Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DTDDIADUR DAFTDD HUWS, Siop Newydd, Llanarfon Trip i Lundain — a thân GORFFENNAF. GWENER, 1: Cyrraedd Llundain, a chwilio am y lle y cynhelid y siou gŵn. Canfod bod Yellow Peril," y ci, wedi newid ei liw. Nid German Hound mohono ond dyfrgi. Y stiwardiaid yn bygwth fy hel o'r cae. Gwanc bwyd ar Yellow Peril," a chymryd ffansi at Pekinese a'i lyncu yn ei grynswth, y goler a'r cyfan. Ei berchennog yn egluro bod y Pekinese, sef Champion Chop of Bermond- sey, yn werth can punt. Dweud wrtho y buasai fy nghi i wedi mwynhau pennog coch ceiniog yn llawn cystal. SADWRN, 2: Myned â'r dyfgi i'r Zoo. Ei werthu am ddeg swllt. Cael cip ar yr anifeiliaid. Y mwnewns yn ddiddorol neillduol, ond dim llawer o sgwrs i'w gael. Saeson oeddynt i gyd. Clywed plentyn yn dweud wrth ei fam fod un mawr wedi dianc, ac edryeh arnaf i. Ffaelu ei weled. Sul, 3: Ar hyd a lled Llundain. Gwr yn gofyn am ychydig fatshis. Colli fy watch. Goleuni, a hoffi'r syniad. Llun, 4: Teithio'n ôl i Lanarfon. Chwilio am fy nhiced i'r colector. Gwagio pob poced. Cannoedd o fatshis a phump watch. Edrych yn amheus arnaf. MAWRTH, 5: Practis y band. Paratoi ar gyfer Bull View. Dysgu Gwêr Hirach," a Hadau- deryn-dan-glo yn drwyadl. MERCHER, 6: Cardotyn yn yr ardd ffrynt yn bwyta gwelltglas. Tosturio, a dweud wrtho am fyned i'r ardd gefn,-fod y gwelltglas yn hirach yno. Dyn anniolchgar. Iac, 7:Clywed bod elw da am werthu pysgod. Ordro sein i hysbysu'r gymdogaeth. Talu punt am dano, sef pum swllt y gair, sef GWERTHIR pysgod FFRES TMA. Gwener, 8: Trafodaeth ar y sein. Llawer yn ei ganmol. Llu yn dweud nad oedd angen yma." Cydweld a gofidio am wastraffu coron. Un arall yn galw ac yn dweud nad oedd angen gwerthir." Fod pawb yn gwybod nad oeddwn y dyn fuasai yn rhoddi unpeth i neb. Un arall yn gwawdio, gan ddweud nad oedd angen pysgod ffres," gan fod yn bosibl eu hamgyffred o filltiroedd. Hiraethu am fy mhunt. SADWRN, 9: Pwyllgor caredigion cerdd. Pender- fynu cael cerddorfa yn Llanarfon. Addo helpu. Sul, 10: Seion y prynhawn. Athro. Y Mab Afradlon fel maes llafur. Goleuni newydd. Bachgen- nyn yn egluro bod yr hen wr wedi ei anafu wrth redeg i gyfarfod yr afradlon, ac wedi syrthio ar ei wddf." Synnu na fuasai'r esbonwyr wedi sylwi ac ymdroi mwy o gylch y digwyddiad. LLON, 11: Offerynau'r gerddorfa'n cyrraedd. Dewis y cello. Methu ei chael ar fy ysgwydd fel y gwna gŵr y ffidl. Cymryd ffansi i'r delyn, a meddwl am y dyfodol. Bodloni ar y symbalfl. MAWRTH, 12: Dim hwyl ar y pysgod. Amryw yn amau eu ffresni. Minnau'n egluro nad oeddynt wedi gorffen marw, ac fy mod yn cael trafferth i beri iddynt orwedd i lawr. Dangos cod cigog, a chyfeirid at y llygaid melancolaidd oedd ganddo, yn hiraethu am rywun i'w fabwysiadu. Ymbil yn ofer. MERCHER, 13: Practis y band. Dysgu Ffarwel Ddwy Goliflower a Cadw'r Hadyd." IAU, 14: Poeni am y busnes. Talu'r insiwrans tân to date." GWENER, 15: Biliau, biliau, biliau. SADWRN, 16 Bull View." Cael cyngor gan hen fandar to wet the whistle. Rhyw ofni bod y mwyaf- rif wedi mwydo gormod arni. Llanarfon yn chwarae gyntaf. Cymysgu'r miwsig, y drwm fawr yn cael sgôr cornet, a'r dwbl B. yn cael un y tenor horn." Rhyw gychwyn yn gyffrous, heb neb gyda'i gilydd, a gorffen yn lled ddiysbryd, rhai yn cychwyn o'r llwyfan cyn i'r gweddill orffen. Band Unlle'n (bron iawn) gyntaf, Rhosbresys yn ail. Pentre-sibols yn drydydd, a ninnau yn bumed. Un band heb gystadlu, a'r beirniad yn dweud y buasai hwnnw yn sicr o fod wedi chwarae yn well na ni ac felly yn gadael y pedwerydd lle yn wâg. Sul, 17: Teithio'n ôl i Lanarfon. Chwarae ar stesion Caer. Rhyw wraig yn cwyno bod yn gywilydd i gwmni'r rheilffordd beidio oelio olwynion y trên: y sŵn yn ei gwallgofi. Sathru ei chorn'hi. LLUN, 18: Isaac yn wael. Anfon ato a dweud bod yn rhaid iddo ddod i weithio pa fcuasai'n gorfod dod mewn hers. MAwRTH 19: Cyngor teuluaidd. Pawb yn un- frydol. Prynu pum galwyn o baraffin. MERCHER, 20: Mari y ferch yn holi pa bryd yr oeddwn yn meddwl riteirio. "Yforv," meddwn, "os bydd y gwynt yn ffafriol." Iau, 21: Cau y siop yn gynnar. Colli'r paraffin, yn hollol ddifwriad. Anghofio diffodd y gannwyll yn y werws. Hepian yn y gadair, a breuddwydio bod rhywbeth mawr ar ddigwydd. GwENER, 22: Deffro'n fore. Wedi cysgu yn y gadair. Aroglau llosgi, ond cael fy siomi,—Catrin oedd yn ffrïo bacwn i frecwast. Isaac yn egluro iddo ddiffodd y gannwyll. Rhoi siars iddo beidio â busnesu yn y dyfodol. Fy mod wedi gadael y gan- nwyll yn olau o fwriad, i gadw'r llygod draw. SADWRN, 23: Derbyn llythyr ffiaidd oddi wrth ffyrm lliw glas. Anfon atynt ac egluro fy nghynllun o drin biliau. Fy mod vn dodi'r holl filiau mewn het, bob mis, ac yn tynnu chwech ohonynt allan, ac yn eu talu. Rhoddi rhybudd i'r ffyrm os byddai iddynt anfon rhagor o lythyrau i fy nhramgwyddo, y buaswn yn peidio rhoddi eu bil yn yr het. Sul, 24: Myned â pharti am drip yn yr AIl Noise' i Lanlludw. Gormod o lwyth, a theithio yn araf. Ddim yn sicr o'r ffordd. Holi bachgennyn am y ffordd gyntaf a mwyaf hwylus i gyrraedd Llanlludw. Edrychodd yn ddifrifol ar vr AH Noise,' ac meddai Cerdded. LLUN, 25: Agor Clwb golff y Betws. Cael gwa- hoddiad. Cyflawnder o iechyd da yn rhad ac am ddim. Ceisio chwarae'r bêl bach. Gweled tair pob tro, a methu. Ffrind yn annog i mi daro yr un ganol. Methu wedyn. Holi pa un o'r tri phastwn oedd yn fy llaw oedd i daro'r bêl, a gofyn am bêl fwy. Penderfynu cael spectol newydd. MAWRTH, 26: Galw gyda'r meddyg llygaid i gael spectol fuasai'n chwyddo pethau i chwe gwaith eu maint, gan y byddai'n fendithiol wrth roddi newid i'r cwsmeriaid. Danghosodd y meddyg blât mawr gwyn, rhyw dair llath oddi wrthyf, a gofynnodd beth ydoedd. Pisyn tair," meddwn. Spectol wych. MERCHER, 27: Practis y band. Darlith gan yr arweinydd ar sobrwydd. Gorfodi pob aelod i seinio'r pledj. Dysgu Keep the home fires burning (Morebeer), a rhyw deimlo'n euog. Iau, 28: Yn y Betws, a gwrthod iechyd da." Egluro fy mod wedi cael fy ail eni. Y cyfaill yn fy ngwawdio, gan ddweud nad oedd yn fy nghoelio. Pe buaswn wedi fy ail eni. y buaswn wedi chwilio am wyneb tipyn mwy golygus, a dau ben glin nad oedd- ynt yn ymladd a tharo'i gilydd ar bob achlysur. GWENER, 29: Prynu rhagor o baraffin, a gwneud i Isaac ei dywallt i lawr tyllau'r llygod. Dodi matshis yn y tyllau hefyd. Egluro i Isaac fod phosphorus yn y matshis, ac yn wenwyn rhagorol i ladd llygod mawr. Clwydo'n gynnar. SADWRN, SO: Deffro'n fore. Arogli mwg. Siom eto. Gwraig y drws nesaf oedd wedi rhoddi'r simdde ar dân. Golchiad naw wythnos o ddillad ar y lein yn ddu gan barddu. Catrin yn egluro bod deall- dwriaeth rhyngddynt ers llawer blwyddyn, pan fo un yn sychu ei dillad, fod y llall i ffaglu'r simdde. Hoffi'r syniad. Good for trade ym myd y sebon. Sul, 31, Helpu Catrin i ail olchi y dillad yn y bore, eu manglo y prynhawn. Seion yr hwyr. WRTH YR ALLOR. NI chofiaf fawr o'r defodau Na'r geiriau a sibrydais i, Ni chofiaf fawr am y blodau Xa'r dyrfa, er cymaint eu rlii. Ni chofiaf lais y gweinidog A'i gyngor er gwaeth ai er gwell," Xa seiniau'r miwsig godidog Yn f'ymyl, ac eto ymhell. Cofiaf benlinio'n grynedig Am fendith y nefoedd ei hun, Ac O" gwn mai'r Anweledig Fu'n clymu'r ddau enaid yn un. Marian E. WILLIAMS. CWM WYRE. GWM dirgel, a'th dawelwch Dan y drain a'i dô, yn drwch! Cofiaf yr haf a'i ryfedd Rwydi o hud ar dy wedd; Daear las ac adar lu I lwyn gwanwyn i ganu. Oer a phell ydwyt bellach A'th dir byth, i adar bach. Nid oes wên, nid oes seiniau Yn y coed a'r mannau cau; Oriau distaw aflawen Nes daw'r nos a duo'r nen, Yna cwynion aflonydd Aderyn gwyllt draw'n y gwvdd. Draw y ceir, bellach, dir cân, Ac hafau wedi'r cyfan; Nid oes yma ond siomiant Heb gain hwyr a heb gân nant; Draw y mae yr hen dir mwyn, Einioes mewn cynnar wanwyn. 0 buraf hedd bore f'oes, 0 wanwyn cynnar einioes! J. M. EDWARDS. EIN HENWADAETH FFÔL- (0 dudalen 221.) Ni chredwn yr enillir ond ychydig Gymry i ymuno â'r Babaeth; ond y mae'n amlwg ei bod yn fyw iawn yn Lloegr a Chymru. Yr eglwysi ymneilltuol, hyd yma, fu'r gwrthglawdd cryfaf yn erbyn Pabyddiaeth yng Nghymru, a hwynthwy sy debycaf o fod felly eto ond rhaid iddynt ymuno'n helaethach os am fod yn nerth a dylanwad dros egwyddorion Protestaniaeth. Y mae gan Eglwys Rufain ei rhagoriaeth- au, ac y mae'n gangen o'r Eglwys Fawr Gristnogol. Ond fe ddywedodd golygydd Y Brython dro'n ôl: Hyhi (sef Eglwys Rufain), yn ôl ein barn ni, yw gelyn pennaf gweriniaeth a rhyddid. Dylid cofio mai un corff mawr cryf yw'r Pabyddion, a bod eu milwriaeth hwy yn erbyn amryw gyrff cymharol fychain o Brotestaniaid. Yn eu hundeb y mae nerth y Pabyddion, ac yn eu rhaniadau y mae gwendid y Protestaniaid. Dyma un o'r dadleuon pennaf dros uno'r enwadau Protestan- naidd. Ac y mae'r un ddadl yn wir am yr undeb y dadleuwn ni drosto yn yr ysgrif hon. Apeliwn yn arbennig at ein pobl ieuainc sy'n edrych yn fwy eang ar fywyd, i sicrhau undeb rhwng rhai o'r enwadau cyn hir iawn yng Nghymru.