Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Harlech, cyfod i'w herlid! Gan R. T. JENKINS Harlech ydyw testun awdl y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1933. PAN ddaeth y Rhufeinwyr i Gymru, nid oedd Môr Iwerddon iddynt hwy ond ffin eu hymerodraeth, a gelynion yn yr ynys werdd y tu hwnt iddo. I gadw'r rheini draw, trefnasant res o gaerau, nid ar lan y môr ond gryn bellter oddi wrtho, yn ymestyn o aber Conwy (ac yn ddiweddarach o aber Saint) i aber Tywi a ffordd hir union yn cydio'r caerau hyn. Golchi troed y Graig. Ym mhen uchaf y traethau anial tywod- lyd a lenwai gilfach ogleddol y môr, ac yn y fan lle'r ymunai'r ffordd o Gaer Rhun a'r ffordd o Gaer Saint, yr oedd eaer-" Mur y Castell" neu "Domen y Mur" fydd yr enw arni mewn oesoedd diweddarach ac o'r gaer honno rhedai'r ffordd i'r dê mewn hollt gymharol wastad ar yr ucheldir noethlwm. A rhwng y ffordd a'r môr ymgodai moel- dir uchel; ar ben hwnnw y trigai'r brodorion yn eu cytiau o gerrig sychion a thô brwyn arnynt am a wyddom, ychydig gyfath- rach oedd rhwng gwyr y gaer a gwyr y eytiau. Tu hwnt i'r moeldir hwn cwympai'r tir yn sydyn i'r môr, ac mewn un man yr oedd craig uchel yn ymwthio allan o'i chefndir i'r môr, a hwnnw, yn yr oes honno, yn golchi ei thraed. Nid oes gen- nym dystiolaeth bod neb wedi talu fawr sylw iddi. Bran a Branwen. Ond llaciodd gafael Rhufain, er mor haearnaidd oedd yr afael honno. Ni ellid cadw'r Gwyddyl draw, a dechreuasant ymfudo i'r ynys hon. I bobl yn dod o'r môr, nid oedd modd peidio â chraffu ar y graig honno y soniais amdani-craig a safai (y pryd hwnnw) yn yr ongl rhwng y traethau twyllodrus a'r môr agored craig y gallai'r neb a gydiai ynddi fod yn rhwystr dirfawr i'r sawl a geisiai lanio wrth ei throed; craig a phell dremynt oddi arni ar y weilgi allan." Gafaelodd y Gwyddyl ynddi, a chodi dinas arni. Glyn yr atgof amdanynt wrth y lle ymhell wedi iddynt hwy eu hun- ain golli eu gafael arno, a bydd sôn hyd ddiwedd amser am Frân a Branwen yn byw ar y graig hon, ac am Leu Llaw Gyffes yn trigo ym Mur y Castell wedi i'r llengoedd Rhufeinig gilio o'u hen gaer. Estroniaid eraill. A daw'r traddodiadau hyn traddodiad Rhufain yn gystal â thraddodiad y Gwyddyl ­yn rhan o etifeddiaeth estroniaid eraill a ddaeth i'r fro hon o'r Gogledd pell, a alwodd Y dollgraig uwch a'r twr di-fost." y fro yn Ardudwy, ac a ail-adroddodd yr hen chwedlau hyn, yn gymysglyd i'w ryfeddu, yn eu hiaith hwy eu hunain, a alwn ni'n Gymraeg. Rhoes rhywun rywbryd yr enw "Harlech" ar y graig uchel-digrif yw cofio heddiw, pan wawdir cymaint ar yr ysgplhaig mawr hwnnw John Rhys, mai ef a awgrymodd (yn gam neu'n gymwys) mai enw Scandinafaidd ydyw. Sut bynnag, enw ydyw a roddwyd arni gall rywun a edrychai arni o gyfeiriad y môr Mynd i'r Dyffryn. Ar wahân i'r atgofion hyn, nid oes sôn am Harlech am lawer canrif ar ôl dyfodiad Meibion Cunedda. Peidiodd arfer y cynfyd o fyw ar yr uchelfannau. Maluriodd hen bentrefi'r moeldir yn garneddi na wyddai dynion bellach beth oeddynt; ciliodd bywyd o Domen y Mur ac ond odid o ben craig Harlech hefyd. Gwell oedd gan ddynion fyw ar y morfa ac yn y dyffrynnoedd. I lawr yn nyffryn Artro yr oedd llys cymwd Ardudwy (cymwd o wyr medrus gyda'r waywffon), yn Ystgumgwern; yno yr oedd neuadd yr arglwydd. a'i faerdref (hyd heddiw y mae'r enw "Faeldref" ar y map). a Melin y Brenin y bydd deiliaid Is- Artro yn dal i falu ynddi. yn ôl tystiolaeth cofnodion, yn y bedwarcdd ganrif ar ddeg. Codi'r Castell. Ond wedi cwymp Llywelyn, gwelodd Edward Frenin werth yr hen ddis- gwylfa ar y graig. Cloddiodd ffôs ddofn rhyngddi a'i chefndir, a chododd arni'r castell hardd y gwyr y byd amdano. Tynnodd i lawr neuadd Ystum- gwern, ond ail-adeiladodd hi o fewn i furiau'r castell; y tu allan iddynt creodd fwrch fechan i ryw hanner cant o Saeson, i fyw ynddi dan gysgod y castell a chyflenwi anghenion garsiwn y castell. Dyma Harlech, pen tref y Sir Feirion- nydd newydd; dolen yn y gadwyn o gerrig nadd a oedd i rwymo Gwynedd yn gaeth wrth droedfainc brenin Lloegr. Craig o obaith." Diau iddi mewn un ystyr wneuthur ei gwaith. Ond pan symudodd Edward neuadd Ystumgwern, llys Llywelyn, i mewn i furiau ei gastell cribog, fe droes y gwr rhyddieithol hwnnw'n ddamhegwr heb ymwybod. Yr oedd yr ysbryd Cymreig yntau i lithro'n ddirgel i mewn rhwng y meini cedyrn. i ail-gydio'r hen graig wrth draddodiadau cenedl y Cymry, a'i throi'n graig o obaith"; i droi hyd yn oed hanes y castell ei hun yn bennod ramantus o hanes ymlyniad dygn y Cymro wrth ei hen dra- ddodiad. Owain Glyn Dwr. Yma, yng nghastell Edward Frenin, y bu Owain Glyn Dŵr yn cynnal senedd Gym- reig; yma y bu Dafydd ab Ieuan ab Einon am flynyddoedd yn herio gallu teulu lore yn enw Tuduriaid Môn-a bu raid cael Cymro arall i'w gorchfygu yn y diwedd; Harlech drachefn fu'r lle olaf ym Mhrydain i roi ei arfau i lawr yn achos y brenin Siarl, yr oedd y Cymry, yn gam neu'n gymwys, yn credu ei fod yn haeddu eu ffyddlondeb. Tyfodd yr hen graig yn symbol o ddewrder cenedl: [7 dudalen 8.