Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Canmlwyddiant Ap Ceinwych Gan DDISGYBL IDDO GAN mlynedd yn ôl, crynai mynydd- oedd y Pyrenees yn Ne Affrig gan ffrwvdradau tán-belennau a rhyferthwy rhyfel. Eithr mewn mangre unig. dawel. yng nghesail un o fynyddoedd Meirion. ganwyd un o enwogion ein cebedl.—a'r byd yn ddi- ystyr ohono wrth gyfeirio'i wvneb at faes y rhyfel. Ei ffug-enw. Oddi ar fynydd ei gartref. sef mynydd Ceinwych. y dygodd ein gwrthrych ei ffug- enw, a'i anfarwoli ei hun drwy hynny. Prin ydoedd manteision addysg yn nhymor maboed Ap Ceinwych. — byd caled oedd ei fvd oherwydd trethi trvmion y rhyfel Bu raid iddo droi allan yn gynnar i weithio ar y tir i ennill ei gynhaliaeth. Y bardd ieuanc. Gwenodd ffawd ar ei antur gyntaf trwy ei anfon i ofal yr hen bobl yn y Felin Fach. Hwy a'i dysgodd i ddarllen y Beibl a'r Llyfr Emyna.u. Cynhyddodd mewn gallu a doethineb. a thrwy ei ymroddiad i wasan- aethu Capel bach y Cwm daethpwyd o hyd i'r athrylith a'r doniau cudd oedd ynddo. Dywed yn un o'i ganeuon cynnar: Fy mywyd aberthaf ar allor gwasanaeth. Yn ffyddlon a diwyd hyd derfyn fy oes. Can's coron anrhydedd yw bywyd ymroddgar Dan bwysau trymfawr arswydus y groes. Yr oedd addewid am delynegwr gwych yn y llinellau hyn gan fardd ieuanc heb gyr- raedd ei ddeuddeg oed. Ei gadeirio. Cyn llithro ugain mlynedd o'i fywyd cadeiriwyd ef am ei awdl i Cryndod yn eisteddfod y Dineswyr Pur. Cån faith gynganeddol ydyw. yn ymdrin â hanes mudiad y Crynwyr yng Nghymru yn y bym- thegfed ganrif. Erys rhai o linellau'r awdl hon yn ddiarhebion ar wefus ein gwlad heddiw, megis: Aberth ddyry nerth yn ôl Ynni enaid anianol. Wrth drafod ymdaith y Crynwyr trwy Fôn dywed Yn gatrawd aeth y llu I Fôn — Mam Cymru. Un 0 linellau'r awdl hon a ddysg plentyn gyntaf yn yr ysgol ddydd Diolchwn am gysuron byd Ar hyd ein bywyd brau. Er mwyn gosod yr awdl yn ei lle priodol sylwn ar ran o'r feirniadaeth: O'r saith awdl a thrigain ddaeth i law eiddo Niwl y Panwl [ffugenw Ap Cein- wychl yw'r orau. Hyhi yw'r goethaf a'r wychaf ac nid oes ronyn o amheuaeth ym meddwl y beirniad na cherdd y bardd hwn i lawr trwy hanes y canrifoedd. Wedi iddo ennill y gadair hon. bu disgwyl mawr amdano fel prifardd cenedl ond siomi a wnaeth am beth amser oherwydd iddo roddi ei delyn ar yr helyg a gosod ei holl fyfyrdod ar fyned i'r weinidogaeth. Gwyddai Ap Ceinwych mai anobeithiol iddo ydoedd ennill ffon ei fara trwy farddoni. ac. fel llawer ö'i flaen ac ar ei ôl, dewisodd y llwybr gorau. Cofiwn mai mab y werin ydoedd. wedi brwydro yn erbyn anfanteision a threialon y byd. Daeth yn feistr yr iaith trwy ymgyd- nabyddu â Chymraeg y Beibl a gweithiau clasur eraill megis, Homilïau Pant- ycelyn. Drych y Canrifoedd (Bodfan). Theomemphus (Emrys ap Iwan) ac, yn arbennig, Weledigaethau Morgan Llwyd. Sefydlu yng Nghyntyn. Sefydlwyd ef yn weinidog ym mhlwyf distadl Cyntyn ym Meirion. Yno berwodd ei awen drachefn ac estynodd y delyn yn ôl. Trwsiodd ei thannau a chanodd ei enaid i galon ei wlad. Athronyddu wnai beirdd Cymru y pryd hynny trwy gyfrwng mydr ac odl. a chy- hoeddodd Ap Ceinwych ei Emau'r Moelydd yn wrthryfel. megis, yn eu her- byn. Cyfrol fechan o delynegion. sonedau. englynion a dau gywydd ydyw. Cyflwyna'r llyfr i'w dad gyda phedair llinell englyn: Bydded angerdd fy ngherddi-yn folawd Sy'n felys eu tlysni I lifo'n effro a ffri Er mwyn fy nhad, ŵr mad, i mi. Yna. daw'r sylw trist a thlws hwn Bu fy nhad fyw a marw'n edmygydd y gelf gain. Trwythais innau fy hun yn ei ysbryd—ac od oes clod am y gyfrol hon, boed i fy nhad. Aberthodd ef ei fywyd i mi gael telyn. Gwrthryfel yr Ap. Fel gwrthryfelwr, nodwedd amlycaf y telynegion a'r caneuon eraill, fel y gellid disgwyl. ydyw'r duedd gref ynddynt i dorri oddi wrth draddodiadau ei gyfnod ac i ddwyn rialaeth i farddoniaeth Cymru. Canai'r beirdd am baradwys a phob hafan ddelfrydol arall. Y bedd a thragwyddoldeb ydoedd swm a sylwedd eu canu. Eithr canai'r Ap am ein daear ni, Sy'n orlawn o drybini, ys dywed yn ei delyneg i'r Cread. Dwfn-dreiddiol." Bywyd a chysuron y ddynoliaeth ydoedd ei ddiddordeb. Yn ei delyneg i'r Lloer," yn y "Gemau," gwelir ei gydymdeimlad dwfn-dreiddiol ag angen y ddynoliaeth: Huliai'r cymyl hyd yr wybren Fel cymylau mawr, Cwynai'r gwynt ym mrig yr ywen Fel galarnad fawr; Ond ar brydian deuai'r lloergan Fel aderyn coll, Rhwng y cymyl gyda'i llewych I wefreiddio'r oll. Gwên a lonnai galon truan Erys yn y byd, Gwefr sibrydai wrtho gysur Dan ei dynged ddrud; Aed y cread maitli yn wenfflam Rhaid i ddyn gael byw Selia Ilewych lloer adduned Wnaed i blentyn Duw. Bywyd fel y mae. Y gwahaniaeth rhwng rialaeth a rhamant, medd Ap Ceinwych. ydyw bod y naill yn gweled bywyd fel y mae, a'r llall yn ei weled fel y dylai fod. Rhamant ydyw barddoniaeth i fod," medd y beirdd. Nage! medd ein gwrthrych, rialaeth ydyw." Ymhellach, mewn dadl ar y pwynt yn y Penwn Wyth- nosol dywed Twyllo ei hun mae'r bardd wrth ganu rhamant, oherwydd nid yw ei gynnyrch ond rhithiau aneglur ei ddychymyg. Pan sylweddolwn mai rialaeth ddylai gael y lle blaenaf, yna fe ddeffry'r oes aur ar lenyddiaeth Cymru. Heddiw sylweddolwn wirionedd ei gen- hadaeth, a hynny ymhen yn agos i gan mlynedd. Urddir ein llenyddiaeth gan feirdd rialaeth. Deil gwaith Ap Ceinwych i'w gymharu ag eiddo unrhyw un ohonynt. Ystyriwn y llinellau o'i gân i Feddyliau'r Bore Megis glesni'r wawr sy'n cerdded Ar ei hynt ddibaid, Mae breuddwydion yr ieuengoed Rhwng y sêr a'r llaid. Yn y mwd a'r baw. Ychydig fisoedd cyn marw ein gwrthrych torrodd y Rhyfel Mawr allan ar gyfandir Iwrop. Fel barcud, ffroenodd yntau ysg- lyfaeth i'w awen. Ymddangosodd y gân hon o'r eiddo i Benyd i Milwr yn Y Gwyliwr yr wythnos y dygwyd ef i'w hun olaf ym mynwent Raehub, yn henwr deg a phedwar ugain: Pan fo'r Iloer yn distaw sgleinio Ar y mwd a'r baw, A chyüegrau dur yn fflamio Yn y mwd a'r baw; Gwelir meibion Gwalia'n tanio Ac yn codi cledd i befrio Ar heolydd Ffrainc wrth droedio Yn y m wd a'r baw Bechgyn Seion sydd yn cerdded Yn y mwd a'r baw, A gelynion yn eu gwylied Yn y mwd a'r baw Cân y Sais am Tipperaria," Cân y Scot am Loch Lamondia," Cân y Cymro'r hen Gwm Rhondda Yn y mwd a'r baw Dyna rialaeth yn ei grym, a chalon bardd wedi ei thorri uwch y fath alanastra. Ei ddiwedd alaethus. Alaethus fu diwedd y bardd Ar un o'i deithiau mynych hyd lethrau'r wlad casglodd gnwd o gaws llyffant mewn cam- gymeriad am fyshrwms. Coginiodd hwynt [I dudalen 24.