Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mr. WM. EAMES yn dangos bod Eisiau Cymry i Werthu MI soniais yn Y Ford Gron Ebrill, 1931, am y gwaith a'r swyddi o am- gylch ein trefi a'n pentrefi sy'n mynd yn gyson i ddwylo Saeson uniaith,-swyddl y gallai Cymry yn hawdd ymgymryd â hwynt, a thrwy hynny wneud llawer i feith- rin a chadw'r traddodiad Cymreig. Bu un o'r swyddi y cyfeiriais atynt o dan fy sylw eleni. 'Wn i ddim a sylweddolir i'r fath raddau y gadawyd i waith y dosbarthwr papurau newyddion, fach a mawr, fyned yn fraint Sais. Efallai bod rheswm ariannol dros hynny; y mae dyn ag ychydig gyfalaf wrth ei gefn bob amser ar ei fantais, ond ofnaf fod am- harodrwydd i droi llaw at rywbeth anghyn- efin, a diffyg bod yn effro i fanteisio ar gyfle, yn cyfrif llawn mwy am y ffaith bod cyn lleied o Gymry, ar wahân i'r gorllewin eithaf, yn cael hyd yn oed ran bywoliaeth gyda'r gorchwyl hwn. Tybed mai effaith hir edrych ar ddos- barthu papurau a chylchgronau'r enwad fel cymwynas ydyw bod cyn lleied o'r dosbarth hwnnw wedi manteisio ar y cyfle i agor busnes? Beth bynnag am yr achosion, gellir chwilio pentrefi a threfi lawer, yn enwedig yn siroedd y goror a hyd y glannau, a chael Saeson uniaith yn gwneud y gwaith hwn ym mhob man, a meibion a merched o Gymry a allasai ei wneud yn llawer gwell yn gor- fod troi i Loegr neu'n cael dogn y di-waith. Pa ryfedd? Clywir llawer o gwyno mynych bod llai o ddarllen Cymraeg, llai o brynu papurau a chylchgronau Cymraeg, a mwy o fynd ar lenyddiaeth gyfnodol Lloegr. Pa ryfedd? Beth a ddangosir yn y siopau papurau newyddion a pha bethau a hysbys- ebir ar eu parwydydd, o'r tu mewn a'r tu allan? Pa arwydd a roddir i'r oes sy'n codi bod papurau a llyfrau Cymraeg hyd yn oed yn bod ? Gellwch gerdded aml bentref a thref heb ganfod na phapur na chylch- grawn na llyfr Cymraeg ar werth yn un- man, na dim i ddangos bod y fath bethau ar gael. Y mae'r cownteri'n llawn o bopeth cyhoeddadwy Saesneg, i lawr i'r sothach gwaelaf, ac nid oes byth brinder posteri i alw sylw atynt. Are there any papers and so on pub- lished in Welsh? ebe cyfaill o Sais wrthyf yn Llandudno eleni. A phan atebais, gof- ynnodd drachefn yn syn, Why doesn't one see them about? A chwestiwn digon anodd ei ateb i Sais oedd hwnnw. Methu dweud y teitlau. Ym mha wlad wâr ond yng Nghymru y cewch chwi ei llenyddiaeth gyfnodol, myn- egiant ei bywyd beunyddiol, tyst a llad- merydd ei hysbryd anorchfygol, yn gor- fod llechu o'r golwg am fod y dosbarth- wyr wrth grefft yn methu dweud y teitlau ac yn edrych ar y rhan hon o'u gwaith naill fel niwsans neu fel rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn? Onid yw hi'n bryd symud i newid y drefn ? Efallai ei bod yn haws gwneud hynny nag y tybiwn. Y mae eisiau cofio bod papur newyddion a chylchgrawn, beth bynnag am lyfr, yn awr ymhlith anhepgor- ion bywyd; ac yn ôl deddfau masnach heddiw y mae elw ar eu gwerthu yn ól mesur y gwasanaeth a roddir. Cadwyn o siopau. Fy ofn i ydyw y bydd i ryw Sais llygadog, neu Americanwr, efallai, yn chwilio am fyd newydd i'w goncro. gael y blaen arnom a chychwyn cadwyn o siopau drwy Gymru ar ddull Woolworth, i ddwyn pob-llenydd- iaeth o flaen ein llygaid, gan ofalu rhoddi cynyrchion gwasg Cymru yn flaenaf, a thrwy rym gwasanaeth fodern yn lladd pob cystadleuaeth uniaith. Paham na allai cwmni Cymreig wneud yr un peth? Sicr y buasai'n antur obeith- lawn, o'i chyfarwyddo'n ddoeth. Ymwthio trwy Gymru. Gallaf ddychmygu am gynllun felly y gellid ei seilio ar wybodaeth a phrofiad gwyr medrus o Gymry sydd yn y busnes eisoes yn Lloegr, a phopeth a wyddys am egwyddor a threfn prynu, dangos a gwerthu, ar flaenau eu bysedd. Dechrau gyda'r goror, o Bowys i Went; agor siopau i gychwyn yn y trefi, yna cang- hennau yn y pentrefi lle nad oes ond dos- barthwr uniaith, ac ymwthio o dipyn i beth ar hyd dyffrynnoedd Dyfrdwy a Hafren a Gŵy ac o'r ddeutu, a glannau'r Gogledd,- yn oresgyniad newydd. bendithiol. Gweision gwlatgar. Pob gwasnaethydd nid yn unig yn ddwy- ieithog ond yn llengar a gwlatgar. Popeth a gyhoeddir yn Gymraeg yn cael ei Ie priodol yn ffrynt y siop; dim perygl i ddim ymwelydd fod dan gam-argraff ynghylch pa wlad a dramwyai. Rhyddid a chroeso i'r Cymro gwladaidd a swil fynd i mewn a myn- egi ei neges heb berygl byth i neb edrych i lawr arno na gwneud iddo deimlo'i fod ef a'i iaith yn is-radd. Ar yr un pryd, gwas- anaeth yr un mor gwrtais a gwybodus ar yr ochr Seisnig, a chyflenwad fel bo'r galw o'r holl gyhoeddiadau sydd i'w cael yn awr: gyda'r gwahaniaeth y byddai llai o gyfleus- terau i efrydu rasus ceffylau a chŵn, a mwy o ddewis o lyfrau gwerth eu darllen. Y mae lle i gredu y buasai cynllun felly yn talu ei ffordd, o'i weithio ar ddulliau modern. Tybed nad oes digon o gyfalaf segur yng Nghymru y gellid ei gasglu ynghyd i roi cychwyn iddo? Papurau yn lle gadael ir gwaith fod yn fraint Saeson Fe gai gefnogaeth cyhoeddwyr Cymru, yn ddilys ond ei gefnogi'n unig a gaent hwy, o'm rhan i. Pawb at y peth y bo, a chy- hoeddi yw eu gwaith a'u braint hwy. Yr un ffunud ni roddwn-i lenor ar fwrdd y cyfar- wyddwyr. Gwerthwr wrth ei grefft, un a edrych ar lyfr neu bapur fel nwydd, yn union fel yr edrych y groser ar bwys o sebon, ond yn feistr ei nwyddau ac ar y gelfyddyd o'u gwthio ar bobl-dyna'r teip o reolwr i wneud i fusnes fel hwn dalu. Nid anodd fuasai dyfod o hyd i Gymry'n meddu'r cymwysterau hyn, ac y mae digon o fechgyn a merched a gymerai eu hyff- orddi'n ddigon buan i roddi cystal gwasan- aeth ag a gaiff Saeson yn awr ac anhraethol well nag a gaiff Cymry. Hawl ar bob gwerthu. Beth am y perygl o roddi popeth yn nwylo un. meddai rhywun. Digon yn fy marn i yw gofyn-ai gwaeth monopoli Gym- reig fendithiol nag un Seisnig andwyol? Buaswn i fy hun yn gryf dros ei gwneud yn un hollol effeithiol, drwy ei breintio â'r hawl ar bob gwerthu cyhoeddiadau yng Nghymru; sef trwy i'r Brifysgol a'i gwasg, a'r cyhoeddwyr, a'r llyfrfaoedd enwadol bob un drosglwyddo i'r cwmni holl waith dos- barthu eu cyhoeddiadau, yn llyfrau addysg, cylchgronau, adroddiadau, esboniadau, llyfrau emynau, a'r cyffelyb. Cnewyllyn busnes. Yn ôl yr hyn a draethwyd yn ddiweddar nid oes llawer 0 lewyrch wedi bod ers talm ar werthu'r cyhoeddiadau enwadol dan y drefn bresennol, a diau y byddai'n fantais iddynt gael eu dangos a'u cynnig ar werth yn y ffordd arferol; ac fe fyddai sicrwydd yr alwad reolaidd a chyson am y rhain nid yn unig yn gnewyllyn busnes tra gwrethfawr i'r cwmni newydd, ond yn gyfrwng i ddwyn prynwyr newydd i faes llenyddiaeth gyffred- inol. Dyna fuasai swydd a phwrpas gwasan- aeth cenedlaethol fel hwn- arddangos llen- yddiaeth y wlad yn ei llawnder i'r ifanc na wybu ddim amdani eto, a swyno'r hen i'w phrynu, yn erbyn eu hewyllys os byddai raid! Mi fedrwn addo maes astudiaeth [l dudalen 19.