Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FFASIYNAU. Coleri mawr ffwr ar y cotiau newydd. Gan MEGAN ELLIS. HAWDD gwisgo'n ddel y tymor yma. Y mae cymaint o amrywiaeth dillad i'w gael fel nad oes gan neb esgus dros fod yn esgeulus o'i gwisg. Y mae gan y cotiau newydd bron i gyd goleri mawr ffwr, os rhywbeth yn fwy nag erioed, ond nid oes ffwr ar y eyffs. Y mae'r hetiau bach yn dal yn eu bri o hyd. ac nid rhyfedd. gan mor gyfforddus ydynt ar dywydd stormus. Y maent yn gweddu i'r rhan fwyaf o ferched os byddant wedi eu dewis yn ofalus. Melfed. fel yr awgrymais y mis diwethaf, sy'n mynd â hi eleni; felly os ydych am fod yn y ffasiwn, gofalwch am ffrog felfed ddu, neu liw. Nid ydyw rhesi ddim wedi myned allan o'r ffasiwn yn llwyr. Mi welais sgert dwîd frown gyda rhesi bcige, y gôt yn frown plaen, a'r pull-over wedi ei wau o edafedd beige," a'r cwbl yn edrych yn bur smart. Y COLERI NEWYDD. Fe welir ar y tudalen gyferbyn luniau'r coleri newydd, bron nad ydynt fel mantelli bychain. Mi welais un y diwrnod o'r blaen mewn satin lliw wystrys (oysters) yn cael ei gwisgo gyda ffrog marocain ddu, y ffrog yn hollol blaen, ond yn weddol laes. Ffrog ddel arall a welais oedd un wlanen fain liw rhwd, gyda gwregys patent gloyw du, a beret o'r un defnydd. DYMA'R SIOL a ddisgrifir uchod. GWARIWCH— OS GELLWCH. Rhyfedd y pleser a gawn i gyd wrth ddewis a phrynu ff r o g neu h e t newydd, ac yn wir nid wyf i ddim yn teimlo bod yn rhaid inni wrido wrth addef hynny. Cwestiwn arall ydyw a ddylem ni a chaniatau bod gen- nym-ni'r arian wario ar het neu flrog newydd a chymaint o alw am gynilo. Cynilo ar ffyrdd, cynilo ar addysg, ac ar bob gwasanaeth gwladol y mae 'r Llywod- raeth. Ond y mae rhinwedd m e w n gwario o doeth, meddai rhai gwyr pur ddeallus. Mae'n sicr nad yw arian segur yn help i neb, ac y mae pob het neu rywbeth newydd a brynir yn golygu gwaith i rywun. Felly, os oes modd gennych, a heb deimlo eich bod yn wastraffus, prynwch yn ôl eich ffansi, ac ar wahân i'r help i fasnach, cyfrifwch fod y pleser a'r mwynhâd a ddaw i chwi o hynny yn eich llwyr gyfiawnhau. SIOL DLOS. Yr wyf yn sicr y byddwch yn dotio at y siôl sydd â'i llun i mewn heddiw, ac y byddwch eisiau dechrau arni ar unwaith. Fel y gwelwch oddi wrth y llun, y mae'n hawdd iawn ei gwneud, ac fe ellir defnyddio georgcttc neu laes (lace) neu sidan o un- rhyw liw. Meddyliwch mor brydferth fuasai hon wedi ei gwneud o laes du a chyffs ffwr llwyd yn anrheg Nadolig i fam neu fodryb hoff. Gallaf ddychmygu un hefyd mewn sidan lliw briallu, gyda'r fioled, blodyn-y- gwynt, llygad-y-dydd, bwtsias-y-gog, nad- tí'n-angof, ac ambell feillionen wedi eu brodio yma ac acw hyd-ddi; oni fuasai'n dwyn y gwanwyn ger bron llygaid ffrind sydd, efallai, yn methu mynd allan? Rhaid cael defnydd yn mesur llathen a hanner o hyd, a thri chwarter llath o led. Yn gyntaf, gwnewch hem gul neu ymyl picot ar y ddwy ochr, ac ar ôl brodio'r cyffs (chwe modfedd o hyd) a fntio'r fraich yn Y FFROG AR Y CHWITH wedi ei gwneud o satin tywyll gyda llewys hirion a chyffs crêp gwyn wedi eu brodio — ar y dde, ffrog gyda sgert felfed du a blows sidan coch a du. gyfforddus, crychwch y pennau a'u dodi i mewn yn y cyffs, a phwytho'r siôl ar y ddwy ochr am dair modfedd. Fe eglura'r llun bach B sut i wneud y siôl. Yn llun A fe welwch y modd y gellir brodio blodau ar y cyffs. Pwythau syml fel pwyth twll-botwm, hir-a-byr, stroke a daisy-loop a wna'r tro. Bwytewch Ffrwythau a Llysiau, Y mae'r meddygon yn cytuno nad ydym yn bwyta digon o ffrwythau, llysiau gwyrdd, a salad. Pwysig ydyw arfer plant i fwyta salad yn aml, a llysiau heb eu coginio. Trwy feddwl a chwilio tipyn y mae yn hawdd cael llawer math o salad sydd wrth fodd y rhai bach. Mae salad letis, afalau, oraen, a thomato, gyda dyrnaid o resins, yn sicr o'u boddhau; gellir, os dewisir, ei roi rhwng bara ac ymenyn. Mae letis yn dda gyda moron (carrot)- heb ei choginio; wedi ei gratio drostynt, a gerllyg wedi eu sleisio, a gwasgu sudd oraen dros y cwbl. Mae berw dŵr yn rhagorol i'w fwyta gyda chnau a bananas; gwasgwch ddiferyn o sudd lemon arnynt.