Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Baled Beirdd Cymru Y MAE'R faled hon, o waith Janos Arany, yn un o'r baledau mwyaf poblogaidd yn Hwngari, a dysgir hi i'r plant yn yr ysgol- ion drwy'r wlad. Yr oedd Janos Arany yn un o brif feirdd H w n g a r i. Dysgodd hanes Lloegr a Chymru, ac wedi darllen hanes cyflafan beirdd Cymru dan Iorwerth I, fe'i gwnaeth yn bwnc un o'i hrif weithiau, sef y faled hon. Walesi Bardok ydyw ei henw yn iaith Hwngari. Erbyn hyn y mae'n fath o gerdd genedl- aethol ymhlith ei bobl. Yn 1856 yr ysgrifennwyd hi. Dywedir, er nad oes sicrwydd am hynny, iddo'i sgrifennu pan wahoddwyd ef i ganu awdl BRENIN Lloegr, y Brenin Iorwerth, Ferehyg ar ei geffyl cydnerth: Eb efe: Ni awn i fyny I weled beth yw golud Cymru I Oes yno ddolydd ac afonydd? A oes gynnyrch yn ei meysydd? A fu'r dyfriad hwnnw'n llesol— Gwaed ei gwrthryfelwyr gwrol? Hithau'r werin (y trueiniaid !) vdyw hithau mor ddi-enaid A'r anifail y mae'n yrru Dan yr iau i'r maes i aru? Syre 1 'n wir y perl mireinia Yn dy goron ydyw Gwalia Nentydd, tiroedd, bryniau, cymoedd Sy yno'n dda i bori gyrroedd. Ac mor hapus yno, Arglwydd, Ydyw hithau'r werin ddilwydd; Distaw, anial eu cabanau Fel pe baent yn ddinod feddau." Brenin Lloegr, y Brenin Iorwerth, Ferchyg ar ei geffyl cydnerth; Amgylch ogylch lle bu'n ymdaith Mae distawrwydd a bro ddiffaith. A CW yng nghastell mawr Montgomri, Bydd ei siwrnai heddiw'n torri: Bydd Montgomri'r pennaeth yno Yn lletya'r brenin heno. Adar, pysg, pob saig a thamaid A fo cu i'r safn a'r llygaid— Cant o weision sy'n ei hulio Blina'r llygaid wrth eu gwylio Pob blasusfwyd a phob llymaid Y ymddŵg yr ynys delaid; A phob gwin sy'n ymewynnu Dros y môr ymhell o Gymru. Chwi Arglwyddi oes neb a gyfyd Lester gwin er mwyn fy iechyd? Chwi arglwyddi helgwn diwerth, Onid byth y bydd byw Iorwerth? Adar, pysg a chwbl ar gread Wela'n denu'r safn a'r llygad Ond pob iôr Cymreig yr awron, Cythraul ydyw yn ei galon 1 groeso i'r llanc Francis Josef, ymherodr Awstria a brenin Hwngari ers 1848. Yr oedd yr Hwngariaid wedi codi mewn gwrthryfel am eu rhyddid fel cenedl ond fe lwyddodd yr ymherodr Hapsbwrg, gyda chymorth Rwsia, i orchfygu'r gwrthryfel. Fe dalodd 13 o gadfridogion Hwngari â'u bywyd am y gwrthryfel ac fe ormeswyd yr Hwngariaid ym mhob modd. Cyfieithwyd y faled hon, ar gyfer Y Ford GRON, o iaith Hwngari i'r Ffrangeg gan ALEXANDER TÓTH o dref Rim Sobota, Tsecho-Slomcia, ac o'r Ffrangeg i'r Gymraeg gan MEREDYDD JONES ROBERTS Chwi arglwyddi. gorgwn diwerth, Onid byth y bydd byw Iorwerth? Mae yr un a ganai 'nheyrnged? Un o feirdd y Cymry, deued Tremia'r milwyr ar ei gilydd- Uchelwyr gwadd o fro a mynydd- Mae cynddaredd erch eu gruddiau Yn gwelwi'n fraw ar eu harleisiau. Llethir llais; gostegir siarad; Deil y dyrfa fawr ei hanad', 0 draw i'r drws, fel clomen gannaid, Cama bardd â gwallt ariannaid. Wele yma, frenin, ganwr Dy wrhydri," ebe'r henwr; Och y clwyfus, trwst y cleddau A ddaw o dyniad chwim ei dannau. Ocha'r clwyfus, clepia'r cleddau, Machlud haul mewn gwaed yn llynnau; Daw milod nos i'w hysglyfaethu: Tydi, Frenin, a wnaeth hynny Medwyd miloedd o'n gwehelyth Yn sypiau, megis sgubau gwenith A gasgl y rhai sy'n fyw, dan wylo,- Tydi, frenin, a fu yno Ymaith Ar y stanc Rhy erwin I Crochdarana Iorwerth frenin; A-hai, mae eisiau mwynach canu A dynesa glaslanc heiny. A Daw awel fwyn diwedydd 0 fae C'redigion, dros Eifionydd Cri morynion, llefain gweddwon A'i tristâ ag ing torcalon. Forwyn, nac ymddwg daeogyn Fam, na ddyro sugn i blentyn I Amneidia'r brenin, yn ddioedi Eir ag yntau i'r lle llosgi. Heb ei wadd a heb ystyriaid, Llama'r trydydd o'r datgeiniaid: Fel e'i hun ei ganu yntau, Dros ei dannau syrth y geiriau:- Lille, Gogledd Ffrainc. Wrth reswm," ebr un llenor Hwngar- aidd, ni fedrai'r un gwir fardd o Hwngar- iad ganu awdl groeso i ŵr oedd â'i berson yn arwydd o ormes ei genedl; ac fe sgrifen- nodd Janos Arany, ym mysg darnau eraill, B e i r d d Cymru.' Yn ffodus, mearoaa aaweiu t awdurdodau, ond bu rhaid iddo dyngu llw nad oedd dim ystyr i'r darn ond fel hanes. Serch hynny, fel arall y mae'r farddoniaeth yn byw yng nghof yr Hwngariaid." Nadolig 1930, pan gyfarfu dau gyfaill, Hwngariad a Chymro, ym Mharis, fe son- iwyd am y faled, a phenderfynodd y ddau geisio'i chyfieithu i'r Gymraeg, a dyma'u cynnig. Y glew a gwympodd yn yr heldrin Gwrando yma'r awron, frenin: Y Cymro a garai gann d'enw Gyda chlod, ni aned hwnnw 1 Wylo ar dannau fyth mae'r atgo Wele ynteu, Iorwerth, gwrando: Mae pob cerdd a genir 'rŵan Yn felltith ar dy ben dy hunan Cawn weld os felly ebe'r brenin, Yna rhydd orchymyn gerwin: Dodwch ar y stanc bob canwr Na rydd eurglod i'w deyrnaswrl Rhuthra'i weision drwy'r berfeddwlad I gyflawni y gorchmyniad. Dyna ichwi ydyw stori 'B cinio enwog ym Montgomri. BRENIN Lloegr, y Brenin Iorwerth, Garlama ar ei geffyl cydnerth; Amgylch ogylch, nef a daear, Mae Cymru oll yn llosgi'n llachar. Aeth pum cant o feirdd y Cymry Yn wir i fedd o dan dan ganu, Ond ni fedrai'r un o'r cannoedd Ddweud Boed Iorwerth fyw'n oes oesoedd I Och fy-fi pa nosawl lefain Ydyw hon-na yn strydoedd Llundain? Mi yrra'r Arglwydd Faer i'w grogi Os daw unrhyw sŵn i'm poeni Tu fewn, tu faes, distawrwydd llwyra' Trwst gwybedyn bach nis tarfa: Ar y stanc a'r trystiwr lleia I Brenin Lloeger â'i gorchmynna." Och fy-fi I Tarewch y drymiau Chwythwch gyrn a chenwch grythau Mae'r cinio hwnnw yng Nghymru gynnau Yn crio'i felltith yn fy nghlustiau Ond mwy croch na'r cyrn a'r drymiau, Uwch na'r utgyrn oer eu lleisiau Yw pum cant o ben-cantorion Yn canu Ymgyrch y Merthyron.