Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PENTREFI Bro Harris a CYMRU, XIII GAN GOMER M. ROBERTS Clydach, Abertawe. FE ddichon y gelwir Talgarth yn dref gan ei thrigolion, ond, i bob diben, pentref bychan gwledig yw, ac amryw o fân bentrefi o'i amgylch. Rhed yr afon Ennig o gyfeiriad Pen y Geuffordd i'w haber gerllaw Castell Bron- llys, ond cyn cyrraedd ohoni ei haber, ceir pont drosti, ac o amgylch y bont yma y mae'r pentref. Mae hanes hen iawn i'r lle. Rhennid Brycheiniog yn dri chantreí', sef cantrefi Selyf, Tewdos, a Thalgarth. Yn Nhalgarth yr oedd y prif lys. Saif yr ardal honno ym mwlch Llynfi, ac oddi yno y gellid gwylio dynesiad unrhyw elyn (l. C. Peate: Cymru a'i Phobl). Rhyw gwch gwenyn o lys a geir yno heddiw, ac ni cheir achos pwysig yno o gwbl oddieithr llabyddio gwraig, dwyn ieir, meddwi, a marchogaeth beisigl heb olau. Gwylio dros y wlad. Adeiladwyd yma gastell yn fore gan Bernard fab Sieffre o Neufmarché. un o ddilynwyr Gwilym Goncwerwr, ond prin y gwelir olion y castell hwn heddiw. Gogoniant a fu yw gogoniant Talgarth, ac er y bu unwaith yn dre bwysig, dirywiodd yn bentref bychan, gwledig. Anodd dychmygu am ardal cyn hardded. Tu cefn i'r pentref mae Mynydd Troed yn gwylio dros y wlad. O ben y mynydd fe welir gwlad eang. Edrychwch yn union o'ch blaen dros y pentref ac fe welwch was- tadedd eang dyffryn Gwy. Draw yn y pellter mae Llanfair ym Muallt, a dilvn- wch rediad yr afon nes gweled Llyswen a'r Gelli (Welsh Hay y Saeson) a gwlad agored Henffordd. Coleg Trefecca. Trowch eich cefn ar y pentref ac yna ar y llaw dde fe welwch Lyn Safaddan a phen- trefi Llangors a Llangasty ar ei lannau. Yn y pellter y mae tref Aberhonddu, a Bannau Brycheiniog yn gefndir iddi. Edrychwch eto ar y llaw aswy ac fe welwch gwm cul coediog. Yr ochr draw i'r cwm y mae'r Mynydd Du. Wrth ei droed y mae hen eglwys Llanelien. ac yn ei berfedd rywle y mae mynachlog enwog Llanthoni. Y mae'r cwm ei hunan yn arwain i Grug- hywel a'r Fenni. Gwlad odiaeth yw hon, ac nid rhyfedd i'r Nornian ei chwennych. Harris a Phantycelyn. 1 bob Cymro, yn enwedig os ydyw'n Fethodist, fe gysylltir Talgarth ag enw Hywel Harris o Drefeca. Yn eglwys Tal- garth y gorffwys corff y diwygiwr, ac ym mynwent yr eglwys y mae bedd ei dad, lle clywodd Williams o Bantycelyn ef yn pre- gethu, a maen y bedd yn bulpud o dan ei draed. Talgarth, Sir Frycheiniog. Nid nepell oddi yma y mae Llwynllwyd, yr hen athrofa enwog, lIe'r oedd Williams ar y pryd yn ddisgybl. Llawer tro y bûm i yn yr eglwys honno. Yma, mewn gwas- anaeth eymun. yr argyhoeddwyd Harris o bechod. Yn yr ystafell dan y tŵr y mae carreg yn gorwedd yn rhydd, ac arni y mae'n sgrifenedig y geiriau a ganlyn,- Dowch y pydrou ddynionach, Ynghyd, feirw byd, fawr a bach, Dowch i'r farn a roir arnoch, A dedwydd beunydd y boch. Dyma'r unig dro imi weld geiriau enwog Goronwy wedi eu cerfio ar garreg erioed. Y palas euraid." Saif Trefeca ryw filltir a hanner o Dal- garth ar ffordd Llangors. Ychydig o dai a geir o gwmpas. Gogoniant y lle yw'r coleg, y "palas euraid sydd â'r angel ar ei ben," fel y canodd Williams; ac o'r neilltu iddo ceir capel coffa Hywel Harris. Gerllaw, o led cae, y mae'r Collcgc Farm, fel y dywedir hcddiw, lle bu athrofa'r Iarlles Iluntingdon gynt. Gwasg enwog. Wrth weld y cyfan, y mae'n anodd peidio ag edrych yn ôl. Bu tyrru mawr i'r lleoedd hyn unwaith pan bregethai Wesley neu Whitfield, a Williams. Harris, a Daniel Rowlands yn eu tro. Ac wrth edrych ar adeilad y coleg, daw'r hanes yn ôl yn fyw i'r cof, y modd y neilltuodd Harris a'i bobl i ffurfio teulu ar ddull mynach- aidd. Yma y bu seiri a chryddion. gwe- hyddion a gofaint, a hyd yn oed argralîwyr, yn gweithio'n galed i gadw'r teulu'n fyw. Gwasg enwog oedd gwasg Trefeca. Yma, ymysg llyfrau eraill, yr argraffwyd rhifyn- nau o'r Cylcligrawn Cymracg gan Forgan John Rhys, y Jacobin Cymreig. a Gardd o Gcrddi gan Dwm o'r Nant. Ond dyna ddigon am a fu. [7 dudalcn 24.