a chyr- raedd Rosebush yn hapus luddedig erbyn te. Pafiliwn Eisteddfod. WRTH fynd trwy Aberafan (Port Talbot) yn y trên ar y ffordd o Sir Benfro i Gaerdydd, mi gefais gip-olwg ar bafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y llaw chwith. Hawdd adnabod y pafiliwn bob blwyddyn ­ei dri thalcen a'i do zinc tlodaidd. Tybed na ddaw rhywun ryw ddiwrnod i gynllunio adeilad mwy lluniaidd a tharawiadol i'r Eis- teddfod? Os oes rhaid i'r muriau fod yn bren a'r to yn zinc, 'does dim rhaid iddo fod mor boenus o ddi-ddychymyg.