Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFASIYNAU. Dillad Haf—Sut i fod yn smart heb wario Gan MEGAN ELLIS. Y MAE ar bob merch eisiau bod yn smart, a hynny heb ymollwng i grandrwydd gwirion di-chwaeth. Ond sut y gellir bod yn smart heb wario ? Yn ffodus (ar un olwg) mae pawb yn yr un cwch y dyddiau hyn, ac yn gorfod edrych yn llygad pob ceiniog. Ond nid pawb sy'n gwneud i fyny am brinder arian trwy fod yn ddoeth; dyna paham y mae cymaint o wisgo anhardd a chyn lleied o bobl yn wir smart. Mae'r lodes smart yn medru gwisgo i ym- ddangos fel pe bai hi mewn gwisg newydd bob amser, er nad oes ganddi hi ddim ond un siwt dda iawn. Beth yw'r gyfrinach? QGERT FRESUS A CHOT: Fe ellir gwneud y siwt ddymunol hon o frethyn main, gwlanen, siantwng neu liain o unrhyw liw plaen, a'r flows a leinin y gôt yn sidan plad i gyfateb. Hyn, — cael am- rywiaeth o sgertiau, siacedi, boleros, a blowsuB, a'u newid fel bo'r achlysur. 0 n d mae'n rhaid i'r cwbl fod yn cyd- weddu. W r t h ddewis a dethol y mae merch yn gallu bod yn glyfar. DILLAD GWLANEN. Mae amrywiaeth y sgertiau a'r cotiau sydd i'w cael y tymor hwn yn ei gwneud yn hawdd cael digon o newid. Defnydd a chryn fynd arno ydyw gwlanen denau lefn, a gellir ei gael mewn pob math o liwiau. Fe'i gwelir ef yn gostiwm weithiau, a'r sgert a'r got heb fod o'r un Uiw. Y mae sgert liw hufen a chot las nefi yn swynol dros ben gyda'i gilydd. Nid â neb ar gyfeiliorn chwaith gyda siwt wlanen lwyd, os bydd y toriad yn iawn. Mae eisiau sgarff â thipyn o liw arno i gyd-fynd â'r siwt—gwyrdd (jade) a gwyn, sgarlad a gwyn, glas roial a gwyn-a tsiansi (jersey) o waith llaw i gyd-weddu, mewn gwlân neu gotwm, neu edau liain. GWISGOEDD HAF. Y mae siwtiau haul hudolus iawn hyd y glannau eleni. Mi welais un nodedig o smart. Dernyn tri-sgwâr rhesog, gwlân, oedd ei ffrynt; y^ngl uchaf yn cael ei dal gan necklace wlân Uiw, a'r ddwy gongl arall yn ymestyn yn gwlwm rownd y cefn. Toriad sgwâr wrth y gwddf sydd i'r ffrociau newydd pique neu sidan golchi; darnau.'r ysgwydd wedi eu gadael yn ddigon hir i'w cylymu'n fwâu bychain uwch ben y fraich. Fe welir hefyd ffrociau brown, glas nefi, neu goch, wedi eu gwneud o rwydwaith gwlân ysgafn. Y mae ganddynt fantelli bychain crynion, pique gwyn neu ganfas sidan, wedi ei sicrhau â botymau perl mawr, a chyffs 'gauntlet' ar y ddau arddwrn i gyd- weddu. At wisgoedd gyda'r nos ac i ddawnsio, foil ac organdi sy fwyaf poblogaidd. Tlws iawn i lodes ifanc ydyw foil gwyn ac ysmotiau cochion mawr hyd-ddo, gyda chot fach crepe-de-chine coch a slipars i gyd-weddu. FFROCIAU HEB LEWYS. Gan faint ohonom-ni y mae breichiau mor olygus ag y medrwn eu noethi yn ddi-ofn yn wyneb haul ac yng ngoleuni llygaid y byd beimiadol? DILLAD HOLIDAYS Gwisg fach ddestlus o sidan artiffisial, plad brown a gwyn, wedi ei thrimio d botymau brown, a'i gwisgo gyda belt patent brown. Gwisg arall gotwm, plad glas a gwyn, gyda ffrynt pigue gwyn plaen. 'Does dim mor olygus â braich luniaidd, gymesur, a'i chroen yn wyn a di-frychni, ond Ow, gyn lleied ohonom a'i medd Cynllun da i'r rhan fwyaf ohonom ydyw rhoi Uewys cwta ar y ffroc-dyweder hanner y ffordd i lawr i'r penelin. Ond hyn oedd gennyf i'w ddweud ar y pen hwn: mae'n bosibl gwella ffurf braich trwy rwbio (massage) yn ofalus a than gyfar- wyddyd, a thrwy ymarfer (exercise), a thrin y croen fel ag i hyrwyddo cylchrediad y gwaed. Y ffaith amdani ydyw bod aml bâr o freichiau a allai fod yn ddel iawn, yn paUu â bod felly am fod iechyd y sawl a'u piau heb fod yr hyn a ddylai fod. Bwyd iach, awyr ffres, ymarfer y corff—­ dyna sylfeini breichiau all wisgo ffrociau di- lewys heb ofn. BRYCHNI. Gyda golwg ar y cochni a'r brychni sy'n amharu aml fraich eiapus, cylchrediad gwael y gwaed sy'n cyfrif amdano i raddau, D WY HET I'R FUNUD Gwellt gwyrdd Bali- buntal yw un, a rhuban felfed gwyrdd wedi ei dynnu trwy'r corun ac o dan y cantal. Gwellt lliw ceirch ydyw'r llall, a sidp del arni, wedi ei thrimio d rhuban petersham i gydweddu.