Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cymro a wnaeth heb arian Hanes Robert Owen yn cysegru ei ddawn fusnes er mwyn ei gyd-ddyn Gan y Parch. LEWIS EDWARDS" Wrecsam. FE ddywedodd Mr. Percy Ogwen Jones yn rhifyn Hydref Y Ford Gron fod y gwledydd ormod o dan balf yr arianwyr" ac na cheir ffyniant nes medru ymwrthod â safonau a thermau arian- wyr." Dwg hyn, a'r cyfeiriad a wna Mr. Jones at y cynllun ar gyfer y di-waith yn Seattle, U.S.A., i'm cof y Labour Exchanges a sefydlodd Robert Owen o'r Drefnewydd yn y flwyddyn 1832, sef can mlynedd i eleni. Robert Owen yn ddiau yw'r enghraifft amlycaf o'r ffaith nad dawn canu a barddoni na phregethu yw unig ddawn y Cymro, ond y medd ddawn busnes nad oes ei hafal gan neb ond yr Iddew. Oni bai i'w deimladau dyngarol ei ddenu oddi ar y llwybr hwnnw. daethai Robert Owen yn sicr yn un o wŷr cyfoethocaf y ddeunawfed ganrif. Dim dole.' Dichon fod cyfartaledd y di-waith yn fwy yn 1832 na heddiw, ac nid oedd "Dole" y pryd hwnnw. Credodd Hobert Owen mai un o brif achosion anhrefn ydoedd bod aur ac arian yn creu safonau anghywir am werth nwyddau, ac yn arwain pobl i wneud arian yn amcan ac nid yn foddion-eu cyf- rif yn gyfoeth ynddynt eu hunain yn lle'n gyfrwng cyfnewid. Y cwestiwn a ofynnir heddiw yn wyneb y sefyllfa hon yw, sut i wneud arian yn fwy o was ac yn llai o lywodraethwr. Meddyginiaeth Robert Owen oedd di- ddymu arian yn gyfangwbl hyd y gellid. Felly sicrhaodd Fasâr eang yn Gray's Inn- road, Llundain, a sefydlu'r lle yn "Gyf- newidia Lafur." Nid oedd yno angen nac arian na "gwŷr canol," eithr cyfnewidid nwyddau trwy gyfrwng Papurau Amser (Labour Notes). Oriau yn lie arian. Y cynlhm oedd cyfrif gwerth pob nwydd yn ôl yr oriau a lafuriwyd i'w wneuthur, a phob awr yn werth chwecheiniog, a defn- yddio Papurau tebyg i'n harian papur ni heddiw, ond bod hyn a hyn o oriau arnynt yn Ile hyn a hyn o sylltau. Gweithiai crefftwyr megis cryddion a theilwriaid yn eu cartrefi ac yna dwyn eu gwaith i'r gyfnewidfa; dyweder bod def- nydd pâr o esgidiau'n costio 3/- ac y cymerid 8 awr i'w gwneuthur, yna cai'r crydd 14 o bapurau yn eu lle­pob papur yn Robert Owen. seíyll am un awr. Gallai yntau wedyn ddef- nyddio'r rhain i brynu nwyddau eraill at angen ei deulu, neu ddefnyddiau at wneuthur rhagor o waith, neu gallai eu cyf- newid am arian er mwyn prynu pethau na cheid yn y gyfnewidfa. Methu Bu mynd mawr ar y cynllun hwn am ddwy flynedd neu dair. Ni ellid ymwthio ar adegau trwy Gray's Inn-road gan faint y dyrfa o gwmpas y lle. Gwnaeth werth £ 1,000 o fusnes bob wythnos, ac ymledodd y cynllun i ddinasoedd eraill. Derbynnid y Papurau Llafur yn lle arian mewn siopau HARLECH, CYFOD I'W HERLID-(o dudalen 5) i'r byd y tu allan i Gymru, nid Hen Wlad fy Nhadau ond Gorymdaith Gicŷr Harlecli sy'n cynrychioli enaid y Cymro. O'i amgylch heddiw. Heddiw. nid yw'r hen gastell ond adfail ac addurn. O'i amgylch, deil y genedl fyw ei bywyd. O'r bryniau uwch ei ben y canfu Edrnwnd Prys dollgraig uwch a thŵr di-fast": oddi yno hefyd y bu'r Hardd Cwsg yn tremio ar gwrs y byd hwn a chyrrau'r byd tu draw i'r bedd. Yn y broydd cyfagos, ymladdwyd llawer brwydr ddistaw. heb gleddyf na grym arfau. gan Grynwyr gwydn Meirionnydd neu Fedydd- wyr anhyblyg Ramoth. Ac yno hefyd, am hir amser, daliodd yr uchelwyr i noddi llên eu gwlad. eraill; a hyd yn oed yn dâl mynediad i chwaraedai. Eto, fel llawer o gynlluniau Robert Owen, trodd hwn yn fethiant, a hynny braidd yn sydyn, er, fel y dywedodd Mr. Philip Snowden, ni ddaeth neb erioed allan o gym- aint o fethiannau â dwylo glanach nag y daeth Robert Owen. A phaham. Paham y methodd? Yn un peth, yr oedd perchennog y Basâr yn Gray's Inn-road wedi addo'r lIe iddynt am ddim, ond wrth weld y llwyddiant trodd yn ei gylchau a hawliodd n,700 o rent. Bu raid iddynt symud i Ie arall. Bu hyn fel newid ceffylau ar ganol afon. Ond y drwg pennaf oedd diffyg moddion i brynu defnyddiau gwaith i'w rhoddi yn nwylo'r crefftwyr at ddechrau gweithio. Yr oedd Robert Owen ei hun eisoes wedi gwario'i ffortiwn ar gynlluniau eraill. Wrth gwrs ni thybiodd neb y gellid datrys holl broblem diffyg gwaith yn y modd hwn. Ond yr oedd yn foddion cynyrchu nwyddau na chynyrchid o gwbl hebddo, ac yn foddion eu gwerthu, a chyflenwi'r bobl ag angen- rheidiau bywyd heb ymyrryd mewn modd yn y byd â dim masnach arall. Ysbryd crefft. Os nad oedd yn datrys problem diffyg gwaith. yr oedd yn datrys yr hyn sy waeth, sef problem hamdden a segurdod. Cadwai bobl rhag colli arfer diwydrwydd a'r doniau creadigol a moesol a arferir mewn llafur. Y mae anawsterau mwy ar ffordd ym- gais o'r math yma heddiw am fod 100 mlynedd o oes y peiriannau wedi diddymu ysbryd crefft. Eto nid yw'n amhosibl, fel y dengys yr hyn a wneir ym Mryn Mawr o dan gyfarwyddyd y Crynwyr. Gwelais rywun yn cwyno y dydd o'r blaen am fod arysgrifau o gaer Tomen y Mur wedi eu gosod yn un o furiau castell Harlech peth hollol amhriodol, meddai ef. I mi, ni bu dim erioed yn fwy priodol. Dameg yw lioll hanes y lle-dynion a dylanwadau oddi allan yn ymdonni ar y traeth hwn, a'r Cymro'n plethu pawb a phopeth ohonynt i mewn i'w fywyd cenedlaethol ef ei hun. Hir y parhao hynny. Yn enwedig boed felly ar y mudiad addysg newydd sydd wedi ei blannu ei hun ar y graig wrth ochr hen gastell Harlech. Ilyderwn bawb y ceir barddoniaeth odidog ar law'r ymgeiswyr am Gadair Wrecsam yn 1933. Yn sicr ddigon, nid tylodi'r testun fydd yr achos onis ceir.