Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMERIADAU'R FELIN-FACH jgg% GAN IDWAL JONES SAIF pentref Felinfach ar y ffordd fawr, tua hanner ffordd rhwng Llanbedr- pont-Stephan ac Aberaeron, yn Sir Aber- teifi. Nid oes gennyf hawl i ysgrifennu am Felinfach oblegid cyflawnais bechod anfadd- euol yn erbyn y pentref. Gwrthodais gym- ryd fy ngeni yno. Wedi i fy nhad gynnal ysgol yno am flyn- yddoedd, ac wedi i bedwar brawd ac un chwaer ddangos chwaeth yn deilwng o dra- ddodiadau'r teulu drwy ddyfod i'r byd, un ar ôl y llall, yng nghanol Dyffryn Aeron, penderfynais innau y byddai'n fwy genteel i mi gael fy ngeni yn Llanbedr, tref rhyw chwe milltir oddi yno, ac felly y bu. Trwy lygaid eraill. Am y rheswm hynny nid yw Felinfach, nag Ystrad chwaith, wedi maddau i mi, ac y mae edifeirwch yn dilyn fy nghamre bob tro yr âf i lawr ffordd yna-edifeirwch am fod yn gymaint o ffŵl â gwrthod cael fy ngeni yn y Dyffryn tawel. (Yr ydych byth a hefyd yn sôn am eich Dyffryn Clwyd, -Pw!) Ac yn awr ni fedraf weled y pen- tref fel ag y mae. Edrychaf arno 0 hyd drwy lygaid y rhai a fu yno flynyddoedd cyn fy ngeni,-fy mrodyr hynaf, fy nhad a fy mam, yr hon a wnaeth iawn am y pechod o symud i Lanbedr drwy lanw ein cartref newydd ag ysbrydion Dyffryn Aeron. Ddydd ar ôl dydd y siaradai am dano, a hanes y fro o Demple Bar i Dalsarn, ac o'r fan honno i Ystrad, yn myned ymlaen fel math o chwedl para-byth o fewn muriau ein cartref yn y dref. Daniel y Cwm. Dyma'r rheswm mai myfi yw'r unig un heddiw sy'n gweled yr hen Feti Post (a fu farw ryw hanner canrif yn ôl) yn sefyll o flaen y Post Office fel gwyliedydd, a chwd llythyrau Felinfach ar fachyn, yn disgwyl y goach fawr a rêd o Lundain i Aberystwyth. I'm boddio i, a neb arall erbyn hyn, y daw Barwn Munchausen yr ardal, sef Daniel y Cwm, yn ei gôt ochr mochyn las a'r botymau prês, a british rib, i adrodd ei straeon, mor sobr a sant, a fi ydyw'r unig un na faidd wenu a dangos amheuaeth. 'Rown i'n nabod dyn," meddai, yn ei lais bloesg, 'roedd i wraig e'n gas iawn, a gneud i'r dyn roi smocio heibio; a druan bach, mi fuodd farw. A mi agorwyd e, a fe gawd llond padell o huddyg a thropas yn i frest e, o achos na chai e ddim smocio i glirio fe mâs." Gwelodd hefyd ddram gwynion yn blodeuo Nadolig, a gwyddai am ddyn,- 'roedd e mor dew nes bod yn rhaid mynd ag e lawr i Gaerfyrddin bob blwyddyn i dynnu pownd o floneg mâs ohono fe." Ac am wn i nad yw Daniel y Gôf yn Ystrad o hyd (y mae Ystrad rhyw filltir yn nes i Aberaeron, a chystal dweud yn y fan hyn nad wyf bob tro yn sicr o wahaniaethu rhwng Felin- fach ag Ystrad. A phwy a ŵyr na ddaw Talsarn i mewn weithiau. Man-a-man a Shanco," chwedl pobl yr ardal,-ydynt i gyd). Daniel y gôf, byw ei ysbryd a ffraeth ei ym- adrodd, na fynnai aros ar gais y pre- gethwr, am filoedd o flynyddoedd cyn gweled atgyfodiad y meirw. "Quick returns wyf i'n lecio," medd ef. Ac ar yr un egwyddor yr âi â rhofiau a chrymanau i ffair neu farchnad, gan gymryd llwybr tarw," allan drwy ffenestr y cefn ac yn ei flaen, heb droi i'r dde nac i'r aswy, dros gloddiau a nentydd, nes cyrraedd y lle­hyd yn oed pe bai ddeng milltir o ffordd ei gartref. Yn y Brynog Arms. Gŵr crefyddol oedd ef, ond pan ddôi seindorf bres y Bronwydd i dreulio wythnos yn y Dyffryn adeg y Nadolig, cynhyrfid yr artist a'r Bohemian oedd ynghudd rywle yng ngwaelod natur Daniel, a champ oedd i Hannah'r wraig ei gael o'r -tsrynog Arms mewn amser gweddus. Taflodd Hannah' gipolwg bryder- us i mewn i'r dafarn ryw noson a gwelodd olygfa ryfedd. Yr oedd y cerddorion yn chwarae a'u holl egni, mwg tybaco yn llanw'r gegin, y cwmni mewn hwyl, y tân mawr yn cynnau, a'r naill ochr iddo Daniel a'i wyneb yn disgleirio fel wyneb un yn gwrando ar fiwsig y bydysawd. Pan ganfu Hannah wrth y drws bloedd- iodd, — Hannah! Galli di ddwad i mofyn i tua'r wyliadwriaeth fore! Plant yr ysgol. Gwelaf ysgol y pentref yno o hyd, fel ag yr oedd yn y dyddiau pan oedd mam yn un o'r plant, — Ysgol William Rees, gweinidog yr Undodiaid yn Ehydygwîn, a fu wrthi am flynyddoedd cyn dyddiau fy nhad a'r Board School. Ac y mae'r plant wrth eu Lennie's Grammar a Charles Vice's Spelling Book "-tua hanner cant ohonynt mewn un ystafell fechan, yn dysgu spelian. Clywch y berw­ A B-Ab, D l-Di: Abdi; C A T E -Cate: Abdicate," yn codi'n uwch ac yn myned yn gyflymach, nes fod y cwbl yn rhedeg i'w gilydd ac yn troi yn rhyw fath o dôn-" A B-Ab, D I­} Di; Abdi; C A T E-Cate: Abdicate Deffry'r athro o'i fyfyrdodau, daw ergyd disymwth fel taran ar y ddesg, a 'Silence!' nes syfrdanu'r lIe. Y mae'r dwndwr yn tawelu am ryw hanner munud ac yna'n codi'n raddol drachefn. Yna daw'r awr ginio ym mwthyn Mari'r Eify. Hen wraig garedig yw hi, a'i thŷ yn agored bob amser i'r plant, a'r cawl enwog o lysiau yn eu disgwyl. Cemgoch, y bardd. Yr hen gyfoedion gynt Y cawl a'r tato pobi Mewn ffiol fach rhwng dwy Ar aelwyd fach yr Eify. Ystolion bach dair troed Na hidient ein codymu, A gwell nag esmwyth fainc Oedd hen sciw fach yr Eify. Felly y canodd mam ryw dro. Rhuthra'r plant i mewn, a'u twrw'n llanw'r Ue. Y cyntaf i mewn gaiff y sciw neu'r stôl. Ond nid oes un ohonynt yn ddigon anfoesgar i gymryd cadair freichiau'r hen wraig. Undodwraig yw Mari fel William Rees ei hun, ac felly, yn ôl rhai o'r rhieni diwin- yddol nid yw hi'n gadwedig, ond fe ŵyr pob copa Methodus o'r plant yng ngwaelod ei galon, fod Mari'n eithaf saff. Daw adeg y gwyliau maes o law a Mari'n smocio'i phîb yn ddiflas wrthi ei hun, oblegid y mae'r plant wedi myned, ac ni ddychwel- ant mwy. Mari a John. Am wn i, pe arhoswn i ddisgwyl am danynt, y dôi nifer fawr eraill, — Mari'r Cwm i adrodd stori am doili ac ysbryd, a'r modd y gwelodd y Bod Drwg ar ffurf creadur a dannedd mawrion yn ymddangos iddi hi a chyfeilles am iddynt dorri'r Saboth; a Mari, gwraig Leias Ty'nreithin, i "dorri'r llechau" ac i ddwyn eli i wella'r Eryrod. A Marged y Trafle. ("Marged," meddai rhywun, mi adroddaf stori dda i chi, ond i chi beidio a dweud wrth neb." Cha' i ddim blas os [Trosodd.