Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Homili ar yr laith Gymraeg -a lefarwyd oadi ar y Maen Llog yng Ngorsedd y Beirdd yn Aberafan CYMRY glân gloyw yw'r mwyafrif sydd o'm blaen mor lluosog â'r mor- grug ar lethrau'r bryn. Eithr pa beth yr aethoch allan 1 w weld? "Chwarae plant, ebr y Philistiaid dienwaededig a'r Ismael crach-feirn- iadol. Ond chwarae teg," meddaf i. Nid yr Apêl at Hanes a wneir gan yr Orsedd heddiw, ond yr apêl at y llygaid ac at y glust. Mae mwy nag un o synhwyrau'r corff yn gyfrwng 1 gyrraeaa yr Mhro calon ac enaid dyn. ap. H Harris. G w y d d a i John Bunyan am "ddrws y llygad" a "drws y glust." Lliw a llun. MAE gan y llygad ei hawliau yn ogystal â'r glust. Mae'r lliaws sydd wedi ym- gynnull yma ben bore i borthi eu llygaid ar yr olygfa wych hon yn dyst di-droi-yn-ôl fod y cain a'r cyfriniol yng nghalon y Cymro heb eu lladd yn llwyr. Erys eto ei hoffter a'i hyfrydwch mewn lliw a llun, mewn defod ac ystum. Brenhines dan ei choron. OND beth am y glust? Dyweder a fynner, yr Orsedd yw'r unig gylch cyhoeddus yng Nghymru heddiw lle y teyrnasa'r iaith Gymraeg yn ddi- gystedlydd. Trinir hi yma nid fel morwyn fach yn y gegin gefn, ond fel meistres yn ei thý ei hun. Yma'n unig y perchir hi fel brenhines dan ei choron ac ar ei gorsedd. Nid yw hyn yn wir am unrhyw gylch cyhoeddus arall yng Nghymru. Nid yw yn wir am yr eglwys nac am yr ysgol; nag yw, nid am Brifysgol Cymru ei hunan, hithau yn un o'r sefydliadau mwyaf anghymraeg yn y Dywysogaeth Nid yw yn wir am yr Eisteddfod, nac yn sicr am y cyngherddau a gynhelir bob nos. Babel fydd yn y babell draw. Tafodau dieithr a arddelir Lladin, Ellmyneg, Ffrangeg, Eidaleg — ond congl anamlwg yn y rhaglen a fedd y Gymraeg. Gall rhai ohonom ymffrostio ein bod yn llefaru â thafodau yn fwy na hwynt oll, ond gwell gennyf, gyda'r apostol, lefaru pum gair yn Gymraeg na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr "rjIOGELjrn wir yw'r hen iaith tu fewn i'r cylch teyrngar hwn. Ond yn y byd mawr tu, allan ymladd a wna am ei heinioes. Er gwaethaf yr ymdrechion clod- wiw a wnaethpwyd ac a wneir o'i phlaid, erys eto ei thynged yn y glorian. Gwir bod yr iaith Gymraeg mewn perygl ers canrifoedd, a goroesi ohoni aml ddarogan am ei marw. Sicr yw nad oes neb yma a gaiff weld neu wylied ei thranc a'i marw- ysgafn. Nid oes fardd yn ein plith heddiw ag iddo rith o argoel am ennill cadair neu goron am ganu marwnad i'r iaith Gymraeg. Ond y mae'n dynn iawn ar yr hen iaith, serch hynny. Mae gweithfeydd y Dê a throchfeydd y Gogledd yn cyfyngu fwyfwy ar diriogaeth y Gymraeg. Ennill y plant. AI I dichon atal a gwrthdroi y llanw Saesneg? Mae gofyn i holl garedigion y Gymraeg ymysgwyd ac ymroi yn fwy nag erioed os yw'r orchest hon i'w chyflawni. Nid yw anfarwoldeb di-amod yn briod- oledd unrhyw iaith. Bu farw'r Gernyweg ar ôl byw am ganrifoedd lawer. Mae'r Fanaweg hithau ar ei gwely marw heddiw. Ond lle y mae bywyd y mae gobaith. Ac ys dywedodd hen wreigen wrthyf unwaith Ceffyl da yw ceffyl ewyllys." Nid eisiau cyfundrefnau a chymdeithasau newyddion sydd arnom, ond cynnal a chefn- ogi y rhai sydd eisoes a gwneuthur gwell defnydd ohonynt. Disgwyl pethau gwych i ddyfod a wnawn oddi wrth Urdd Gobaith Cymru. Os gellir ennill y plant mewn digon o nifer, nid rhaid pryderu am ddyfodol yr iaith. Mwy o Gymraeg. VN y pen draw ni ellir cyfyngu'r iaith i ryw adran neu ddwy, megis cylch y beirdd, neu'r aelwyd, neu'r allor. Rhaid iddi dreiddio i fyd addysg a'byd masnach, byd gwleidyddiaeth a llywodraeth leol, byd y radio, y llythyrdy a'r ffordd haearn-byd gorchwylion cyhoeddus o bob math. Dylai'r hysbysiadau ar y parwydydd ac ym mhob man arall fod yn Gymraeg, ac nid yn Saesneg yn unig fel y maent ar hyn o bryd. Yr wyf am gyfarch gwell i Eistedd- fod Aberafan am fwy o hysbysiadau cy- hoeddus yn Gymraeg nag a welais mewn un eisteddfod o'r blaen. Ond y mae digon o Ie i wella eto. Way out-over the bridge oedd y cyfarwyddyd a welais yn yr orsaf. Yr wyf am weld y cyfarwyddyd yn Gymraeg: Ffordd allan -dros y bont." Ond gofalu ei fod yn Gymraeg, gellir gosod hysbysiadau chwanegol yn Saesneg neu unrhyw iaith arall a fernir yn angenrheidiol. Gan y Parchedig Athro W. H. HARRIS (Arthan), Coleg Dewi Sant, Llanbedr. Iaith gyffredinol pob agwedd o fywyd y genedl, ac nid iaith adrannol-ar yr amod yma yn unig y gall y Gymraeg ddiogelu ei dyfodol, a sicrhau ei pharhâd effeithiol ym mywyd Cymru Fydd. Diogi a ffug. OND os yw'r Gymraeg i fod o werth i'w throsglwyddo, rhaid gofalu am ei phur- deb a'i hurddas. Y mae'r fath beth a Phidgin English," ac, oni byddwn ar ein gwyliadwriaeth, byddwn ninnau yng Nghymru heb ddim ond Pidgin Welsh." Ceir rhyw ysfa afiach i Iwytho ein hiaith ag ymadroddion Saesneg dianghenraid. Gwelir y llwgr ar waith ymhlith y di-ddysg a'r hyddysg fel ei gilydd. Diogi diarwybod sydd yn cyfrif am y di- rywiad yma i raddau helaeth. Ond y mae gan rodres a ffug-ddiwylliant hefyd fys yn y botes. Nid oes neb, bellach, gobeithio, mor ynfyd ac ysmala â defnyddio "diddosben" yn lle het," a phethau gwrthun o'r fath. Ond peth arall yw benthyca dibris a dioglyd. Iaith goeth.' BYDDAI'R "gwirionedd neu'r syl- wedd yn ddigon i'n tadau, ond yn awr ni wna dim y tro ond "realiti." Gynt gellid penderfynu neu ddad- rys pob pwnc, ond rhaid i'n oyfoeswyr gael "problem i'w "setlo. Un o arweinwyr gorymdaith Urdd Gobaith Cymru fore dydd Mawrth a glywais yn gweiddi 'Ble mae dy fadge di? Meddyliais am eiliad, taw Ble mae dy wedjan di oedd y waedd Un o gewri'r pulpud a ddywedodd yn ei bregeth: Y mae bloodhound y nef ar dy drach di." A phregethwr arall ar ei uchelfannau a ganodd mewn hwyl: Efe sy'n feedo fowls y byd; Efe sy'n manage-o engine yr universe. Rhaid i minnau ddywedyd fel y gwalch hwnnw mewn araith Gŵyl Ddewi: 'Does dim yn fy mhrovoko i yn fwy na gweld yr hen iaith yn cael ei chorrupto Popeth yn Gymraeg. CYNGOR Ceiriog oedd Peidio mixio'r Saesneg." Ac erys anogaeth Mynyddog mor amserol ag erioed: Siaradwch yn Gymraeg A chenwch yn Gymraeg, Beth bynnag fo'ch chwi'n wneuthur, Gwnewch bopeth yn Gymraeg."