Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron GAIR I GYMRU O'R AIFFT At Olygydd Y Ford Gron. Y" DYN, adwaen di dy hun." Y mae lle i ofni bod cenedl Cymru heddiw wedi mynd i ddiogi meddwl, a'r awydd a'r gallu i'w hadnabod hi ei hun bron wedi diflannu. O ganlyniad, y mae personoliaeth y genedl bron wedi darfod amdani gyda ni. Ac nid o ddiffyg rhybuddion. Ar hyd y blynyddoedd, y mae un neu ddau yn dal i godi eu lleisiau yn y diffeithwch; ac y mae rhyw lond llaw athrawon gwlatgarol yn ymdrechu i gael gennym gymryd rhyw ronyn o ddiddordeb yn ein gwlad. Ond yr ydym fel pobl wedi mynd yn debycach i yrro ddefaid nag i genedl o fodau teimladwy gyda meddyliau annibynnol. Gallu'r defaid i feddwl sydd gennym; ac ymddygiadau defaid sydd eiddo inni heddiw. Popeth o Loegr. Mae pob agwedd Gymreig o fywyd ein gwlad bron wedi ei ladd. I ble mae bywyd crefyddol Cymru wedi mynd? Mae'n heglwysi a'n capelau yn weigion; a'r unig ystyr iddynt heddiw ydyw'r un ag sydd iddynt yn Lloegr. Mae aelodaeth eglwysig yn rhoi ryw rith o barchusrwydd i'n bywydau llac a di-gred. A dyna'n diwylliant fel cenedl hefyd wedi ei roi ar y silff ers talwm; gan ein bod wedi dod i gredu bod diwylliant Lloegr yn fwy neis. Mae rhyw ddyrnaid o'n ysgolheigion yn llafurio yn galed i geisio cael gennym weld gwerth yn hen ddiwylliant ein gwlad. Ond maent "fel arwerthwyr yn gweiddi uwchben eu byrddau Ilawn, ar y dyrfa sydd wedi cefnu. Mae pethau estronol yn fwy gweddus gennym, dyna'r correct thing erbyn hyn. Gwleidyddiaeth, addysg, bywyd cymdeithasol, popeth o Loegr; lliw, llun ac arogl Saesneg ar holl fywyd Cymru heddiw. Chwalu heb golli. Pan ddaw sôn weithiau, fod rhyw Sais yn Llundain wedi bod yn fwy diystyrllyd ohonom nag arfer, dyna gri fawr yn codi ein bod yn dioddef dan ormes a dirmyg y Sais. A rhyw unwaith yn y flwyddyn, yn hollol gyson a rheolaidd gwnawn ryw arddangos- iad llwyd ein bod yn genedl wahanol. Pam nad edrychwn ffeithiau yn eu hwyneb? Onid arnom ni ein hunain mae'r bai ? Onid ydym ni yn dioddef yn hytrach oddi wrth ddiffyg teimlad, diogi meddwl, a llwfrdra moesol, ac yn y diwedd yn ddigon digywilydd i roi'r bai ar estron? Cymerer ein bywyd crefyddol. Yn ein sêl vn chwalu a datod hen gredoau a ffurf- iau, yr ydym heddiw heb gredo o gwbl. Ni, y genhedlaeth hon, yn enw datblygiad, wedi chwalu pob athrawiaeth a roddwyd inni gan ein tadau; ond yr ydym hefyd wedi llwyr anghofio codi rhywbeth yn eu lIe, i'w basio i lawr i'r cenedlaethau sydd i ddod. Beth sy gennym i'w roi iddynt hwy? Dim ond adfeilion. Mae Eglwys Cymru yn farwaidd, ac am fyd yr enwadau anghydffurfiol, onid enw y mwyaf ohonynt sydd fwyaf addas,- Yr Hen Gorff? Yn sicr mae'r ysbryd wèdi ymadael. Ein duo'n hunain. Mae'n bywyd cymdeithasol hefyd yn brysur fynd yn gopi o fywyd Lloegr. Ac addysg wedi mynd yn fater o droi allan beir- iannau ennill bywoliaeth, yn hytrach na magu meddyliau abl i fwynhau y bywyd helaethach. Bron nad yw'r Alphas a Betas a'r gweddill o greaduriaid dienaid llyfr diweddar Aldous Huxley, eisoes wedi eu geni. Eto, yn ein gwleidyddiaeth, opiniynau Lloegr a'r Ymerodraeth sy gennym gan mwyaf. Tybed fod Ymerodraeth Prydain yn an- ffaeledig? Os ydyw, hi fydd y gyntaf. Mae lle i ofni ein bod yn siglo'n hunain i ffug- sicrwydd a pharadwys ffyliaid, gan gredu na all ymerodraeth mor fawr fyth syrthio. Gwrthod symud ymlaen y mae ein gwleid- yddwyr i gyfarfod â ffeithiau bywyd heddiw, am fod y rheini'n gwrthod ffitio i mewn i hen gyfundrefn. Onid gwell fyddai ceisio creu cyfundrefn newydd o bethau gorau'r hen, i gyfarfod ag anghenion y dydd? Deffro i fywyd. Trwy wreiddioldeb y datblyga dyn ei ber- sonoliaeth, ac y mae'r un peth yn wir am genedl. Heb ddatblygu ei bersonoliaeth unigol, ni all dyn fod o fawr werth i gym- deithas. Yn union yr un fath, trwy ddat- blygu ei phersonoliaeth y daw cenedl yn fawr ac o wasanaeth mewn byd o genhed- loedd. Ac onid mater o ysbrydoliaeth yw teyrngarwch ? Nid Cymru i'r Cymry yn unig sydd ddigon; ond Cymru well er mwyn dynol- iaeth. A'r unig ffordd i gyrraedd ati yw ail- ddechrau meddwl yn ogystal â siarad yn Gymraeg. Rhaid inni fel Cymry ddeffro i gymryd diddordeb meddylgar yn ein bywyd. a chymryd camre rhesymol ac effeithiol godi'r hen wlad i safle o hunan-barch. Nid yw o un diben feio na chynghorwr lleol, nac Aelod Seneddol na Sais, am fod yn anystyr- iol o ddyheadau y genedl. Ni, bobl y wlad sydd yn ddiog a hanner marw, ac mae yn rhaid inni ddadebru os am fyw. E. H. LEIGH PIERCE. Aswân, Yr Aifft. Protest Awdur. At Olygydd Y Ford GRON. "PEL awdur o Gymru, carwn brotestio trwy'r Ford Gron yn erbyn yr arfer o argraffu adroddiadau mewn rhaglenni eis- teddfodol. Ni bydd y pwyllgorau byth yn breudd- wydio am argraffu'r unawdau a'r darnau cerddorol eraill a osodir i gystadlu arnynt- dim ond rhoddi enw'r darn, a'i gyfan- soddwr, ac yn helpu i werthu ei waith. Fe ddylid gwneuthur yr un peth gyda'r adroddiadau­rhoddi enw'r darn, a'i awdur, a'r llyfr y ceir ef ynddo. Nid yw hyn ond tegwch â beirdd ac ysgrifenwyr Cymru, sydd arnynt gymaint o eisiau gwerthu eu llyfrau ag sydd ar y cerddorion eisiau gwerthu eu cerddoriaeth. CYMRO. Map Cymraeg. At Olygydd y Ford Gron. "V" MAE gennym yn yr ysgol fap o Gymru a'r enwau i gyd yn Gymraeg. Mesura 40 modfedd o hyd a 30 modfedd o led. I'm tyb i, mae'n fap rhagorol. Wele ddisgrifiad ohono: Map Excelsior Gymru. Golygydd: Mr. Timothy Lewis, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Cyhoeddwyr: G. W. Bacon & Co., 127, Strand, Llundain. R. H. GRUFFYDD. Ysgol Ganol, Penfforddfelen, Arfon. I barchu cof Syr "O.M." At Olygydd Y Ford Gron. DIDDOROL y sylwadau a'r beimiad- aethau ar y pwnc uchod yn eich Bwrdd Cyfnewid." Ni all ond da ddeillio 0 wyntyllu'r gwahanol syniadau, ond gofalu na ddyrner dim ond y pwnc dan sylw. Beth am syniad tlws yr Athro R. T. Jenkins yn y Llcnor am Wanwyn 1930? Dywaid ef mai un o'r dulliau gorau i ddangos ein parch at yr annwyl O.M." fyddai trefnu teithlyfr (Guide Book) Cym- raeg am Gymru drwy ba un y caffai plant a phobl ieuainc Cymru wybod safle a hanes, a chysylltiadau hanesyddol a llenyddol y Cartrefi a'r cysegrleoedd. Oni ellir ychwanegu awgrym yr Athro at y lliaws i feddwl amdanynt? D. AWSTIN WILLIAMS. Marianglas. Ysgol Ynys Enlli. At Olygydd Y Ford GRON. /^OFYN y Parch. W. J. Jones, Bodedern, am eglurhad ar frawddeg a ddefnydd- iais yn fy ysgrif ar Ynys Enlli (Rhifyn Awst o'r FORD GRON). Dyma fel yr ysgrifennais,- Cefais y fraint o agor ysgol dan nawdd y Bwrdd Addysg yn y flwyddyn 1919. Hon ydoedd yr ysgol gyntaf a fu yn Ynys Enlli. Yr hyn a olygwn ydoedd mai yn y flwyddyn 1919 yr agorwyd Ysgol Elfennol Gyhoeddus am y tro cyntaf ar yr Ynys. Dyma'r pryd y cofrestrwyd ysgol Ynys Enlli gan Fwrdd Addysg Llundain, ac y'i dodwyd ar restr Ysgolion Cyngor Sir Gaer- narfon. OLWEN ERYRI. Y CYMRO (Sadwrn cyntaf Rhagfyr.) OS am bur bapur o'n byd-ein hunain, A hanes yr hollfyd, Ym mhob tref a gwlad hefyd, Dyma fo, yn Gymro i gyd. GWILYM DEUDRAETH.