Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bardd syn adnabod gwerin ei wlad ac wedi canu ei "Delyn" iddi Oan BETI LLOYD ROBERTS Ysgol Dr. Williams, Dolgellau. Y MAE'R Brodyr Francis,' bellach, yn adnabyddus. Ni all y neb a'u clywodd yn canu gyda'r tannau beidio â sylweddoli gymaint eu llwyddiant yn yr ymdrech i ddeall y grefft. Gwyddant pa beth i'w ganu a pha fodd i'w ganu, treiddiant at galon ein hiaith bob dydd a thynnu miwsig pêr ohoni. Nid rhyfedd, felly, eu bod yn deall y defnydd sydd yn eu dwylo, a Mr. Grifnth Francis yn cyflwyno inni gyfrol gain o'r eiddo ei hun (" TELYN ERYRI, Gan G. W. FRANCIS, gyda Rhagair gan Mr. E. MORGAN HUMPHREYS. Hughes a'i Fab, Wrecsam. 2s.) Cymru biau bob un." Rhannwyd y casgliad yn dannau," a dywed y bardd pwy a'u piau,- Mae deuddeg o dannau'n fy nhelyn, Cyffjrddais hi'n ysgafn i'm bro: Amherffaith ei miwsig, a'm bysedd Gan gledwaith yn drwm ambell dro; Mae 'nhelyn yn fil o delynau, A Chymru a biau bob un; Ei diliau gaiff plant Bala Deulyn, A chadw yr hen delyn fy hun. Cymro sydd yma yn canu am ei ardal, ac, yn arbennig, drigolion yr ardal honno. Hel- yrîtion ei gyfeillion a'i gydnabod yn ieuainc, canol oed a hen, ac atgofion melys a thrist o'r eiddo ei hun, a geir ganddo. Wrth ed- rych yn ôl ar ddyddiau mebyd, dywed,- Cofio i mi wylo i ro yr hen Ryd Wrth gofio fy marblis a gollais i gyd; Cofio Siôn Huws ar ysglefr lithrig, lefn, Yn bwrw'i bedolau wrth feudy Ty'n Cefn. Y mae rhywbeth newydd a hapus iawn yn ei benillion coffa i hen gymeriadau'r gym- dogaeth. Gad i bob un ohonynt siarad yn union fel y gwnai pan oedd byw, a hawdd ydyw deall pa fath rai oedd yr hen bobl oddi wrth y cyffyrddiadau cynnil, deheuig. Teip Cymreig. Er iddo sôn am ardal na wyr llawer ohonom, hwyrach, ond ychydig amdani ac am gymeriadau na ddaethom erioed i gyff- yrddiad â hwy, eto, teimlwn rywsut nad ydynt yn hollol ddieithr inni, wedi'r cwbl. Gwyddom am aml Hen Gwpwl Taly- mignedd ac edrychwn yn ôl mewn hiraeth ar ddyddiau plentyndod mewn llawer "Pen- tre Bach Drws Coed." Pwy ni chofia ddyddiau hapus Marcio Defaid," "Chwipio Top," "Hel Llus" a "Sglefrio"? Y mae'r caneuon hyn o ddiddordeb nid yn unig i gydnabod Mr. Francis, ond i bob Cymro, oherwydd bod pob cymeriad yn deip gwir Gymreig, a phob di- gwyddiad a helynt yr hyn a brofir mewn rhannau eraill o'r wlad. Y gyfrinach. Adnebydd y bardd werin Cymru. gwelodd hi yn ei dagrau a'i gwên. ei gwaith a'i gwyl, ei hadlonìaait a'i chrefydd. a dyna'r gyfrinach. Cyff- yrddodd â chalon y werin honno. nid ymffrostia mewn cyfansoddi dysgedig, eithr ei chyfarch yn ei hiaith ei hunan a thynnu darluniau cynnil prydferth o bethau cyffredin bob dydd. Bywyd y bobl. Canu i'r bobl y mae yn anad dim. Gan amlaf. math ar gefn- dir i'w profiadau hwy. neu gyf- rwng i'w harwain i feddwl am fyd uwch na hwn ydyw gogoniant natur. bydded mewn heulwen neu storm. Yn Llun fy Nyffryn i daw â ni wyneb yn wyneb ag ang- henion bywyd,- Rhoi yd a gwair ar air yr Iôn At reidiau bro o bryd bryd, Agori galon fawr Gymreig I roi dy greigiau'n do ar fyd. ina te n harwain yn awch, — Ac od oes luniau yn y nef, Heb lun y Dyffryn liardda'i drem Hyd yn oed wrth nodi'r defaid awgryma'r Marc Coch rywbeth arall,— Ehoi pyg a marc coch ar eu hochrau, A nodi'r ŵyn dinod oedd raid; Rhoi S.D. ar ddefaid Siôn Dafydd, Ac G.Ff. ar ddefaid fy nhaid. Fe welais i Fugail gwell defaid Yn cyrchu rhai draw'n ôl ei droed, A'i Ysbryd yn nodi dau ddinod 0 Gorlan diadell Drws Coed; Ni welais ôl pyg ar eu dillad, Marc Coch oedd yr arwydd wrth raid; Mae S.D. ar garreg Siôn Dafydd, Ac G.Ff. ar garreg fy nhaid. Yr hen ofn. Nid chwilio am fai yr wyf yn hyn o beth. eithr nodi ffaith. Onid rhywbeth o'r hen ofn er y dyddiau celyd hynny pryd yr oedd rhaid dibynnu yn gyfangwbl ar gynnyrch y tir i gadw'r ddau pen llinyn ynghyd, sydd eto'n aros yng ngwaed y bobl? Nid oedd amser i ymdroi â gogoniant y tir a'r barn mor brin. Gyda'r tannau. Er na wn fawr am gelfyddyd y canu gyda'r tannau, credaf y deallaf ddigon i weled bod barddoniaeth Mr. Francis yn ateb y diben i'r dim. Ceir clec a mynd, a defnyddia'r odl fewnol lawer iawn fel math Nid nef fydd nef y uef i ni Rhwng Bethlehem a Chalfari. Mr. G. W. Francis. ar eco yn y canu. Gallodd roddi ffurf i'w linellau heb ddifetha'r syniad, megis Distawodd stynnant stormydd blin. 'Roedd hafaidd hin yn nesu. l'nwaith eto 'Nghymru annwyl,' Wnai Fferndale yn ffwrn o dan. Ei gaeth a'i rydd. Eto. pan geisio ganu ar fesur caeth, fel yn Haf a'r englynion i Ceti." nid ydyw. yn fy marn i. yn agos cystal ag ar fesur rhydd. Yn Ceti fe'i ceir yn canu fel hyn,- Lili wen olenliw o Ardd-Eden Ydwyt o gorff meinhardd Enw pur dy wyneb hardd Ydyw gwynfyd i geinfardd. Cymharer hyn â Mem, Ychydig feddyliwn i, Mem, ym Mai, Wrth hwylio'n wr llon i'r lli, Yr aet ym mraich Capten y nen mor ddi.nam, A Nanws ar ôl yn amddifad o fam, Yn holi amdanat ti, Yn wylo amdanat ti. Y mae'r gân Y Cae Bach" yn taro'n rhyfedd wrth ei darllen, ond rhaid cofio mai i fyned â'r tannau y bwriadwyd y rhain oll. Felly hwyrach mai annheg ydyw pwyso gormod ar hon a'r caneuon yn y mesur caeth. Y mae'n ddigon posib eu bod cystal neu'n well na'r rhai a ystyriaf yn fardd- oniaeth dda pan roddir hwy ar fiwsig, y gynghanedd a'r Cae bach, bach, bach, bach yn clecian i nodau'r delyn. [/ dudalen 16.