Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TREFI NEWYDD CYMRU Gan EMRYS G. BOWEN Darlithydd ar Ddaear a Dyn yng Ngholeg y Brifysgol, Aberysttcyth. VN awr, boed inni sylwi ar drefi newydd Ã. Cymru, gyda'u glofeydd a'u mas- nach. Fel y soniais y mis o'r blaen, trueni ydyw nad oedd yr un o'r hen drefi wedi digwydd bod yn sefyll ar y tiroedd glo. Y rheswm am hyn ydyw bod tir glo yn Ne Cymru yn yr ucheldiroedd, a byddai safle- oedd yn yr uchelderau hyn yn anghymwys i ddatblygiad tref yn y canol oesoedd. Felly pan ddaeth oes y peiriannau i Gymru, gyda'i newid chwildroadol yn nosbarthiad pobl a chyfoeth, nid oedd trefi a hir hanes iddynt mewn bod yn y cymdogaethau glo, ac o ganlyniad ychydig iawn o draddodiadau mawr y gorffennol sydd wedi eu cyflwyno drosodd i'r rhai a drig yn y cylchoedd hyn. Y mae'r trefi a dyfodd yma wedi tyfu heb ddim sylfeini dinesig. Y mae'r hanes hwn MYNWENT BETHEL MAE'R Bedol ar yr aswy Ond gwynfyd Huws y Grosar A Bethel ar y dde, Oedd gwrando'r bregeth hir; A'r fynwent yn y canol Ni welodd Huws ryfeddod Lle'r huna meirw'r dre; Mewn maes na choedlan îr; A holl ffyddloniaid Bethel Rhwng meinciau Capel Bethel A'r Bedol yn eu tro, A chowntar Siop y Groes, A ddygir yno i orwedd Y cafodd ei ddiddanwch Yn dawel yn y gro. A'i nefoedd drwy ei oes. Mae Huws y Grosar yno, Bu'r ddau yn dadlau'n fynych Y blaenor wyneb-drist, Dros hawliau'r chwith a'r dde,- A'i ddagrau wedi eu sychu Ond heddiw maent yn dawel Am byth o fewn y gist; Ym mynwent oer y dre; A Wil y Glowr rhadlon Yn aros awr y ddedfryd A feddwai ambell dro, Rhwng muriau'r carchar llaith, Mae yntau'n gorwedd yno, A'r tystion wedi eu galw, Heb syched yn y gro. A'r rheithwyr wrth eu gwaith. Fe garai Wil y meysydd Pwy wyr beth fydd y ddedfryd A'r llwyni drwy ei oes, A rydd y rheithwyr call? A'r Iwyd wningen wisgi, 'Roedd beiau a rhinweddau A'r milgi hir ei goes, Yn eiddo'r naill a'r llall;- A chân a chwmni diddan; Ond weithian mwyn fo'u cyntun A threuliai lawer awr Ym mynwent leddf y dre,- Dan gronglwyd glyd y Bedol A'r Bedol ar yr aswy, Ar fainc y gegin fawr. A Bethel ar y dde. Cwm Rhondda. yn dra gwahanol i'r hyn a ddigwyddodd yn yr Almaen, canys yn y wlad honno fe ddi- gwyddodd fod y glo a'r haearn yn gorwedd o dan y cylchoedd hynny lle yr oedd hen ddinasoedd yn flodeuog iawn yn ystod y canol oesoedd, a chafodd yr hen fywyd dinasyddol ei gario ymlaen i fyny hyd at ein dyddiau ni. Yn Dusseldorf ceir Arddangosfa Gelfyddyd ac Eglwys Gadeiriol ynghyd â phyllau glo a melinau lliain. Ym Mhontypridd ceir pyllau glo yn unig. Heb ganolfan. Yr ail beth a rwystrodd ddat- blygiad trefi yn Ne Cymru oedd y ffaith mai mewn dyffrynnoedd cul a dwfn ymhlith y bryniau y ceid y glo, a phan adeiladwyd tai i'r gweithwyr yn y mannau hyn, byddai tý yn dilyn ty yng I. D. HOOSON. ngwaelod y dyffryn, a heol yn rhedeg drwy'r canol. Pentrefi rhubanog ydynt. Fe welir y pentrefi hyn yn ymestyn yn holl gymoedd glo De Cymru. Y mae'r Rhondda Fach a'r Jîhondda Fawr yn enghreifftiau nodweddiadol ohonynt. Nid oedd gan y pentrefi rhubanog hyn ganolfannau cymdeithasol. Felly, ac eithrio ar hyd y rhannau gogleddol i'r tir glo, a'r porthladdoedd, ni thyf- odd bywyd tref y peth nesaf i ddim,"er bod cynnydd rhifedi'r bobl yn aruthrol. Beth am y porthladdoedd mawrion ? Yma mae'n wir, fod rhyw gymaint o barhâd megis yng Nghaerdydd, Abertawe a Chastell Nedd, ond prin y mae twf y trefi yma yn ystod oes y peiriannau wedi bod mor fawr o'i gymharu â'u dinodedd yn y canol oesoedd, gyda'r canlyniad fod llawer o'r hen draddod- iadau dinesig wedi eu difodi bron yn llwyr. Parc di-ail. Y mae Caerdydd yn enwedig wedi gwneud ymdrechion egnïol i gadw ei hen draddod- iadau dinesig yn fyw, fel y mae presenoldeb yr hen gastell yng nghanol yr heolydd yn ceisio'i fynegi. Y mae'r casgliad adeiladau cyhoeddus ym Mharc Cathays yn fynegiant o'r traddodiad trefol ar ei orau, heb ei ail yng Nghymru, nag ym Mhrydain Fawr. Nid yw hanes datblygiad bywyd tref yng Nghymru yn dangos ond rhan o ymdrech hir a pharhaol dyn i gyd-wau ei hun yn llwydd- iannus a'i amgylchoedd diwylliadol a naturiol. Gallwn edrych ar wahanol drefn- ladau'r heolydd a'r adeiladau cyhoeddus yn ein trefi, fel meini coffa am ei orchestion ar y ffordd. CYMRY I WERTHU PAPURAU-o dud. 3 gampus, ynglŷn â'r ail ran, i efrydwyr y gel- fyddyd newydd o goncro cyndynrwydd y prynwyr. Temtasiwn! A dweud y gwir, yr ydym yn parhau'n hynod gyndyn i brynu llyfr neu gylehgrawn. Y mae'n groes i'r graen gan lawer ohonom. Yr wyf bron credu mai hen draddodiad prinder moddion sydd i 'w feio angenoctid wedi ceulo yn y gwaed ac yn atal pob gwario ond ar reidiau." Mi ddeuthum ar draws dwy enghraifft o hyn yn ddiweddar. Meddai hen wladwr yn y bws fis Awst: Mac-hi'n demtasiwn prynu'r hen FoRD GRON bach yna! Ac meddai un o ddwy chwaer oedd yn 'hel at y genhadaeth,' wedi clywed bod brawd i ŵr y tý lle galwent wedi cyhoeddi llyfr o farddoniaeth: Wir, rhaid imi beidio dweud wrth John acw, neu fe fydd yn siwr o fod eisio'i gael. Y mae oes y traddodiad yna yn gorffen. Y mae'r oes sy'n codi yn adnabod papur a llyfr a chylchgrawn fel rheidiau. Aeth cylchgronau a llyfrau Saesneg yn rheidiau eisoes i fesur mawr oherwydd diffyg gwybod am ddim arall. Gellir defnyddio'r un mesurau i wneud rheidiau o gyhoeddiadau Cymru.