Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Twf Llenyddiaeth Cymru, XV. T)r. LEWIS EDWARDS Y mae ei gysgod dros y ganrif i gyd. YN yr hanner can mlynedd rhwng 1810 a 1860 fe welwyd mwy o newid ym mywyd a syniadau Cymru nag odid ar un adeg yn ei hanes. Yn 1810 yr oedd bywyd yn debyg i'r hyn a fuasai ers 1650 (pan ddechreuodd syniadau Protestaniaeth gael gwir afael ar gorff y bobl) ac am resymau megis anawsterau teithio a phrinder arian parod, ychydig iawn oedd dylanwad estronol ar fywyd gwlad. Tyddynwyr oedd y rhan fwyaf o'r bobl, ac yr oedd tyniad naturiol y traddodiad y magwyd hwy ynddo yn sicrhau bod cenhed- laeth ar ôl cenhedlaeth yn dilyn yr un math ar fywyd heb fawr newid o ran agwedd meddwl tuag ato nac mewn dulliau byw. Erbyn 1860 yr oedd hyn oil yn prysur newid. O'r diwedd yr oedd y Chwyldro Gwaith wedi effeithio ar ansawdd meddwl Cymru fel Lloegr. Yr oedd tyddynwyr a phentrefwyr wedi gweld gallu arian a'r dulliau oedd wrth law i'w wneuthur trwy fasnach gynnil a dar- bodus. Rhwng 1810 a 1860 yr oedd Cymru wedi newid mewn ysbryd os nad mewn ffaith, o fod vn genedl o wladwyr i fod yn genedl dosbarth canol, dosbarth canol â chryn amrywiaeth ynddo o ran cyfoeth a dysg, mae'n wir, ond eto â chnewyllyn ysbrydol cyffredin i'w holl ddeiliaid, sef y dyhead am gysur tymhorol ac enw da yr hyn a elwir, weithiau mewn ed- mygedd ac weithiau mewn gwawd, yn barch- usrwydd. Ochr yn ochr â'r dyhead hwn fe ddaeth hefyd awydd mawr am addysg a diwylliant ysgol trwy bob dosbarth, awydd am gyfundrefnau mwy ffurfiol ar y gwahanol sectau crefyddol, a ffydd a gobaith yn naliadau politicaidd Rhyddfrydiaeth. Pwysigrwydd Lewis Edwards o'r Bala yn hanes Cymru yw ei fod yn cynrychioli'n well na neb arall yn ei ddydd yr holl dueddiadau hyn, a bron na ellid dweud mai ef oedd eu ffynhonnell. Nid ydym wrth ddweud hyn yn anghofio gwyr fel Gwilym Hiraethog, S.B., ac Ieuan Gwynedd, ond nid oes un ohonynt na chyn- rychiolir ef yng nghymeriad Lewis Edwards mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ac at eu doniau hwy fe roddwyd iddo ef ddawn y dipìomatist o geisio cydweithio â phob dos- barth er mwyn ei gynlluniau-ffaith a wnaeth iddo weithiau syrthio tan y farn gyffredin a roir ar y gwyr hynny o redeg gyda'r cadno a hela gyda'r own. BYWYD CARTREF. MEWN ffermdy bychan ger Penllwyn, Aberystwyth, y ganed Lewis Edwards, yn 1809. Bywyd cartref syml a gafodd, fel a welir hyd heddiw ar unrhyw fferm fechan ar ochrau'r mynyddoedd. Fe weithiai'r tad a'r fam, y plant a'r gweision, ar eu fferm fel un teulu. Gyda'r nos, wedi gorffen gwaith, eisteddent yng- hyd i siarad a darllen ychydig neu helpu gyda gorchwylion ysgafn. Nid oedd tlodi mawr fel a ddisgrifir gan Ap Vychan neu yn ddiweddar yn Cwm Eithin," yn gor- wedd fel pwysau arnynt. Ar y llaw arall, nid oedd ganddynt fawr foethau na chyfoeth. Cafodd Lewis addysg gan dri neu bedwar o ysgolfeistri pan oedd gartref a chan un ohonynt dysgodd Saesneg, a chan un arall Ladin a Groeg. Yna aeth i Aberystwyth i ysgol John Evans, oedd yn rhifyddwr da, ac oddi yno cawn ef, yn llanc, yn ysgrifennu problemau hawdd ar rifyddiaeth i Oleuad Cymru, ac amhosibl peidio â gofyn pwy a ddarllenai ac a atebai'r cwestiynau hyn. Penbleth. Wedi gorffen ei dymor yno, yr oedd ei rieni mewn penbleth pa beth i'w wneud ag ef. Nid oedd ganddo awydd mawr i fynd yn ôl ar y ffarm; ar y llaw arall ni fynnai fynd yn brentis mewn siop-yr unig beth a allai ei dad feddwl amdano. Cafodd ddod yn ôl at un o'i hen athrawon yn Llanfihangel — gŵr oedd yn dra hoff o Vergil ac yn gallu cynhyrchu yr un hoffder yn y bechgyn," ac yno yr arhosodd am flwyddyn, yn perffeithio'i Ladin a'i Roeg ac yn dechrau darllen llyfrau ar ddiwinydd- iaeth. Wedi hyn aeth i ysgol arall i Lan- geitho, ac yno yn ddiweddarach dechreuodd bregethu. Agor ysgol. Yr oedd yn awr wedi gorffen ei ysgol, a heb ddim arall i'w wneud. Penderfynodd, yn llanc deunaw oed, agor ysgol ei hun yn Aberystwyth. Dywedai yn ddiweddarach mai segurdod oedd yr unig reswm dros iddo gymryd y cam hwn, ond pan oedd ei dad yn ceisio'i berswadio i fynd yn siopwr neu ddilyn rhyw alwedigaeth arall dywedai y buasai cam o'r fath yn torri ar ei holl blaniau, ac anodd peidio â thybio fod y syn- iad am agor ysgol a bod yn athraw (y syniad Gan EDWARD FRANCIS. Coleg y Bala. a ffurfiodd gwrs ei holl fywyd) eisoes wedi llenwi ei feddwl ers blynyddoedd. Amddiffyn Cymry Llundain. Yr adeg hon Ceidwadwr o ran gwleid- yddiaeth oedd, ond cawn ef yn amddiffyn nifer o Gymry Llundain oedd wedi pleidio achos y Pabyddion yn erbyn John Elias o Fôn oedd am eu diarddel o'r Eglwys Feth- odistaidd yn Jewin lle yr oeddynt yn aelod- au. Teflir goleuni diddorol ar gwrs ei addysg hyd yr amser hwn gan ei gofiannydd, a dywed na wyddai ddim y pryd hyn am len- yddiaeth Saesneg-ei brif a'i unig astud- iaeth oedd rhai o'r awduron clasurol a gweithiau diwinyddol. Wedi aros yn Aberystwyth ysbaid cafodd wahoddiad gan flaenoriaid capel Llangeitho i fynd yno yn ysgolfeistr ar yr ysgol y bu ef ei hun lai na blwyddyn cynt yn ddisgybl ynddi, ac yno yr arhosodd am flwyddyn arall yn dysgu llanciau oedd mor hen ag yntau. Y Corff a'i addysg. Pan oedd yn 20 oed fe ddigwyddodd deu- beth pwysig iddo fe'i derbyniwyd ef yn aelod o'r Gymdeithasfa yn Llangeitho a chafodd swydd fel athro teulu gyda gwr o'r enw John Lloyd, Pentowyn, a chafodd yno weled bywyd teuluol gŵr ychydig mwy cefnog na'r cyffredin o aelodau'r Hen Gorff y pryd hwnnw. Dechreuodd bregethu ar y pryd, ond teimlai awydd mwy am ychwaneg o addysg, ac yn 1830 cawn Gymdeithasfa'r Method- istiaid yn rhoddi caniatâd iddo i fynd dros ysbaid o flwyddyn i'r Iwerddon i Ysgol y Secedero, dan yr amod o ddychwelyd yn ôl i lafurio yn y Corff. [Trosodd.