Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL m. BHIF 1. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WBECSAM. Teliŷbn: Wrecsam 622. London Agency: Thanet House, 231-2 Strand. Pen y Tennyn. YN ystod y mis fe fu'r di-waith tua Belfast yn gwrthdystio hyd farw yn erbyn eu cyni. Fe ddangoswyd bod yr esgid yn dechrau gwasgu, a bod goddefgarwch tua phen ei dennyn. Pe gellid casglu at ei gilydd bob cwyn a glywir yn erbyn creulondeb y means test, fe geid banllef o brotest a rwygai'r awyr fel y gwnaeth "cymloedd groch Camlan" gynt. Efallai yn awr y bydd tipyn bach o lacio ar y gefynnau cynilo a roddwyd ar y deyrnas. Eisoes fe ganiatawyd estyn tipyn mwy o gardod yma ac acw, a rhoddi tuag at wneud ffyrdd a gwaith tebyg. Ond cynilo, cadw'r costau i lawr, gwario cyn lleied ag a ellir-dyna bolisi'r awdurdod- au o hyd, er bod agos i dair miliwn heb na gwaith na modd i fyw ac na ellir dis- gwyl newid am hir amser. Yr Aberth. A MSER a ddengys ai doeth ai annoeth ceisio diogelu safle arian ar draul aberth eraill, a cheisio cael mwy o waith drwy hwyluso masnach rhwng Prydain a pharthau'r Ymerodraeth yn unig. Y perygl, yn y 11e cyntaf, ydyw i bobl y farch- nad arian dybio mai'r un peth ydyw eu lles hwy â lles y wlad; ac, yn yr ail Ie, i brisiau popeth godi'n uwch na'r cynnydd yn y cyf- log a'r elw a allai ddyfod o ragor o waith. "Pawb drosto'i hun;" "trechaf treisied, gwannaf gwaedded dyna fydd arwydd- eiriau dynion unwaith eto yn eu perthynas a gilydd. Dichon y bydd yn gystal ar dyddynwyr Cymru, er garwed eu byd, ag y bydd ar neb, gyda rhyddid ganddynt yn fwy na'r rhelyw i wneud bywyd ac nid byw- oliaeth yn nod beunyddiol, fel yr awgrym- odd Dr. Alun Roberts ar y radio. Plant Cymru. BU'N drigain mlynedd hir er pan gych- wynnwyd pennod newydd yn hanes addysg Cymru gydag agor Coleg y Brif- ysgol yn Aberystwyth. Newidiwyd llawer ar syniadau pobl ddeallus yn ystod y trigain mlynedd gyda golwg ar addysg yn gyffredinol ac ar ddi- wylliant Cymru yn neilltuol, ac fe hoffem fedru credu bod Coleg Aberystwyth, a Bangor a Chaerdydd yr un modd yn cadw golwg ar y newid. Fe gafwyd un newid, o leiaf, a hwnnw'n newid o ran dull, a fuasai'n edrych yn rhyfygus drigain mlynedd yn ôl, sef darlithoedd ar iaith a llên Cymru yn Gymraeg. Fe gofir mai yn Saesneg y byddai hyd yn oed Syr John Morris Jones yn traddodi ei wersi gwych un- waith. Y mae arnom ofn mai ychydig o gymorth a gynigia colegau'r Brifysgol i unrhyw ym- drechion dros gael hyfforddiant Cymraeg yn ysgolion y wlad. Stamp delfryd addysg Seisnig a roddir, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar y cannoedd athrawon a droir allan o'r colegau, ac er bod trefn felly'n hwyluso'r ffordd i nifer fawr fedru ennill eu bywoliaeth yn Lloegr, y mae'r teimlad yn cryfhau nad yw addysg plant cyffrediu Cymru yn fawr ar ei fantais. Saeson, wrth gwrs, sy'n benaethiaid cangen Addysg ymhob un o'r colegau ar hyn o bryd. Pan ddaw cyfle, purion fyddai gwneud y gangen Addysg mewn un coleg, dyweder, i gychwyn, yn Gymraeg trwyddi, modd y caffai athrawon a fwriadai aros yng Nghymru yr hyfforddiant priodol. Y ser a ninnau. BEIDDIODD Esgob Birmingham ddat- gan ei gred y gall fod bodau syn- hwyrol yn byw yn y planedau, ac y gellir rywdro, efallai, ddod i gyffyrddiad â hwynt. Y mae gwyddonwyr, wrth gwrs, o'r farn hon ers blynyddoedd. Dywedir ei bod bron yn sicr mai camlesi dŵr ydyw'r llinellau union syth y gellir eu gweled drwy'r telescôp ar y blaned ruddgoch sydd ymysg yr agosaf atom, sef Mawrth. Ond y mae'r blaned hon gan miliwn milltir i ffwrdd, a hyd yn oed pe gellid gwneud arwyddion gweladwy rhyngddi hi a'r ddaear, pa fodd y gallai'r naill na'r llall ddyfeisio arwyddion a ddëellid? Y mae'r radio, fodd bynnag, yn agor drws newydd i fodau'r ddau fyd ddyfod i gyff- yrddiad â'i gilydd. Fe dybia gwyddonwyr eisoes mai o Fawrth y daw seiniau neilltuol a glywir ar y radio na ellir eu dosbarthu na'u lleoli. Rhaid cofio nad yw celfyddyd a gwyddor y radio ond yn eu plentyndod yn ein hanes ni (hyd yma, fe fethwyd cael peth bach fel gorsaf i Gymru); ond y mae Mawrth yn hen, a'i thrigolion, os oes yno rai, yn debyg o fod ganrifoedd lawer ar y blaen i ni o ran deall a diwylliant. Efallai eu bod hwy eisoes yn derbyn ein tonnau radio ni ac wrthi'n ceisio datrys a deall yr hyn a glywir, er mwyn dyfod o hyd i ryw linyn cysylltu. Efallai eu bod, ganrifoedd yn ôl, wedi setlo'r pethau dyrys sy'n gwneud bywyd yn faich i fwyafrif pobl y byd hwn, a'u bod yn awyddus i ddangos y ffordd allan o'r rhwyd. Darfodedigaeth newydd. "DOB clod i bobl y Ponciau, Sir Ddin- bych, am fynnu cael enw eu treflan yn ôl wedi blynyddoedd anesmwyth o ddi- oddef Ponkey. Tybed a symud Cymry Ruabon yn yr un cyfeiriad? A Seisnigwyd Sir Faesyfed yn ormod i obeithio gweled Rhaeadr yn ôl yn lIe Rhayader? Beth am adfer enw'r Abermaw prydferth? Efallai, er hynny, fod mwy o angen galw sylw heddiw at y Seisnigo sy'n mynd ymlaen dan ein dwylo. Diddorol iawn fu gwaith Cymdeithas Enwau Lleoedd yn chwilmanta ac yn olrhain enwau yng Nghemyw. Yno y mae'r iaith wedi marw, a'i hesgyrn yn aros mewn ambell enw lle i nodi'r modd y daeth yr angau arni. Cutcare yw enw cwta un lle; pwy fuasai'n meddwl edrych yno am fawredd "Coed-y-Gaer"? Aeth y "Parciau Dwr," fe debygwn, yn "Purgatory;" Pen- y-cwm-gwydd yn Penny-come-quick;" y Wendre yn Wanderer Ysguboriau yn Skyburrio a Coed-ty-glas (i bob golwg) yn Cost-is-lost. Y mae'r un haint marwol ar waith yng Nghymru heddiw. Eisoes fe glywir ar lafar enwau a welir cyn hir ar ddu a gwyn, megis "Penny Ford": "Porth-call," "Lisvane," "Lanfer;" "Penny Gross;" Penmun More;" Amluck;" Tally Caffn;" ac oni chlywyd gŵr y radio yn dywedyd Pontar- doolay" am Bontardulais? Dyna arwydd- ion anffaeledig y darfodedigaeth a loriodd Gymry Cernyw. Tipyn o haearn ydyw'r feddyginiaeth a gymhellwn ni: seinio'r enw priodol yn eofn a hyglyw bob cyfle, a chywiro-yn gwrtais ond yn gadarn­bob camseinio.