Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFROG SIDAN NEU WLAN MAIN, dywyll; gydag amryw goleri, mantelli bychain, a sgarffiau, gellir gwneud iddi edrych yn newydd bob tro. At salad ffrwythau, cymysgu tri neu bedwar math o ffrwyth, megis oraen, banana, afalau, apricots, neu peaches. gerllyg, a thaenu ychydig o siwgr arnynt; os bydd hufen i'w gael gorau oll. Mae llawer o bobl gall yn dechrau eu brecwast gydag afal. Gwell gan eraill grapc fruit. Mae eisiau paratoi hwn y noson cynt, trwy gymryd cyllell finiog a thorri o gwmpas y croen ar ôl ei haneru (mae un hanner yn ddigon), yna taenu siwgr arno a gadael iddo sefyll dros nos. Erbyn y bore fe fydd yn llawn sudd. Dysgwch y plant i fwyta tomatos fel ffrwythau, wedi tynnu'r croen. Wrth fynd i'r gwely cymerwch gwpanaid o Ovaltine yn beth diwethaf. Mae canmol mawr iddo, ac y mae digon o dystiolaeth ei fod yn cael ei baratoi gyda'r gofal mwyaf. Pum Pwynt Tachwedd. Pan ddaw poteli-dŵr-poeth i'w diwedd. llanwer hwynt â llwch lli a brán ac fe wnânt glustogau esmwyth o dan y gliniau wrth olchi'r llawr. Rhwbiwch haearn y grât â lemon cyn blacledio, ac fe lanhâ bob olion tân. # Mae lemon, tomato, neu finegr yn dda at dynnu staen ffrwythau oddi ar ddwylo. Rliwbier yn dda cyn ymolchi. Mae afalau yn haws eu plicio os tywelltir dŵr berwedig drostynt yn gyntaf. Y ffordd hawddaf i ffrïo penwaig (ysg- aden) —Ar ôl eu golchi eu sychu mewn lliain a thaenu blawd ceirch arnynt, yna eu ffrïo mewn ychydig o irad. SAWS GWYN. DEFNYDDIAU: Owns o fenyn; owns o flawd; #ILL E# peint o laeth (llefrith); pupur a halen 3 owns o gaws wedi ei ratio'n fân. DuLL: Cymysgu'r blawd â diferyn o lefrith (llaeth) oer, rhoi'r gweddill o'r llefrith i ferwi, a phan fydd yn berwi ei dywallt ar y blawd cymysgu'r cyfan yn dda ac ail ferwi am 5 neu 7 munud, yna ychwan- egu'r caws a'r ym- enyn gydag ychydig bupur a halen. CAULIFLOWER Tynnu'r dail crin a thorri'r gwraidd caled i ffwrdd. Gwahanu cymaint ag a ellir ar y blodau, yna rhoi'r cauliflower ar ei phen i sefyll mewn dysglaid o ddŵr oer a halen am tua hanner awr. Berwi am tua hanner awr mewn dŵr ber- wedig â halen ynddo. Pan fydd y blodau'n feddal, eu codi'n ofalus o'r dŵr a'u rhoi mewn dysgl gynnes. Tywallt saws gwyn (gweler uchod) ar y cauliflower a thaenu ychydig o'r caws ar yr wyneb. Yna'r cwbl i'r popty am tua deng munud. Fe wnaiff swper campus.—(Allan o'r Llyfr Prydiau Bwyd.) TWRBAN effeithiol iawn, yn blygiadau melfed du fe'i gwisgir gyda veil rwyd lydan. Mynnwch y LLYFR PRYDIAU BWYD Pris deuswllt. FFRENGIG. DYDD Y COFIO (0 dudalen 11.) Rhyfedd na fuasai'r gŵr mawr yn ei ad- nabod bellach. Ond nid oedd. Mae wyth mlynedd yn gwneud llawer o wahaniaeth. Ym Mametz. 'ddwetsoch-chi ? meddai'r Pennaeth. Yr oedd rhyw oleuni rhyfedd yn ei lygaid. Ar hyn daeth ysgrifennydd y Pennaeth i mewn i'r ystafell. "Syr," meddai. esgusodwch fi. A gaf i ddweud wrth y clercod am fod yn barod am y Distawrwydd? Mae hi'n bum munud un-ar-ddeg. 0, ie," meddai'r pennaeth, "gwneweh hynny. Ewch chi gyda'r clercod. Mi arhosaf i yma. Y DISTAWRWYDD am ddau funud yn yr ystafell hon! "Da iawn," meddai Bob wrtho'i hun. "Dau hen filwr o Mametz." Clywsant y gwn mawr yn tanio a'r maroons yn sgrechian. Aeth yr holl fyd oddi allan yn ddistaw fel y bedd. Yr oedd y ddau funud hwn yn brawf ofnadwy i Bob, beth bynnag. Yr oedd yn brofiad mor hynod. mor ddi-ddisgwyl. Yr oedd yr olygfa ar y bore bythgofiadwy hwnnw yn Ffrainc mor glir. Y niwl yn ei dagu. y gwaed ar wyneb y swyddog, y griddfan di-baid. Cofiwch y meirw, — y meirw bendigedig. Rat-a-tats y gynnau bach, sgrechian tor- calonnus. dinistriol y magnelau, sŵn gwŷr meirch yn carlamu. ambiwlans yn rholio ar y fforcld—popeth yn glir. A'r gwaed ar ei wyneb "Wel." meddai'r pennaeth, yr wyf wedi'ch gweld. 'Dylech wneud yn well o lawer iawn, Mr. Williams. Yr wyf yn credu hynny, beth bynnag. Rhof un cyn- nig i chi eto er mwyn y marw. Dywetsoch eich bod ym Mametz. Yr oeddwn innau yno hefyd. Mae nhw'n dweud bod bach- gen wedi achub fy mywyd yno. Dwn-i ddim pwy oedd o. Mi chwiliais lawer amdano. Byddaf yn cofio am y bachgen ar y diwrnod hwn — bob blwyddyn. 'Fedra-i wneud dim mwy. Er ei fwyn ef — chwi gewch gynnig eto. Bore da. Mr. Williams." Aeth Bob ymaith ar ffrwst rhag ofn iddo wylo. EFE ydyw rhyfeddod y swyddfa eto—ond mewn ffordd arall. 'Does neb o'i gyd- weithwyr yn deall paham y mae ers mis- oedd bellach yn gwneud ei orau glas— paham y mae mor awyddus i dclysgu, paham y mae yn llawer mwy trefnus. Mae Bob Williams yn gwybod pam. 'Rydw' i'n falch o galon na ddwedais i wrth y pennaeth pwy oeddwn," meddai wrthyf. Buasai hynny'n difetha'r cwbl. Ond i feddwl bod yr hyn wnes i yn Ffrainc yn cael ei gofio hyd heddiw. Dyna ar- dderchog! Yn wir yr oedd yn well iddo feddwl fy mod wedi marw na beth oeddwn!" ( D I W E D D )