Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CLEBRAN-o dudalen 228. B'le mae Pegi? meddai yntau. Wir 'wn i ddim Ar hyn, yn erbyn ei hewyllys megis, sib- rydodd Sali enw Kerrymore. Ac wedi dechrau, gollyngodd Maria a Sali ffrydiau eu digofaint oddi ar eu tafodau mewn stori ar ôl stori faleisus. Ni fynnai Bob eu coelio am dipyn, er ei natur ddrwg-dybus. Ond, o wrando ym- hellach, deffrôdd ofnau a syniadau fu hyd yn hyn fel pe baent yn hepian yn. ei galon. O'r diwedd, credodd. Fe beidiodd ei ddig at Maria a Sali Roberts, ac fe ddiflannodd hefyd ei ffydd yn Pegi. Fel llong heb angor na llyw, ni wyddai i ble'r âi. Ymhen tipyn cafodd ei fod yn y Blue Bell. Ceisiodd dorri syched ei ddig yno, ac eisteddodd yn y parlwr mewn niwl o feddwdod. OAN gyrhaeddai llong yn ôl i Amlwch o fordaith hir, yr arferiad oedd dathlu'r digwyddiad gyda llawer o rialtwch. Fe ddeuai'r bobl at ei gilydd mewn pant cyf- leus ar rosdir uwchben y cei. Yno yr oedd dwy neu dair o farilau cwrw o waith cartref. Goleuid y llecyn gan ffaglau, ac yn eu llewych ansicr gwelid pob gradd o drigolion yr ardal, yn fechgyn a genethod, yn wýr ac yn wragedd. Byddai yno delynor neu ddau hefyd, a byddai bri ar ganu a dawnsio. A thrwy'r cwbl clywid tinc y peintiau piwter yn taro wrth ymylon gwlyb y piserau cwrw. Ar ôl hanner sobri mewn trwmgwsg ar setl y dafarn, cyrhaeddodd capten ifanc y Jane Grey y dyrfa lawen hon. Croesawyd ef â bloeddiadau cyfeillgar: ymunodd yntau â'r ddawns a gwrando ar ddatganu hen alawon Cymraeg a chaneuon y môr. Yfodd eto yn helaeth o'r cwrw ac anghofiodd Pegi yn llwyr am y tro. Nid oedd Sali Roberts ymhell oddi wrtho trwy'r amser. Unwaith neu ddwy buont yn dawnsio gyda'i gilydd. Craffai arno, a phan ddeallodd fod ei feddwl am Pegi eto wedi ei bylu gan ddiod, hawdd oedd ei ddenu o'r dorf-a diflannodd y ddau i'r gwyll. Eisteddai Pegi mewn distawrwydd wrth droed y gwely lle'r oedd ei thad erbyn hyn mewn cwsg esmwyth. Bu'r meddyg yno, gan drin y llosg a lliniaru poenau'r hen wr. Methai Pegi ddeall beth a rwystrai Bob rhag dyfod yno. Dychmygai efallai nad oedd y sgwner wedi cyrraedd, neu efallai fod ei chariad yn sâl. Clywodd gliciad y drws-dyma fo'n dwad o'r diwedd! Cododd yn ddistaw ac aeth i drws y siambr. Siom eto, — dim ond Kerrymore oedd yn dyfod, gan ofyn, Sut mae o erbyn hyn? Methodd Pegi lunio geiriau i'w ateb gan rym ei siom; pwyntiodd at ei thad. Ar y pant yn y rhostir yr oedd y sychedig wedi godro'r gwaelod o'r barilau gwag tan olau tenau y ffaglau. Darfu'r hwyl. ac aeth y pentrefwyr i 'w cartrefi gorau y gallent yng ngolau lleuad hen. Aeth Sali, a'ibraich am wddf Bob Lloyd, at dy ei mam yn y pentref. "Arhoswch yma hefo mi heno, Bob," ebe Sali, ond gwrthodai Bob. Yr oedd ganddo waith i'w wneud-yr oedd ei ymennydd yn dechrau gweithio eto. Mi â i i'r Hafod Lon i setlo'r gownt â Mr. Kerrymore! Arhosodd yn sydyn, mwmiodd Nos dawch a chamodd yn ansicr drwy'r lleol wag. CEFNODD ar y pentref, a dechrau dringo'r tyle hir tuag at y mynydd oedd fel bwystfil yn lled-orwedd dan wylio'r trysor copr yn ei grombil. Tynnodd y capten ei gyllell o'i châs, a rhedeg ei fawd ar hyd ei min. Fe gai Mistar Kerrymore ddiodde' fe gâi dalu liefyd. Diawl, beth ydy' hwn — reilins? 'Roedd cyn dywylled â'r fagddu. Ni wyddai ddim ble'r oedd. Ar ôl ymdrech aeth dros y reilins, a dringo'r rhiw yn ei flaen. Dyma reilins eto mae'r caeau 'ma wedi eu cwtogi Mi arhosaf i gael fy ngwynt ataf cyn dringo dros ben y rhain." Eisteddodd ar y llawr a'i gefn yn pwyso ar y reilins. Teimlodd fin ei gyllell eilwaith, a daeth ffrwd o regfeydd o'i enau, epil ei ddigofaint ac yn y cyffro neidiodd ar ei draed. Dringodd y reilins yn frysiog a dis- gyn yn lletchwith ar yr ochr arall iddynt. Teimlodd ei draed yn llithro dano rhwng mân gerrig ar lechwedd serth. Mewn amrant sobrodd, a sylweddolodd mai wedi mynd dros y reilins o amgylch un o siafftiau'r gwaith yr oedd, a'i fod yn llithro'n gyflym i enau'r siafft. Gafaelodd yn wyllt â'i ddwylo yng ngwreiddiau grug ar ymyl y siafft. Fe ataliodd hynny ei gwymp, a dyna fo'n hongian mewn afon o chwys uwchben y gagendor. Dduw! 'roedd ei bwysau'n ysigo'r gwreiddiau! A fedrai gymryd y siawns o ollwng gafael un llaw ac ymbalfalu am dusw cryfach â'r llall? Mae'n rhaid imi," meddai. Gollyng- odd ei afael gan gydio'n reddfol yn dynnach â'r llaw arall. Mi ddaeth y grug yn rhydd -a dyna'r diwedd. BEN bore drannoeth canfuwyd ei gorff di- lun gan y meinars. 'Roedd y ddedfryd yn gwbl naturiol- Ei ladd ei hun." Ac ychwanegai'r pentrefwyr, Ac ar Pegi Hughes yr oedd y bai. DIWEDD. Eisteddfod GadeiriolMon, Porfhaethwy. LLUNGWYN a MAWRTH, 1933. Corau Cymysg (agored) Gwobrau £ 90. Corau Meibion (agored) Gwobrau £ 70. JË500 mewn gwobrau. Rhestr Testunau, 4Jc. drwy'r post. Anfoner at: Tbepob Jonbs, Ysg. Cyffredinol, Business Training College, Porthaethwy. LEWIS EDW ARDS-o dud. 240 welir maes mor eang oedd iddynt-dargan- fyddiad newydd Edison, y telegraff, Addysg Gyffredinol, Morgan Llwyd, y Chwyldro yr. Ffrainc, Goethe, Athrawiaeth Kant, Yr Hen Brifysgolion a'r Prifysgolion i Gymru: y mae'r dewis yn dangos meddwl eang n dysg hefyd. Ac y mae'r deunydd yn dda yn gystal â'r dewis. Yn ei erthygl ar Morgan Llwyd cawn y cynnig cyntaf mewn agos i ddau can mlynedd i fesur gwerth a ll'e'r cyfrinydd gwych hwnnw, ac y mae'r weledigaeth sydd gan Lewis Edwards o werth, a lIe ei waith yn profi ei fod yntau hefyd yn llenor o ddi- wylliant a dychymyg. Yna, yn ei erthygl ar Goethe a'i gyfieith- iadau o ddarnau o Faust, gwelwn fesur da o haelioni meddwl ac ysbryd peth oedd ddigon prin ar y pryd yng Nghymru. Pan sonia yn ei lythyrau am Williams Pant- ycelyn, dyry mewn byr eiriau gnewyllyn mawredd Williams, ac y mae Ile i ofidio nad ysgrifennodd draethawd ei hun ar destun yr oedd ganddo lawer o gydymdeimlad ag ef. Ei fai mwyaf. Bai mwyaf Lewis Edwards oedd ei ar- ddull. Gwaith anodd iddo, mae'n ddiau, oedd ysgrifennu Cymraeg, ac efallai mai dyna'r rheswm, yn fwy na snobyddiaeth, mai yn Saesneg yr ysgrifennai at bron bawb o'r cylch Cymreig a adwaenai; hynny, efallai, a'r dyhead am arfer Saesneg mor fynych ag y gallai er mwyn ei pherffeithio yn ei wahanol gyfeillion. Arddull chwyddedig, reithegol ei ddydd sy ganddo, ac ni wnaeth ei astudiaethau diwinyddol fawr les i hynny, canys honno oedd arddull gyffredin diwinyddiaeth ac athroniaeth yn Lloegr. Yr oedd peth o'r ysbryd hwn yn holl agwedd Lewis Edwards at lenyddiaeth-gwasanaethferch i grefydd oedd yn bennaf, a chyfle i'r proffwyd weiddi'r genadwri i'w oes ei hun, fel y credai Carlyle a'i gyd-oeswyr yn Lloegr a Scotland. Ymgais nobl. Ond er gwaethaf hyn oll, ni fedr neb a geisio fod yn deg a di-ragfarn beidio â gweled yn holl waith Lewis Edwards ym- gais nobl ac anhunanol, yn codi'n bennaf oddi ar awydd i ganolbwyntio bywyd medd- yliol Cymru a rhoddi iddo sianel at oleuni a datblygiad gwell na mân ddadlau a chwerylon enwadol, at sylwedd athroniaeth yn hytrach nag at ei allanolion. Ac fe lwyddodd yn hyn o beth-pa un ai er da ai er drwg sydd fater arall i'r hanesydd ei ben- derfynu. Fe ddechreuodd fudiad athron- yddol a diwinyddol yng Nghymru a ddylan- wadodd yn helaeth ar ddiwedd y ganrif. Pan ddarllener ei waith, anodd peidio ag anghytuno, a'i feirniadu, ac weithiau ei gasáu, ond nid oes ond eisiau ceisio'i bwyso yng ngolau'r oes a'i cynhyrchodd i wybod bod calon a greddf y gŵr a'i sgrifennodd yn iach, er mor groes ei syniadau a'i athraw- iaethau ar bynciau canolog addysg a llen- yddiaeth. YN BISIAU.-Copi o'r gân Gwlad yr Eistedd fodau (R. 8. Hughes). Y mae Mri. Hughes a'i Fab, Cyhoeddwyr, Wrecsam, yn barod i dalu pumswllt am y copi da cyntaf a anfonir i mewn.