Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DINISTR Y LLIF YN Y WLADFA DYMA lun sy'n dangos mor ddinistriol fu'r llifogydd diweddar ym Mhatagonia, pryd y bu raid i ugciniau o deuluoedd o'r Wladfa Gymreig ffoi i'r bryniau am loches. Y mae 100 o ffermydd o dan y dwr a welir yn y llun. Fe sefydlwyd y Wladfa 70 mlynedd yn ôl gan 150 o Gymry. Fe addawsai'r Llywodraeth dir rhad i bob teulu o dri. Ym mhen 25 mlynedd yr oedd yno 2,184 o Gymry a hcddiw y mae yno dros bum mil o Gymry pybyr. Mac'r rhan fwyaf o'r ffermydd dros 200 erit' o faint. Y mae Cymru i gyd yn cydymdeimlo â'u cydwladwyr yn eu colled a'u dioddef. ESBONIO ANN GRIFFITHS Adolygiad gan J. D. POWELL Teithi MEDDWL Ann GRIFFITHS, fel y'u hadlewyrchir yn ei hemynau. Gan DANIEL WILLIAMS. Gyda Rhagair gan yr Athro T. H. PARRY-WILLIAMS, Aber- ystwyth. Tud. 62. Lerpwl: Hugh Evans a'i Feibion. 2/6. WEITHIAU, ar ôl darllen un ymgais arall at esbonio gwaith y cyfrinwyr, neu draethawd newydd ar Gyfriniaeth ei hun, byddaf yn gofyn mewn penbleth, "I ba beth y bu y golled hon ? Oherwydd dyma waith y gwyr y neb a gais ei wneuthur fod yn rhaid iddo ddywed- yd amdano cyn dechrau, "Hyd yma y bydd mesur fy llwyddiant, ac nid pellach. Ac 'ŵyr neb ond y sawl a'i mesurodd yn onest drosto ei hun, gyn lleied ydyw mesur yr hyd yma hwn. Baich iaith. Baich rnawr y cyfrinydd ymhob oes yw'r gorfod sydd arno i ddefnyddio geiriau, oher- wydd yn y pen draw nid oes modd esbonio'r ecstasi gyfriniol o gwbl, ac o geisio esbonio. cyfryngau lled aneffeithiol ydyw geiriau. Dyna reswm y cyfrinydd dros ddefnyddio geiriau mewn ystyron arbennig,­simbolau, fel y'u gelwir. (Gyda llaw dylid sylwi bod i gyfriniaeth ei geirfa ei hun, a bod cyfrinwyr pob oes yn defnyddio'r un eirfa). Anodd dros ben, felly, yw'r dasg o esbonio mewn geiriau eraill yr hyn a geisiodd y cyfriniwr ei gyfleu trwy gyfrwng estronol. Iaith estron, cofier, yw pob iaith iddo ef. A chofio hyn oll, rhaid llongyfarch awdur y llyfr bach hwn ar ei waith. Y mae defnydd llyfr mwy o lawer ynddo, a gobeithiaf y bydd i'r awdur ysgrifennu'r llyfr hwnnw nesaf. Nodiadau yn unig yw'r traethawd hwn. ond nodiadau gwerth- fawr, serch hynny. Darllenodd yr awdur lawer ar ei bwnc, mae'n eglur; darllenodd hefyd lawer o waith y cyfrinwyr eu hun, a hyn sydd bwysig. Ceisiodd hefyd-a hyn sydd bwysicaf oll-dreiddio ei hun i'r adna- byddiaeth honno yr ymestynnai Ann Griffiths ati bob dydd. Ei phoblogrwydd.' Anodd cytuno â'r cwbl a ddywed. Er enghraifft. ar dudalen 19 dywed wrth sôn am ddwyster llythyrau Ann Griffiths, ac onid ei llythyrau, yn wir, yw'r esboniad gorau ar ei hemynau? Dyma beth hollol anesboniadwy i mi. Na'n wir i chwi. Yr esboniad gorau ar emynau Ann Griffiths yw'r emynau eu hunain, nid dim a ysgrifennodd hi na neb arall. na dim. hefyd, a ysgrifennir ac a bre- gethir ami. Nid wyf mor sicr chwaith am boblog- rwydd Ann Griffiths, a theimlwn yn llawer tawelach yn fy nghalon pe byddai'n llai poblogaidd. Nid emynau i'r llawer yw ei hemynau o gwbl, ac i fod yn berffaith blaen. 'ni chredais ac ni chredaf fod i'r llawer ran o gwbl ynddi. Am reswm arall, er bod iddi berthynas â'r hyn a aeth o'i blaen, gallwn i fy hun yn siriol iawn, hep- go)' yn gvfangwbl y bennod olaf yn y llyfr Cefais lawer o bleser wrth ei ddarllen a gobeithiaf, fel y dywedais, y bydd i'r awdur draethu yn helaethach ar ei bwnc cyn hir. YR ENGLYN ADERYN MEWN CAETS Gan E. G. HUGHES RHYFEDD yw yr ysfa i gaethiwo sy mewn dyn. Er ei fynnych sôn am ryddid, a'i glod iddo, eto prin iawn y mae yn credu ynddo. Ped amgen, ni fuasai ei ddeddfau a'i reolau mor aml, ac ni osodai y sawl a drosedda i'w herbyn mewn caeth- iwed tynnach. Ni ddaliai aderyn, a ddon- iwyd i ehedeg yn rhydd o frigyn i frigyn, a'i osod mewn caets, ac ni ddodai un creadur gwyllt tu ôl i'r barrau heyrn. A hyd yn oed gyda'i farddoniaeth, y peth godidocaf a ddaeth erioed i'w feddwl- mae yr un ysfa i'w gweled. Dichon mai'r ymdeimlad â'i amherffeith- rwydd sy'n cyfrif am hynny, ac yntau yn codi canllawiau o'i amgylch. A dyna fo'n ceisio denu'r aderyn pryd- ferth hwnnw i gaets mor gyfyng â'r Euglyn,—dim ond deg sillaf ar hugain,- heb Ie iddo ysgwyd ei adenydd o gwbl. Caets cywrain yw, er hynny. Gall y neb a fyn ddysgu y grefft, a gwneuthur caets per- ffaith, ond i ychydig y rhodded y ddawn i hudo'r aderyn iddo. Dyna'r pam mae ambell englyn mor ddi- angof y peth byw a ddaliwyd ynddo. Llais aderyn mewn eaets ydyw. Mae ambell fardd o Gymro yn gwrthryfela yn erbyn y caethiwed, neu yn ei anwybyddu. Canodd Pantycelyn ei gân, ac ni wnaeth gyfrif ohono. Dysgodd Islwyn y grefft, eto efe a lefodd, "ymaith reol" gan edrych am dragwyddol heol." A Cheiriog yntau a ddysgodd y grefft. ond pan fo'n canu'n rhydd y cawn ef ar ei orau. Hen grefft Gymreig ydyw llunio englyn, er bod rhyw gysylltiad rhyngddo â mydr- yddiaeth Ladin. Am hynny mae iddo Ie cynnes yn fy nghalon, a gresyn fyddai i Gymry ollwng yr hen grefft i golli. Eto mae rhywbeth trist yn y syniad bod cenedl sy wedi colli ei hannibyniaeth ers canrifoedd, wedi glynu mor dynn yn y mesurau caethion, heb dinc gwrthryfel yn ei llenyddiaeth. COFIO CEIRIOG Un o'r cannocdd plant a roddodd eu ceiniog at gofio Ceiriog, a'i law ar garreg ysgolion Cymru yn Neuadd Goffa Ceiriog, Llanarmon.