Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"TU HWNT I'R LLEN" GYDA'R BARDD CWSG Gan y Parch. Dr. G. HARTWELL JONES ELIS WYNNE: GWELEDIGAETH CwRs Y BYD. Llyfrau'r Ford Gron, Rhif 13. Pris, 6c. TEBYG yw y medrai amryw ysgrifen- wyr Cymraeg yn yr oes olau hon gyf- ansoddi cystal tudalennau ag a geir yng ngweithiau Elis Wynne eto i gyd, erys y Bardd Cwsg yn glasur, yn gamp- waith rhyddiaith heb ei fath yn hanes llen- yddiaeth Gymraeg, oherwydd diddordeb parhaol y testun, oherwydd y goleuni a delfl ar gyflwr cymdeithasol Cymru yn ei amser ef, yn ogystal â'i deilyngdod llenvdd- ol. Bu dychmygion am y bywyd tu draw i'r llen o swyn diderfyn i'r meddwl dynol ymhob oes. Ysbrydegiaeth sy'n gweini i'r cywreinrwydd hwn heddiw. Gynt, ymdyr- rai proffeswyr crediniaethau dieithr i wled- ydd Groeg a Rhufain i ddigoni'r gnofa. Yn yr Oesoedd Canol rhedai'r mympwyon mwyaf gwyllt a disail ar led; gafaelid yn- ddynt gydag awch, chredid hwynt yn ddi- floesgni. Casglodd Danté lawer ohonynt, a'u corffori yn ei Comedia anfarwol. Hawdd dyfalu fod y fath syniadau'n gyd- naws â'r meddwl Cymreig, a cheir profion o hynny. Un ydoedd Purdan Padrig (cyf- ieithiad o'r Lladin) a ddisgrifiai brofiadau cynhyrfiol ac arswydus Owain Farchog yn nyrysfeydd yr ogof, ger Loug Derg, yng Ngorllewin Iwerddon, Ue'r ymgasgl 11 u bererinion hyd y dydd hwn. Darlun Uiwgar, ysmala. Nid ymddengys i Elis Wynne, fodd byn- nag, yfed yn ddwfn o'r ffynhonnell hon. Ar y llaw arall, yr oedd yn ddyledus am syn- iadau ac ymadroddion, i draethawd arall, sef Breuddwyd Pawl Abostol," a oedd yn fawr ei fri y pryd hynny. Benthyciodd ei gynllun oddi wrth yr awdur Sbaenaidd Cwevedo, yng nghyfieithiad L'Estrange. Ond anadlodd ynddynt fywyd newydd, a thrwythodd ei ddefnyddiau mewn ysbryd Cymreig. "Y mae'r awyrgylch, gan hynny, yn hollol Gymreig. Gesyd ddrych ger ein bron sy'n adlewyrchu bywyd cymdeithasol Cymru, disgrifiad arluniol, amryliw, ysmala. Gor- ymdeithia cybyddion, tafarnwyr, meddyg- on, rhagrithwyr, mursennod, medelwyr; gwagedd, ynfydrwydd, llygredd, drygioni, anwiredd, trwy ei dudalennau'n ddiorffwys. A fu Gweledigaeth y Nef? Rhoddir ar ddeall i ni i'r awdur gyfansoddi Gweledigaeth y Nef," eithr iddo, ysyw- aeth. ei losgi, oherwydd sorri ohono o dan y cyhuddiad o lên-ladrad. Amlwg yw ei fod a'i fryd ar ychwanegu at y gwaith, a gwae ni na chyflawnodd ei fwriad, oherwydd yno caem ei weled ar waith yn annibynnol ar ei ragredegwyr. Am ei arddull gref a chynhwysfawr, y mae bron yn ddifai. Yr unig frychau yw'r geiriau estron, o darddiad Seisnig gan mwyaf, a welir yma ac acw yn y Bardd Cwsg." Eto, prin y gallai eu hepgor mewn gwaith a ddarparodd ar gyfer gwyr lleyg yn ogystal a gwýr llên. Gesyd y Meistri Hughes ni dan ddyled newydd trwy ddwyn allan Weledigaeth Cwrs y Byd ar ei ben ei hun, mewn dull chwaethus, testun cywir, argraffwaith clir a Miss CASSIE DAVIES, Coleg y Barri, yn Diolch am Nia ERBYN hyn aeth cynnwys Llyfr Gwion Bach gan yr Athro Gwynn Jones yn rhan o etifeddiaeth llu o blant Cymru, yn enwedig wedi uno'r darnau â chaneuon Miss A. Watts, ac yn ddi- weddar â rhai rhagorach y Dr. J. Morgan Lloyd. Cymar.i'* gyfrol honno yw Llyfr Nia Faeh,i.V ond ei fod yn llawer mwy personol. (Llyfht^Nia FACH. Gan T. Gwynn Jones. Hughes a'i Fab, Wrecsam. Pris 1/6). Rhyfyg a fyddai ceisio pwyso a mesur gwerth llyfryn bach mor llawn o swyn a hwn. Beth a ddywedwn amdano? Dim ond rhoi diolch am Nia a'i theganau difyr a'i meddyliau pert, ac am ❷τ o berson- oliaeth fawr a dawn amrywiol yr Athro T. Gwynn Jones, a fedr ddeall a dehongli SYR J. MORRIS-JONES YN GWAWDIO MAMON GAN D. GWENALLT JONES Darlithydd ar Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. SYR JOHN MORRIS-JONES. SALM l FAMON A MARwNAD GRAY. Llyfrau'r Ford Gron. Rhif 17. Pris, 6c. WRTH gofio mai ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf y cyfansoddwyd y Salm i Famon, y gwelir ei newydd-deb a'i phwysigrwydd. Y mae'r watwargerdd hon yn nhraddod- iad cywyddau dychan Siôn Tudur, Edmwnd Prys, Siôn Brwynog a chaneuon rhydd fel yr Araith Ddychan i'r Gwragedd. Yr oedd Syr John Morris-Jones wedi ei drwytho ei hun yng ngwaith y cywyddwyr, fel y dengys ei Ramadeg mawr a'i lyfr ar Welsh Syntax, a gellid disgwyl gweled eu dylanwad ar ei farddoniaeth. Y mae Salm i Famon (a Cymru Fydd: Cymru Fu, hithau) yn llawn o adleisiau gwaith y cywyddwyr, y geiriau cyfansawdd, y sangiadau a'r ddyfais o roddi esiamplau sef enwi gwŷr a gwragedd fel Alecsander, Arthur, Absalom, Gwenhwyfar ac Esyllt. Ceir yn llawer o linellau'r Salm fwy o ddynwared yr hen gywyddau dychan nag o ddychan ar bechodau ei chyfnod. rhagymadrodd byr a phwrpasol gan y gol- ygydd, a'r cwbl am chwe cheiniog. O'm rhan fy hun, cyfaddefaf er efallai y sawra'r cyfaddefiad yn gryf o Philistiaeth- mai gwell gennyf argraffiad diweddar o'r math hwn, nag argraffiad gwreiddiol sydd yn dryfrith o wallau'r argraffydd, sydd yn loes i'r llygad ac yn torri ar rediad yr ieithwedd a'r cynnwys. Gobeithio y cawn yr holl Weledigaethau yn yr un gyfres ddestlus, ac yn yr un ffurf ddeniadol. rhyfeddod bore oes plentyn â'r un ffyddlon- deb ag y dehongla ramant oesoedd cynnar y gwledydd Celtaidd. Cefais i'r fraint o fynd i mewn am ychydig amser i fyd Nia, ac adnabod rhai o'i chyfeillion. Da oedd gen- nyf weld anfarwoli Magod (Madog y galwem ni ef) mewn cân. Adwaen ef oddi ar ddechrau ei yrfa, a melys yw'r cofion am dano. Difyr odiaeth yw darluniau Mr. Richard Huws, ac anghyffredin o real-rai ohonynt! Llawenydd yw gweld prif gyhoeddwyr Cymru yn sicrhau gwasanaeth yr artist di- ddorol hwn o Gymro. Ond syndod i mi yw'r ffaith na chedwir ar y clawr ddim o brif nodwedd lliw'r llyfr o'r tu mewn, — sef y coch, sydd mor addas i ddarlunio Nia fach a'i phethau. Beth yw ach bur wrth buraur A gwaed ieirll wrth godau aur? Wrth ei darllen yn uchel y mwynheir hi orau, ac y gwelir ei chymhwyster fel darnau adrodd ar lwyfan Eisteddfod. Ymarferiad rhethregol yw'r Salm i Famon; declamatio fydryddol. Ymosod chwyrn. Yr oedd Syr John Morris-Jones, wrth natur, yn ymosodwr chwyrn. Cafodd gyff gwawd, wrth fodd ei galon, ym Mamon. Y mae pawb yn addoli Mamon, y cyfoethog- ion, yr artistiaid, y crefyddwyr, ac, yn en- wedig, y clerigwyr; pawb ond y tlodion ac athrawon y Colegau. Canodd Horas ddychangerddi ar gyfoeth ac elwgarwch. ond y mae'r bardd Lladin yn fwy cymedrol a hynawsach na'r Cymro, a chanddo fwy o gydymdeimlad â gwendidau dyn. Y marwnad. Troswyd Marwnad Gray, cân enwocaf yr ysgol fynwentol o feirdd Lloegr yn y ddeu- nawfed ganrif, i'r Gymraeg gan Dafis Castellhywel, Eilir Evans, Gwenffrwd a'r Athro T. Gwynn Jones. Aralleiriad yw'r trosiadau hyn yn hytrach na chyfieithiad. Ceisiodd Syr J. Morris-Jones drosi meddyl- iau cân Gray yn gywirach a chyfleu purdeb ei harddull, ac y mae yn ei gyfieithiad fin a blas y gerdd wreiddiol.