Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mr. TIMOTHY LEWIS, yr ysgolhaig Celtig, yn adrodd hanes ei HAF yn IWERDDON '"Bob nos yr oeddwn yn cysgu yn y gwely lle cysgai Mike Collins a Kevin O'Higgins pan oeddynt yn ceisio adeiladu'r Iwerddon p'r newydd, a hwythau ar herw." TliTI wn fod yna ddigon o Gymry yn gwybod deng- waith mwy na mi am yr Iwerddon a'r Gwyddel heddiw. Yn wir. bu gŵr ar fy ael- wyd yn ddiweddar, a braidd na chymrwn fy llŵ y safai pendil pob cloc fel post wrtli wrando arno yn ad- rodd ei brofiadau digrif ar hyd a lled yr Iwerddon, eithr nid yr un ydoedd ei Wyddel ef â'r eiddof i, a champ fwy na champ b e n n a f Hercwlff fyddai cael ganddo ys- grifennu gair o hyn oll. Gyda'r pererinion. Ar y trydydd Llun yn Awst fe'm cefais fy hun yn un o hanner can mil o bererinion yn hwylio tua Slane, yn nyffryn Boyne, i goffa pymthegfed canmlwyddiant ymweliad Padrig Gymro â'r lle. Buaswn i yn Slane a dyffryn paradwys- aidd Boyne o'r blaen, a buaswn yn Drogheda droeon. Treuliaswn ddegau o nos- weithiau meithion rhwng Proven Road a Chanal Ypres yng nghwmni Corporal MacLoughlan, ac yr oedd efe yn gwybod am bob troedfedd o'r cylch gan iddo fod yn bostman heb fod nepell o New Grange. Yr oeddwn felly yn teimlo fel gŵr ar ei gynefin tua Slane, a chan mai wrthyf fy hun yr oeddwn, gallwn sylwi ar bopeth fel y myn- nwn. Miloedd o faneri. Yr oedd yn fore hyfryd-tebyg i'r haf- ddydd hirfelyn hwnnw pan welodd y Bardd Cwsg gwrs y byd. Rhuthro mewn cerbydau yr oedd pawb, ond dewisach gennyf i ydoedd mynd ar draed ar hyd y pedair milldir o Beauparc i ben bryn Slane. Yr oedd pob math o gerbydau ar y ffordd o fodur cyntaf Ford i fodur diwethaf Rolls- Royce, ac o eilun ffair geffylau Dublin i hen garan gŵr y Crown and Anchor oedd â'i gelfi gerllaw pont Slane. Yr oedd tair ffrwd fawr o bererinion yn cyfarfod yn y pentref ac yno eid rhwng y pyst coch-a-gwyn neu las-a-gwyn a miloedd o faneri yng nghrog arnynt. Wedi cyrraedd pen y bryn troid y gwyr a'r gweision i'r dde a'r merched a'r gwragedd i'r chwith, ac yna Coffa Padrig Gymro yn nyffryn Boyne. disgwyl hir a dwys am Cardinal MacRory a'r saith esgob. Y bobl fach ddu. Wedi i'r dorf fawr. ddwys a distaw lonyddu, a phawb wedi cael lle i'w deulin a'u dwytroed, a chyn dechrau'r gwasanaeth, sylwais fy mod i yn gallu edrych dros ben pawb oedd yn fy nghylch i. Gwelswn ddigon yn Dublin yn hwy eu hesgair na mi. ac y mae'r merched welir yn Grafton-street ac O'Connell-street bron cyd â'r bechgyn, ond nid hwy welid yma. Nid pobl foneddig, drwsiadus y brifddinas oedd yma, ond gwyr y wlad a'r pentrefi a'r trefi bychain-y bobl fach ddu oedd o'm cylch i ymhobman. Yr oedd ambell ŵr â blewyn coch yma a thraw, ond rhai byr o gorff oedd hyd yn oed y rhai hynny, er fy mod yn tybio mai epil yr hen Yikings cawraidd oeddynt wrth eu lliw. Gweld y Cardinal. Yr oedd yna un hen ŵr bach ysgwydd-yn- ysgwydd â mi, ac wedi dwyn ei wyr bach yno i gael un gip ar y Cardinal rhag na chaffai gyfle byth mwy i weld Cardinal, meddai. Gwr ydoedd heb arlliw o un math o ysgol gerllaw iddo heblaw ysgol y prof- iadau geirwon, eithr nid oedd ŵr mwy defos- iynol yn y dyrfa nag ef, a gofalai am ei ŵyr bach fel cannwyll ei lygaid, ac fel petai yn gobeithio y tyfai yn gardinal ei hun ryw ddiwrnod. Ar y naill ochr iddo yr oedd stwffwl cryf o ddyn a chetyn clai yn ei geg a chap tun am ben y cetyn, ac yr oedd yntau yn tynnu wrth y cetyn am ei fywyd rhag i'r Cardinal gyrraedd cyn iddo orffen ei fygyn. Pan sylwodd y gwr bach ar hynny, meddai: Welwch chwi'r hen bagan cegoer yna? 'Does dim gwa- haniaeth beth andros fo'r amgylchiadau i ambell un­'does dim yn gysegredig iddo." Y Llaw Goch. Yr oeddwn i yn pwyso ar y ganllaw gadwai ffordd yr allor a'r côr. Yr oedd pedair baner lydan y tu mewn i'r canllaw- iau baner Ulster, Munster, Leinster a Connaught, a baner Ulster a'i Llaw Goch fawr oedd ar ein cyfer ni. Sylwodd y gŵr bach du ar y Llaw Goch ac meddai Pam y rhaid dwyn hon i'r ŵyl heddiw i fod yn warth i'r Iwerddon? Ceisiais esbonio iddo mai o Ulster y daethai Padrig i Slane, ac mai Ulster oedd bia traddodiadau hynaf yr Iwerddon, a'i bod o hyd yn rhan o'r Iwerddon. Yr ysgar. Gyda hyn wele rai o'r bobl fach ddu oedd o'n cylch yn ymuno yn yr ymddiddan, ac meddai un ohonynt: Ar ôl ystyried, onid o Ulster y daeth y Cardinal heddiw ar ei ymweliad swyddogol cyntaf â'r Boyne? (Yn Armagh y mae sedd Cardinal MacRory) a chyn i'r gwasanaeth ddechrau yr oedd y cylch yn siarad yn dirion a char- edig am Ulster a'r Llaw Goch." Cofient eu bod yn rhan amlwg o'r Iwerddon ddoe, ac edrychent ar yr ysgar â hi fel peth dros ennyd. Plygu glin. Gwasanaeth Lladin ydoedd y gwas- anaeth gan fwyaf, ac nid wyf yn tybio fod llawer o'r bobl fach ddu yn deall ystyr y geiriau, eithr gwydd'ent wrth reddf pa bryd i blygu glin a phryd i ymunioni. Yr oedd y cwbl mor ddwys nes gallai dyn glywed ei gymydog yn newid ei feddwl bron. Yr oedd eu syniadau am ffurfiau crefydd yn wahanol iawn i'r eiddof i, ond yr oeddwn yn eiddigus wrth weld bod gan lawer ohonynt afael gad- arnach ar y cnewyllyn na mi. [7 dudalen 22.