Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ac yma eto yr un gofal am iechyd (cymryd bwyd pwrpasol, cysgu a'r ffenestr yn agored, ac felly yn y blaen) ydyw'r feddyg- iniaeth ddi-feth. Fe ellir helpu'r gwaith da drwy ymgydna- byddu â'r gwahanol fathau o ennaint sydd ar werth (emollient creams) a mynnu gwy- bod gan y cyfarwydd be sydd orau at eich hangenion neilltuol chwi. Gwir a ddywed- wyd fod gwybodaeth am siop y cemist yn anhepgor i ferch sydd am gael llwyr foddhâd a. mwynhâd mewn bywyd. Pum Pwynt Awst. OS bydd staen ar siwt navy blue neu ddu ar ôl bod yn agos i ddŵr y môr, gellir ei chwalu'n hawdd trwy ei rwbio â darn o'r un defnydd â'r siwt, wedi ei wlychu mewn tinegr. HAWDD golchi ffroc neu got fach laes (' lace '). Cael digon o drochion gyda phowdr sebon, neu'r sebon gwyn gorau, gwasgu neu rinsio'r laes lawer gwaith yn ofalus â'r dwylo, heb rwbio; yna rinsio mewn dau ddwr, ac yn yr ail rhoi ychydig o gum arabic neu siwgr wedi ei doddi. Fe rydd hyn dipyn o sytlmi i'r laes. Cymryd lliain a rholio'r laes ynddo, nes bod y lleith- der allan ohoni. Smwddio, pan fydd bron yn sych, ar y tu chwith. UE ddylid hongian fîwriau (furs) wrth eu cadw, mewn lle tywyll. Cyn eu gwisgo, ysgydwer hwy'n ysgafn, gan afael yn un pen (mae crib pwrpasol i'w gael) neu fe ellir eu curo â gwialen yn ysgafn ar y tu chwith. Os bydd amheuaeth o gwbl fod pryf (moth) ynddynt, gwell eu hanfon ar unwaith i'r ffwriwr. OS bydd eisiau rhoi llieiniau i gadw, neu ffrociau haf, gwell peidio â'u smwddio yn unig eu golchi a gofalu eu bod yn hollol sych. 'Does dim perygl felly iddynt felynu cymaint. MAE dŵr a halen yn well na dim i'w roi mewn sospan fydd wedi berwi'n sych a llosgi. Gadael iddi oeri, yna llenwi â dŵr gyda dyrnaid da o halen, a'i adael dros nos. Drannoeth, berwi'r dŵr ynddi, ac fe ddaw'r líosg i ffwrdd. 'Does dim cymaint o berygl iddi aü-losgi â phe buasai soda yn cael ei ddefnyddio yn lle halen. Fferins at Wyliau. CYFLATH CNAU. DEFNYDDIAU: Ymenyn, J pwys; siwgr brown, pwys; triagl, t pwys; cnau Brazil wedi tynnu'r plisgyn. DULL:—Toddi'r menyn mewn sospan, rhoi'r triagl a'r siwgr ynddo a berwi'n gyf- lym am ugain munud gan droi weithiau rhag iddo losgi. Gollwng llwyaid ohono i gwpanaid o ddŵr oer er mwyn gweld a ydyw wedi gwneud digon. Pan fydd yn barod, iro tun fflat ag ymenyn a gadael iddo oeri tipyn. Yna torri'r cnau, a phan fydd y eyflath yn dechrau setio gwthio'r darnau i mewn iddo. Gwell gosod y darnau'n weddol reolaidd, fel y gellir tynnu blaen cyllell rhwng y rhesi; fe dyrr yn ddarnau hylaw pan fydd wedi oeri. FUDGE. DEFNYDDIAU Dau lond Uwy de 0 bowdr siocoled; dau lond cwpan o siwgr castor; tipyn llai na llond cwpan 0 laeth (lefrith); owns 0 fenyn; essence vanüla. DULL: Berwi'r cwbl gyda'i gilydd nes ei fod bron setio pan ollyngir ef i ddŵr oer. Wedi ei dynnu oddi ar y tân, ei guro â llwy bren nes ei fod bron yn oer. Fe ddylai fod yn hufen tew erbyn hyn. Pan fydd yn barod gellir ei droi ar blât neu dun wedi ei iro, a phan fydd yn oer ei dorri'n amryw ffurfiau bach. Mae'n bwysig iawn ei guro'n drwyadl, neu fe fydd yn amherffaith. CREM PEPPERMINT. Defnyddiau: Siwgr eisin (icing sugar), pwys; llond llwy fwrdd 0 laeth tun (condensed) heb ei felysu; llond llwy de 0 sudd lemon; gwyn wy; essence peppermint. DULL: Curo'r gwyn wy a'i gymysgu â'r siwgr, y sudd lemon, a'r llaeth. Ychwan- egu'r peppermint, o ddiferyn neu ddau hyd i lond llwy de, yn ôl y cryfder a ddymunir. Tylino â'r bysedd a gwneud pelenni bychain a'u gwasgu'n fflat; yna eu gadael i galedu ar bapur blotio gwyn. SIWT YMDROCHI smart; tsiansi (jersey) gwlân du, a darnau sgarlad a gwyn wedi eu gosod i mewn. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar Oil a'i rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidiol yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg. Ar gael gan bob cemist neu siop neu dorwyr gwallt, pris 3b. 6d., 7s., a 10s. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golau neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystall St., Rosebery Avenue, London, E.C.l. J. H. & CO.