Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI FER GYFAN CUT yr aeth Robert Williams erioed i'r fath swyddfa o dan y Llywodraeth, ac yn en- wedig sut ar y ddaear yr ar- hosodd yno am chwe mis cyfa, sydd yn destun siarad ac yn syn- dod i lawer sydd yn ei adnabod. Ni fwriadwyd i Robert Williams fod yn glerc. Ac eto dyma ydoedd ei waith. Fe weithiai'n galed fel peiriant am wyth awr bob dydd, a hynny mewn swyddfa oedd yn enwog am ei threfn a'i rheolau aneirif. Wrth gwrs, yr oedd wedi gwasanaethu ei wlad trwy ymuno â'r fyddin yn y rhyfel. Yr oedd hynny o'i blaid. Ond nid oedd yn boddhau swyddogion y swyddfa, ac nid oedd yr un o'i gyfeillion mynwes yn synnu at hynny. Yn wir, fe âi'r swyddfa ar ei nerfau. Yr oedd baldordd gwag ei gyd-glercod bron iawn â'i wallgofi nes bod ei lyfrau yn llawn camgymeriadau bach. Dywedodd y swyddogion wrtho lawer gwaith y byddai'n rhaid iddynt yrru ad- roddiad anffafriol amdano. Os felly, byddai'n rhaid i Robert wynebu Pennaeth y Swyddfa Ganol. Yr hen Robert druan," meddai pawb amdano. Ni wyddai'r un dyn beth oedd yn ei feddwl rhyfedd. Hoffai merched y swyddfa ef yn fawr, canys arferai Robert, ar adegau, pan fyddai mewn hwyl dda, gyf- ansoddi sonedau i'w prydferthwch. Fe achosai ei gamgymeriadau dybryd ac aml i'r swyddogion chwerthin weithiau. Hwyrach eu bod hwythau yn falch o ryw- beth a allai dorri ar beirianwaith undonog y swyddfa. Meddyliwch am damaid o glerc fel Robert Williams yn darllen, ac yn mwynhau'r farddoniaeth fwyaf clasurol Pa hawl oedd gan rywun fel hyn i feddwl am farddoniaeth ac athroniaeth? Onid llawer gwell iddo fuasai bod wedi gwneud ei waith yn y swyddfa yn fwy trwyadl ? Paham na allai fod yn fwy naturiol ac yn debycach i'w gydweithwyr? Llawer gwell iddo fyddai treulio awr yn y pictiwrs gyda'r nos neu gyda'r merched yn y parc. Gwyddai pawb fod dull aflêr Robert o wneud ei waith yn y swyddfa yn sicr o'i ar- wain yn syth o flaen pennaeth y cylch, ac yn fuan iawn hefyd. Ddoe diwetha' fe wnaeth gamgymeriad mor ddifrifol nes gyrru'r swyddogion i gynddaredd ofnadwy Gresyn hefyd! Yr oedd Bob yn hogyn car- edig a chymwynasgar. Dydd y Cofio (Darlun gan Richard L. Huics.) (~)ND yr oedd ei allu meddwl, ei ddawn i greu ac i ddychmygu, yn rhy fawr i swyddfa'r Llywodraeth. Yr oedd ei feddwl yn anhrefnus ac yn wyllt. Darllenai yn ddi-baid, ond heb amcan. Yr oedd yn byw ym myd dychymyg a ffansi-ym mhell iawn, ar adegau, oddi wrth bethau beunydd- iol ac ymarferol bywyd. Heblaw hyn oll, fe ganfu Bob, er mawr ddrwg iddo ei hunan, fod cwrw a whisgi yn rhoddi rhyddid iddo am ychydig oriau oddi wrth sŵn a chellwair y swyddfa. Gallai anghofio ei drwbl beunyddiol yn y dafarn. Felly y darllenai, y meddyliai, y breudd- wydiai ac yr yfai i ddim diben neilltuol. DAETH y diwrnod mawr o'r diwedd. Cafodd lythyr swyddogol un bore i ddweud bod ar Bennaeth y Cylch eisiau ei weled am hanner awr wedi deg, Tachwedd 11, sef Dydd y Cofio. Rhyfedd bod yn rhaid iddo ateb am ei bechodau ar Ddydd y Cofio, o bob diwrnod! Wrth gwrs," meddai Bob wrtho'i hunan, fe fydd y cwbl drosodd cyn y Dis- tawrwydd." Gobeithiai hynny'n fawr. Aeth tuag at swyddfa Pennaeth y Cylch gan feddwl yn galed. Bore melyn ydoedd -boreau sydd i'w cael yn aml yn ein dinasoedd mawr-bore yn dew gan niwl a tharth yn codi o'r afon. Fe welsai foreau tebyg iawn i hwn yn Ffrainc. Boreau llaith yn cydio amdanoch. Ie, rhyfedd iawn i hyn ddigwydd ar fore fel hyn ac ar ddiwrnod mor bwysig yn hanes pob cyn-filwr. Diwrnod galar a llawenydd Dydd atgofion cysegredig! Gan MEIRION LLOYD JONES Yr oedd yn cofio'n iawn iddo, ar fore fel hwn, gario swyddog uchel iawn ar ei gefn trwy'r llaid i ddiogelwch. Ni wyddai ar y ddaear pwy oedd y swyddog. Er hynny, fe gredai Bob y buasai'n ei adnabod yn fuan iawn pe gwelai ef unwaith eto. Yr oedd wedi achub bywyd y swyddog hwn ar fore niwlog fel hyn. Yn wir, fe gofiai Bob, ar ei ffordd i'w ddamnedigaeth, y gwaed budr ar wyneb y swyddog, oedd ei hunan, yn hollol anym- wybodol. Fe'i clywai ef yn griddfan yn ei boen. Gresyn na fuasai wedi ysgrifennu ei enw a'i ddrecsiwn ar ddarn o bapur ac wedi ei roi yn ddistaw ym mhoced y swyddog. Hwyrach y buasai hynny wedi ei helpu dipyn bach ar ôl y rhyfel Ond un fe] yna ydoedd Bob. Nid oedd drefn yn agos ato. Ond yn lle hynny, fe gludodd Bob v swyddog i'r nmhii- lance, ac ymaith ag ef. Rhyfedd fel yr oedd yn cofio am yr amgylchiadau heddiw yn fwy nag ar ryw ddiwrnod arall. Beth bynnag, fe wnaethai un peth gwerth ei wneud yn ystod ei fywyd. CERDDODD i mewn i ystafell y Pen- naeth. Yn ei ffwdan ni sylwodd Robert fawr arno. Adroddiad go anffafriol sydd wedi cyr- raedd yma yn eich cylch," meddai'r g\vv mawr, gan brin godi ei ben oddi ar ryw bapurau o'i flaen. Beth ydyw'r cyhuddiadau, syr? meddai Bob druan. Cododd y pennaeth ei wyneb at Bob. Y nefoedd fawr! Dyma'r swyddog a gariodd Bob ar ei gefn trwy'r mwd a'r baw. Yn ddi-ddadl, hwn ydoedd. Yr oedd meistroli ei deimladau cynhyrfus, distaw, a ffrwyno'i lais yn anodd iawn. Dyma'r diwrnod rhyf- eddaf yn ei hanes. Y cyhuddiadau! meddai'r Pennaeth Rhyfedd fel y gallai'r Pennaeth roi ei fys ar unwaith ar nifer arswydus o gamgymeriadau bach a mawr. Un ar ôl y llall yn ymgodi o'i flaen. Yr oeddynt oll ar bapur mawr o flaen y Pennaeth. "Dyna nhw' meddai'r gwr mawr. "Ni fuasai'r un swyddfa fusnes yn y dre yma yn eich cadw am wythnos. Paham y mae'n rhaid i'r Llywodraeth eich cadw? Yr wyf yn deall oddi wrth yr adroddiad eich bod yn bur ddeallus. Beth ydi'r mater? 'Fuoch- chi yn Ffrainc? Do, syr," meddai Bob, bûm ym Mametz Wood." [I dudalen 15.