Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

na cha' i ddweud," oedd yr ateb. Ac fel yna y darganfu Marged gyfrinach calon pob cyfarwydd a chwedleuwr). A John y Clocian. a luniodd rhyw fath o dreisicl iddo'i hun cyn bod na beisicl na motor, a myned ar ei gefn. ac ennill iddo yr enw Yr Oto (sef yw hynny. yr Automaton wedi ei dalfyrru). Y bardd. Ac ambell waith daw'r bardd yno ar ei dro, sef John Jenkins, neu Shaci Pen Bryn." Cymerth ef y ffugenw Cern- gocli," oherwydd ei flewyn cringoch. Un- dodwr yw Shaci, a chredwr mewn rheid- iaeth. a chryn athronydd, ac ni fu neb erioed mor gyflym a ffraeth ei atebiad. Rywdro ceisiodd yr heddgeidwad ddi- rwyo'r bardd am gadw cert heb enw. Dyma fel y gwobrwyodd yr awen ef am ei drafferth: Mae Hughes o Undeb Ystrad Yn ddigon llon ei lygad Ond chwiliwch galon hwn o'r gwraidd, Mae'n fwy o flaidd na dafad. Dyna sut ddyn oedd Cerngoch. Pan adeil- adodd y contractor Lodge i Blas Llanllyr- tý bach pert. pert, tri chornel, heb lawer o le i neb tu fewn iddo ac yn afiaith yr artist wedi gorffen ei waith, disgwyliodd am deyrnged y bardd. Dyma gafodd: Adeilad wnawd mewn dwli !— un drudfawr Y droedfedd i'r seiri. O! wastraff ei ffenestri,— Hyll ei drem a lle i dn Ar ei orau. Yr oedd Shaci ar ei orau yn ddifyfyr, ac yn ei oriau hamdden, mi gredaf. y tueddai i ysgrifennu sothach. Ond y mae ei gerdd hela i gŵn y Neuadd Fawr ar gof pobl y Dyffryn hyd heddiw. Y mae ei "Benillion Felinfach. Pendrws" i'w defnyddio wrth ddyfod i gyrchu'r briodasferch adeg priodas fawr a neithior. a phenillion a gyfansoddodd i'r cariadau i'w hysgrifennu ar folantau, yn taflu llawer o oleuni ar arferion y cyfnod. Yr oedd o'r un Tylwyth ysbrydol â Thwm o'r Nant ond ar adegau codai'n uwch o lawer na Thwm. Dyma epigram o'i waith Mae llawer un o'r bechgyn Yn debyg iawn i'r gwenyn, Yn chwilio mêl at dâst ei hun Ar fwy nag un blodeuyn. Weithiau ceir rhyw gynhildeb anghyff- redin yn ei waith. Ym mha le bynnag y sonnir am waith Cerngoch dyfynnir yr englyr a gyfansoddodd i'r morwr ifanc hwnnw a aeth allan am dro mewn cwch a boddi: Iach hwyliodd i ddychwelyd,-ond ofer Fu dyfais celfyddyd; Y môr wnaeth ei gymeryd, Ei enw gawn. Dyna'i gyd. Saesneg hefyd. Er na chafodd rhyw lawer o addysg cyf- ansoddodd ambell i ddarn Saesneg, mae'n debyg, pan fyddai galw am hynny. Dyma ddarn o'i gân ar achlysur priodas y Capten Newland á Miss Maude o Blas Llanllyr: The Captain for a partner Searched home and far abroad, But conld not find a Iady So lovely as Miss Maude. A fcdrai'r Cavalier Poets yn Lloegr lunio llinellau mwy rhywiog a chain na'r ddwy olaf? Oni fedrwch weled y Capten yn chwilio holl wledydd am gymar ac yn ei chael yn y diwedd yn rhodio dolydd Aeron, yng ngolau'r lloer ? But could not find a lady So lovely as Miss Maude. Ar ambell foment cyrhaeddai rhyw ber- ffeithrwydd anhygoel ymron, megis yn y llinellau hynny sydd yn ei gerdd, Autumn He calls, and at His voice come forth The smiling harvest hours. Cafwyd ef rhyw fore yn gorwedd yn farw ar y maes yn agos i'w gartref. Heddiw. Nid yw'r Felinfach heddiw heb ei chymeriadau chwaith. Y dydd o'r blaen bu farw Dr. Evans, Aeron Yilla, neu. fel yr adnabyddid ef drwy'r ardaloedd-" Doctor Tynant, neu Doctor Gringrôf." Cladd- wyd ef ym mynwent Rhydygwîn, a hoffter diffuant hanner sir gyfan yn dorch o flodau ar ei fedd. A beth, meddwch chwi, am y pentref ei hun, ar wahân i'r rhai sydd yn byw ynddo­ ei dai a'i diroedd a'i bethau? Y mae hen eglwys Ued brydferth yn Ystrad. Mae dwy dafarn a siop, a co-operative stores yn y ddau bentref, ac y mae pwmp petrol yn Ystrad. Hoffwn yn fawr ei roddi ar dân. Ond fel y dywedais 'dwn i ddim rhyw lawer am y Felinfach sydd heddiw, er fy mod yno'n ddigon aml. 0 leiaf ni wn i fawr am y rhan wrthrychol ohoni. Ni fedraf ei gweled ond trwy ei chymeriadau. Dinah. Ac felly ni fedraf ond cofnodi ymhellach fod Dinah yn fyw ei gwala, mewn ffermdy taliaidd ychydig tuallan i'r pentref. Rai blynyddoedd yn ôl daeth gwraig oedd wedi ei tharo â rhyw fath o barlys, fel na fedrai symud llaw na throed, i fyw ati. Pender- fynodd Dinah, gan chwerthin yn llawen yn wyneb Rhagluniaeth yn ei dull ei hun, na chawsai mwyniant y ddaear basio heibio i'w chyfeilles yn ddi-daro. Ac mewn ffair, a chymanfa ac eisteddfod, a'r man lle byn- nag y ceid torf o bobl mewn hwyl chwi gaech glywed chwerthin a thwrw a gweled rhywun yn gwau'n gynhyrfus drwy'r dorf, sef Dinah yn cludo Marged Cross Inn mewn whilber, rhag ofn iddi golli mymryn o ddifyrrwch yr awr. Dwy flynedd yn ôl bu Dinah yn magu tair cath bach dan yr iâr, ac felly hyd heddiw y mae'n debyg fod pethau rhyfedd yn digwydd weithiau yn Nyffryn Aeron. YN "Y FORD GRON" NESAF Bydd rhifyn Medi eto yn llawn o ysgrifau gwych a darluniau tlws. PEIDIWCH A BODLONI AR ALW YN Y SIOP I EDRYCH A YDYW'R FORD GRON YNO. ORDRWCH EICH COPI.