Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TwfLlenyddiaethCymru, XVII. Ellis Wynne o'r Las Ynys 66 Nid oes ar Ellis Wynne ofn briwo teimladau neb. Ei gamp fwyaf yw sylwi ar fywyd a'i ddarlunio." G ANED Ellis Wynne yn y Las Ynys, ffermdy neu faenor heb fod ymhell o Har- lech, a saif yr hen dy gan wynebu bryniau Ardudwy, y tu ôl i fryncyn bychan a'i cys- goda rhag gwyntoedd y gorllewin. Perthynai ef i'r hen ddosbarth tiriog Cymreig, neb ohonynt yn gyfoethog iawn ond yn berchen tiroedd digon eang i roddi iddynt gynhaliaeth gysurus. Cyffredin iawn yw gweld enwau eu meibion ar lyfrau'r prifysgolion, ymhlith gwyr eglwys neu fargyfreithwyr y cyfnod. Ac felly Ellis Wynne; cawn hanes amdano yn 1691 yn Bhydychen, er na chymerodd radd yno, a phymtheng mlynedd yn ddiweddarach clyw-wn amdano'n derbyn rheithoraeth Llandanwg yn 1705. Nid oes dim gwybodaeth bendant am ei fywyd rhwng gadael Ehydychen a dechrau ei fywyd eglwysig yn Llandanwg, ond dywed traddod- iad mai cyfreithiwr oedd i gychwyn nes iddo droi yn glerigwr. Hawdd iawn y gall hyn fod, canys nid anodd gweld yn ei ysgrifau wybod- aeth am faterion masnach a dal tir sy'n agosach i ddysg cyfreithiwr nac i ddysg clerigwr. Ni wyddys ychwaith ymha le y trigai rhwng 1691 a 1705. Efallai-nid wyf wedi gweld dim gair yn unman o brawf iddo dreulio rhai blynyddoedd yn Llundain, yn enwedig os dech- reuodd ar yrfa gyfreithiol, ac esboniai hynny ei sêl dros Chwigiaeth y cyfnod a'i hoffter at Anne Brotestannaidd, yn hytrach nag at ei brawd, Pabydd oedd yn uwch ei hawliau na hi am goron Lloegr. Ond os bu'r awdur yn Llundain, tebyg iddo droi'n ôl i Gymru cyn 1698, canys yn y flwyddyn honno priododd ei wraig gyntaf, Lowri Wynne o Foel y Glo, Llanfihangel y Traethau, ei gyfnither yn gystal a'i wraig medd traddodiad; ond bu farw ymhen blwyddyn ar enedigaeth plentyn, a chladdwyd hi yn Llandanwg y dydd y bedyddiwyd ei mab. Ni bu yntau ond dwyflwydd eyn ei gladdu. Yn 1702 ailbriododd Ellis Wynne à Lowri Llwyd a fu'n wraig iddo am ddeunaw mlynedd nes ei marw yn 1720. Bu iddynt naw o blant a bu pump ohonynt farw cyn eu rhieni, gwelodd William Wynne, yr aÜ fab, gladdu'i dad a dilynodd ef fel rheithor Llanfair. EI BLWYF HAMDDENOL. SAIF eglwys Llanfair, ar godiad tir, yn edrych i lawr ar Forfa Harlech, ar Fochras ac ar hen eglwys Llandanwg isod ger y môr. Odditan yr allor y mae gweddillion Ellis Wynne, oedd yn rheithor arni o 1711 hyd ei farw yn 1734, ac a fu byw trwy gydol ei oes heb fod nepell o sŵn ei c.hlychau. Yno, nid anodd yw ei ddych- mygu'n hir graffu ar dir a môr oddi tano, gan sylwi ar fywyd hamddenol ei blwyfolion nes troi o'i fyfyrdod yn ddarlun cyflawn o fywyd dyn. Erbyn adeg ei ail briodas yr oedd Ellis Wynne eisoes wedi dechrau ei yrfa fel ysgrifennwr, canys yn 1701 ymddangosodd cyfieithiad o lyfr Jeremy TayÌor The Rule and Exercises of Holy Living dan y teitl Rheol Buchedd Sanctaidd." Cyflwyn- wyd ef i'r Parchedicaf Dad yn Ghrist Humphrey Arglwydd, Escob Bangor a rhagymadrodd gan y cyf- ieithydd sydd yn dangos yn amlwg nodau oedd i ym- ddangos yn ddiweddarach yng Ngweledigaethau'r Bardd Cwsg." Dywedir mai dylanwad yr Esgob a drodd Ellis Wynne i'r Eglwys, ar ôl iddo weled cystal gwaith a wnaed ar gyfieithu Rheol Bucberlrl Sanctaidd. Yn 1703, cyhoeddwyd Gweledigaethau y Bardd Cwsg wedi ei argraffu yn Llundain gan E. Powell i'r awdwr," ond nid oes enw awaur ar yr wyneb-ddalen. Aeth saith mlynedd heibio cyn cyhoeddi ohono ei lyfr nesaf ac nid oedd hwnnw ond ail drefn- iant ar y Llyfr Gweddi Gyffredin. Dyna'r cwbl o waith llenyddol Ellis Wynne heblaw nifer o emynau; rhai a gyhoeddwyd yn y Llyfr Gweddi megis Myfi yw'r Atgyfodiad mawr," ac eraill yn 1755, pan gyhoeddodd Edward Wynne, mab ieuengaf Ellis Wynne, lyfr o'r enw Prif Addysg y Cristion. Fel y dywed Syr John Morris Jones yn rhagym- adrodd ei argraffiad safonol o'r Gweledig- aethau," pe nad ysgrifenesid mo'r Gwel- edigaethau safle ddigon dinod yn hanes llenyddiaeth ei wlad a gawsai Ellis Wynne, ond yn rhinwedd un llyfr codwyd ef i reng flaenaf ysgrifenwyr rhyddiaith Gymraeg. Ei gyd-oeswyr. Pan gyhoeddodd Ellis Wynne ei "Weled- igaethau," yr oedd Huw Morris, Panty- meibion yn tynnu at ddiwedd ei oes; yr oedd Morrisiaid Môn a Goronwy Owen yn dechrau eu gyrfa hwythau. Nid oedd Methodistiaeth wedi dechrau eto, ond yr oedd ei hadau yn cael eu hau yn Eglwys Lloegr ac yng Nghymru, ond ni chafodd Ellis Wynne fyw i'w gweled yn llawn dwf er iddo wybod am rai sectau'n dechrau ym- gynnull mewn sguboriau gan gadw eu gwas- anaeth heb lyfr gweddi nac offeiriad. Yr oedd Morgan Llwyd wedi marw oes cyn geni Ellis Wynne ond diddorol fyddai gwy- bod a ddarllenodd y Bardd Cwsg Lyfr y Tri Aderyn. Crefft llygad a thafod. Ei gamp fwyaf yw'r gallu oedd gan Ellis Wynne i sylwi ar fywyd a'i ddarlunio, crefft y llygad a'r tafod, ac y mae rhyw bellter rhyngddo a'r gwrthrych bob tro sydd yn Gan EDWARD FRANCIS. Eglwys Llanfair. peri ei fod yn hollol ddi-dderbyn-wyneb ac yn hollol blaen. Nid oes ar Ellis Wynne ofn brifo teimladau neb, na'r tlawd na'r dosbarth canol na'r cyfoethog, ac am hynny mae gonestrwydd yn ei ddarlun megis yng ngwaith y neb sydd yn gweithio heb gyfri'r gost mewn ffafr na gwg ei gydoeswyr. Hyn a wna'r gweledigaethau yn llyfr mor bwysig ar hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif, a phe na bai ond am hyn haeddai Ie ymhlith llyfrau gorau'r cyfnod. Gwrandawer arno yn disgrifio dechreuad cwymp a thlodi'r dosbarth tiriog oedd eisoes yn hoffi bywyd y llys a'r brifddinas yn hyt- rach na'u stad eu hun: Descynnasom ar ben 'hangle o Blasdy penagored mawr, wedi i'r cwn a'r brain dynnu ei lygaid a'i berchnogion wedi mynd i Loegr neu Ffrainc i chwilio yno am beth a fasei can haws ei gael gartre, felly yn lle'r hen dylwyth elusengar daionns gwladaidd gynt, nid oes rwan yn cadw meddiant ond y modryb dylluan hurt neu frain rheibus neu biod brithfeilchiion neu'r cyffelyb i ddadcan campeu y perchenogion presennol. Yr oedd yno fyrdd o'r fath blasau gwrthodedig a allasai oni bai falchder fod fel cynt yn gyrchfa goreugwyr, yn noddfa i'r gweiniaid, yn yscol heddwch a phob daioni ac yn fendith i fil o dai bach o'u hamgylch. Neu gwrandawer ar ei ddisgrifiad o Saboth Cymreig Ni wnaethom ni, ebr un cerddor, ddrwg i neb erioed ond eu gwneud yn llawen a chymeryd yn ddistaw a gaem am ein poen. A gadwasoch-i neb, ebr Angeu, i golli eu hamser oddi wrth eu gorchwyl neu o fynd i'r Eglwys, Na? Naddo, ebr un arall. oddieithr bod ymbell Sul wedi gwasanaeth yn y tafarn-dy tan drannoeth, neu amser hâ mewn twmpath chwarae, ac yn wir, yr oeddym ni'n gar- iadusach ac yn lwcusach am gyn'lleidfa na'r person. Heblaw ei werth fel deunydd hanes, y mae yng ngwaith Ellis Wynne elfen gref o ddychan a ddengys ei fod yn feistr ar ddef- nyddio gwawdiaith y feirniadaeth lem a