Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR GOLL AM UGAIN MLYNEDD MERCH CYMRAES A GROEGWR Ç^SYMEAES o Geredigion J ydyw mam Miss Theo- cì^í^f dora Georgiadis (neu Aleksandra Savitch) y `- ferch 22 oed y bu cym- (gjS^^nCffi^ aint o sôn amdani yr wythnos o'r blaen. Bu ar goll am ugain mlynedd, ond yn ystod mis diwethaf fe'i cafwyd hi drachefn. Ffoi rhag milwyr. YN ystod Rhyfel y Balkans yn y flwyddyn 1912, nid oedd Aleksandra ond baban. Y pryd hwnnw fe drigai ei ei rhieni yn Athen. Groegwr yw ei thad. Un diwrnod cyrhaeddodd llanw'r rhyfel hyd Athen, a bu'n rhaid i'w rhieni ffoi am eu bywyd o flaen y milwyr. Cawsant loches mewn llong ryfel Ffrengig a ddigwyddai fod yn y porthladd. Gadawyd y ferch yng ngofal nyrs yn Athen. Ugain mlynedd o chwilio. YCHYDIG amser wedyn, ar ôl i bethau dawelu dipyn, aeth y tad a'r fam i'r lan i geisio'u baban. Ond nid oedd y plentyn na'r nyrs i'w cael yn unman. Er chwilio yma a thraw, ni chafwyd moni. Yr oedd y nyrs a hithau wedi diflannu. Wel, fe fu'r rhieni'n chwilio'r gwledydd Balkan am eu plentyn am yn agos i ugain mlynedd, gan wario ffortiwn fechan i wneuthur hynny, a'r wythnos o'r blaen fe ddaethpwyd o hyd iddi yn Belgrade, prif- ddinas Iwgo-Slafia. Ei thad, Mr. Argurios Georgiadis, ddarfu ddod o hyd iddi trwy gyfrwng y wasg, ac y mae'r ferch fu'n golledig cyhyd yn awr yn Southend-on-Sea, Essex, gyda'i rhieni. "Cymraes ydw' i." CEFAIS air gyda'i mam, Mrs. Georgiadis, y diwrnod o'r blaen. Ie," meddai, mewn Cymraeg da, Cymraes ydw' i, ac y mae'n bleser mawr gen i ddweud hynny." "0 ba ran o Gymru y deuwch? meddwn innau. 0 Lanon, gerllaw Aberystwyth," meddai. Gan imi briodi Groegwr mi fûm yn trigo yng ngwlad Groeg ac yn Cyprus hefyd. Helen Morris oedd fy enw cyn imi briodi." Er iddi fyw'n hir mewn gwledydd tramor, 'anghofiodd hi mo'i Chymraeg na'i hen wlad chwaith. Gall siarad Groeg yn rhugl. Byddaf yn gweled tebygrwydd mawr rhwng yr iaith Roeg a'r Gymraeg," meddai, ac y mae'r Cymry a'r Groegiaid yn debyg i'w gilydd mewn llawer o bethau." Noson lawen a bythgofiadwy oedd y nos Sadwrn honno pan adunwyd Aleksandra a'i- thad a'i mam. Yr oeddwn i yn y ty," meddai'r fam. Dyma dwrw wrth y drws. Daeth merch ifanc dal, â golwg dda arni, i mewn. Gwallt Miss Mari Macldin. lliw aur oedd ganddi. 'Doeddwn-i ddim yn ei hadnabod hi ar unwaith. Mi edrychais ym myw ei llygaid ac yna mi wnes ei had- nabod." Gŵr bonheddig hael o'r enw Savitch, perchennog papurau newyddion yn Bel- grade, a'i magodd hi. Yr oedd Miss Theodora Georgiadis yn gwasanaethu mewn swyddfa bapurau newydd yn Belgrade pan ddaeth ei thad o hyd iddi. "Ser" i'r Eisteddfod. Y MAE tuedd wedi bod yn yr Eistedd- fod Genedlaethol yn ddiweddar i wahodd pob rhyw sêr i ganu yn y cyngherddau ond sêr Cymru ei hun. 'Rwy'n credu bod pethau am newid, ac y gwelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y dyfodol yn rhoddi'r lle cyntaf i'w phlant disglair hi ei hun. I ddechrau, dyna Miss Mari Macklin, Newcastle-on-Tyne. Un o enethod Caer- narfon ydyw hi. Tua deng mlynedd yn ôl, pan oedd eisteddfodau yn dech- rau dyfod â hi i'r amlwg, digwyddai'r diweddar Mr. Wilfrid Jones fod yn beirniadu mewn eisteddfod yng Nghaernar- fon. Yr oedd 30 o ymgeiswyr yn rhagbrawf y gystadleuaeth-solo allan o unrhyw ora- tario neu opera. Wrth roddi y wobr i Miss Macklin fe ddywedodd Mr. Wilfrid Jones: Y mae ganddi lais soprano rhyfeddol- dawn o'r nefoedd. Ifanc iawn ydyw, a'i llais heb aeddfedu, ond wedi ychydig ragor o ddisgyblaeth fe fydd Miss Macklin yn gantores y bydd Cymru'n falch ohoni." Mewn opera. FE weithiodd Miss Macklin yn galed, a chyn hir yr oedd yn aelod o gwmni opera Carl Rosa. Wedi ei chlywed yn canu II Pagliacci yn y King's Theatre, Hammersmith, Llundain, fe ysgrifennodd critig i'r Observer (Llundain) fel hyn: I have seen innumerable productions of Il Pagliacci in several countries, including its home country, Italy. But never have I witnessed a more perfect Nedda perform- ance than that given by Mari Macklin." Bu'n canu wedi hyn mewn cyngherddau ac operâu ar hyd a lled Prydain. Y mae Miss Macklin yn awr wedi gadael byd yr opera, ac wedi dyfod i'r amlwg gyda'r B.B.C. Cymraes drwyadl ydyw Miss Macklin, ac y mae wedi gwneud amryw recordiau gramaffôn Cymraeg. 'Fydd Miss Macklin byth yn hapusach na phan fydd hi'n canu cân Gymreig i gynulleidfa o Gymry. Mr. Hopkin Morris ar goll. FE fu bron i Mr. R. Hopkin Morris (yr A.S. dros Geredigion gynt) fynd ar goll y nos Sadwrn o'r.blaen ar ei ffordd i ginio cymdeithasau Cymreig Crewe, Stoke- on-Trent, Hanley a'r cylch. Yn y North Stafford Hotel yn Stoke yr oedd y cinio, ond yr oedd Mr. Hopkin Morris yn meddwl mai yn Crewe yr oedd, ac yng ngorsaf Crewe y disgynnodd. Nid oedd neb yno i'w ddisgwyl, ac ni wyddai yntau ddim i ble i droi. Erbyn hyn yr oedd y cinio yn Stoke ar fin dechrau. Fe feddyliodd rhai o'r brodyr fod Mr. Morris efallai wedi mynd i Crewe trwy gamgymeriad, a dyma Dr. T. David Jones, gydag ysgrifennydd y cinio, Mr. John Davies, yn galw ar un o inspectors gorsaf Crewe ar y teleffôn. A wnewch chwi," ebe un ohonynt wrth hwnnw, edrych a welwch chwi ddyn yn