Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CLYWED MR. W. B. YEATS A GWILI YM MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. TJU'li Gwyddel a'r bardd enwog Mr. W. B. Yeats ar ymweliad â Manceinion yn ystod y mis, yn traddodi'r gyntaf o gyf- res y tymor o ddarlithiau Ludwig Mond, ar y testun Yr Iwerddon Newydd." Braint fawr oedd gweled y gŵi enwog hwn yn y cnawd, a'i glywed yr traethu ar y mudiad llenyddol yn yr Ynys Werdd. Gwr hardd yr olwg ydyw, ac yn llefarydd tan gamp, fel y rhelyw o'i gydgenedl. Nid oedd dim ofn y llwy- fan i'w ganfod ynddo. Yn wir, aeth allan o'i ffordd i wahodd ei wrandawyr i'w groesholi ar y diwedd. Cymerodd un neu ddau fantais ar y cyfle, a thaf- lodd y bardd ei hunan gydag angerdd i'w atebion parod. Un cwestiwn oedd: paham y myn- egai beirdd a llenorion y mudiad eu hunain drwy gyfrwng yr iaith Saesneg, yn hytrach na'r Wyddeleg? Ei ateb oedd mai mynegi eu hunain yr oeddynt yn yr iaith y meddylient ynddi. Gwili a'i ferch a'i thelyn. Daeth cynulliad ardderchog ynghyd i wrando ar Gwili, yr Archdderwydd, yn traethu ar Fywyd y Penillion Telyn," yn y Gymdeithas Genedlaeth- ol, ac i fwynhau ceinciau ar y delyn gan ei ferch, Miss Nest Jenkins. Canwyd penillion hefyd gyda'r delyn gan Mr. Arthur Grifnths, o Bwllheli, — gŵr ieuanc addawol iawn sydd newydd ddyfod yn athro ysgol i'r ddinas. Meddai wrth orffen Dichon i well bywyd ddyfod yn Ile bywyd cyfnod y penillion telyn, ond o'm rhan fy hun, 'rwy'n gresynu colli o Gymru lawer o gein- der syml a naturioldeb y dyddiau fu. Perygl Cymru gynt oedd can heb addysg. A fydd Cymru nemor gwell, os ceir addysg heb gân? A fyddwn ni, fel cenedl, ar ein hennill, os trown yn genedl or-sobr, yn gwisgo gwydrau, a heb hamdden at fwyn- derau diniwed bywyd. Ai gwell y bardd diweddar, ynte'r hen benilliwr syml na chanai am na chadair na chod? CYMRY READING A'U CYMDEITHAS. V MAE Cymdeithas Cymry Reading a'r Cylch ynflwydd oed. Cychwynnwyd hi gan Mrs. Hugh Jones (Blaenau Ffestiniog) a Mrs. Edgar Thomas (Rhyd-ddu). Rhoddodd y ddwy Gymraes yma wa- hoddiad, yn y papurau lleol, i Gymry'r cylch i ymgomwest. Daeth 60 ynghyd, ac fe ffurfiwyd Cymdeithas. Erbyn hyn, y mae nifer yr aelodau bron yn gant, a'r aelod hynaf yn 84 mlwydd oed. Y tymor newydd. Bu cyfarfod cyntaf y tymor hwn nos Fercher, Hydref 19. Y mae rhaglen y tymor yn cynnwys darlith, dawns, cyf- arfod cystadlu a chinio Gŵyl Ddewi pryd y disgwylir Syr T. Carey Evans yn wr gwadd. Llywydd y Gymdeithas eleni eto yw Mr. Richard Williams (Garn Dol- benmaen) sydd wedi bod yn ysgolfeistr yn y dref ers 40 mlynedd, ac yn fawr ei barch gan bawb. Mr. Howell Davies (Bae Colwyn) yw cadeirydd y pwyllgor, gyda Mr. D. P. Scourfield (Tý-Gwyh-ar- Daf), yn drysorydd, a Mrs. Hugh Jones (Blaenau Ffestiniog) yn ysgrifennydd. CYFYNGU AR Y CROESO I AELOD SENEDD CAFYYYD cinio cartrefol a hwyliog i (iymry Llundain i longyfarch Mr. Rhys Hopkin Morris ar ei benodi'n un o ynadon Cyflogedig Llundain. Elfed. ei weinidog, a lywyddai. Dywedai fod yr amgylchiad yn peri iddo deimlo'n hen; ond ychydig o arwyddion hynny oedd yn ei araith ac yn y modd y llywiai'r cyfarfod. Talwyd gwrogaeth uchel i gymeriad gloyw ac unplygrwydd yr Ynad newydd gan y cadeirydd, Mr. D. Owen Evans, A.S., Syr Percy Watkins a Miss Janet Evans, merch y diweddar Mr. T. J. Evans. Yr Athro Ernest Hughes. Siaradodd yr Athro Ernest Hughes, Abertawe, am rinweddau a dylet- swyddau Cymry Llundain, ac atebwyd gan Mr. J. E. Thomas, Llywydd Undeb Cymdeithasau Cymreig Llundain. Rhoddwyd clo ar y cwbl gan Syr Vincent Evans, yn cynnig iechyd da cadeirydd, un o feibion hofîusaf y genedl, a da oedd gan bawb weled y marchog yn edrych cystal. Ychwanegwyd at swyn a hwyl y cyf- arfod gan raglen gerddoriaeth o drefn- iant Mr. David Richards, Miss Gwladys Williams, a Mr. Richard Daniels. Clwb yn achub y blaen. Arfaethesid trefnu gwledd groeso i Mr. D. Owen Evans, A.S., ar ei ethol yn Aelod tros Geredigion, ond achub- wyd y blaen gan y Cymry hynny sy'n mynychu'r Clwb Rhyddfrydol a chaf- wyd cinio yno o dan lywyddiaeth Syr E. Vincent Evans. Trueni ydoedd cyfyngu fel hyn a rhoddi rhwystr ar ffordd trefnu llon- gyfarch cyffredinol gan Gymry Llun- dain. Deallwn fod hwyl ar y wledd ac i bawb oedd yn bresennol siarad. Y Llywydd newydd. Cyfarfu Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol yn Radnor Street a'r hen lywydd (Syr Percy Watkins) yn cyf- lwyno'r swydd i Mr. J. E. Thomas gyda dymuniadau da pawb iddo, ar gychwyn tymor ei lywyddiaeth. Cafwyd anerchiadau buddiol gan y ddau a chanu ac adrodd gan Miss Dorothy Davies, Miss Betty Lloyd, Mr. Teify Bonner a Mr. Richard Daniels. Y darlithiau. Nodwedd arall y misoedd hyn ydyw'r cyfarfodydd pregethu blynyddol a rydd Gan LLUDD. gyfle i aelodau crefyddol y Brifddinas glywed rhai o "hoelion wyth" yr hen wlad. Weithau ceir darlith ynglŷn á'r cyf- arfodydd hyn, a bu'r Parch W. Llewelyn Lloyd yn ddiweddar yn traethu ar John Williams, Bryn- siencyn yn Wilton Square. Cafodd yr Annibynwyr gynulleidfa- oedd lluosog yn eu cymanfa flynyddol. ac yr oedd y pregethu yn y gwahanol gapelau a'r gyfeillach yn King's Cross yn effeithiol iawn. Yr Urdd yn Llundain. Daeth Mr. Ifan ab Owen Edwards yma yn un swydd i gyfarfod offeiriaid a gweinidogion eglwysi Llundain a'r pwyllgor sy'n ceisio ennyn diddordeb yng ngwaith yr Urdd. Er bod anawsterau yn Llundain na wyr y wlad amdanynt, credwn y sef- ydlir adrannau'n fuan ynglŷn ag amryw o'r eglwysi, ac y ceir gweled eynrychiolaeth o Lundaìn yn Eistedd- fodau'r Urdd yng Nghaerffili a Hen Golwyn. Dathlu hanner canmlwydd. Y mae Cymdeithas Lenyddol Castle Street yn hanner cant oed. Bu cyfar- fod i ddathlu hyn y nos o'r blaen, a llywyddwyd gan Mr. Lewis Lewis (yr oedd ei wraig ef yn bresennol pan sef- ydlwyd y Gymdeithas). Bu Bedyddwyr Castle Street yn enwog am eu cymdeithas lenyddol ar hyd y blynyddoedd, a chofir yn hir am waith amryw o'r aelodau, nid yn unig yn eu cylch eu hunain ond yn y bywyd Cymreig yn gyffredinol, ac ni raid ond enwi Mr. Robert Green, Mr. John Hinds, Mr. Tom Hinds a Mr. Arthur Griffith. Y London Welsh.' Dechreuodd y clybiau pêl-droed ar eu tymor ac er i'r clwb Rygbi golli yn erbyn Upper Clapton y maent ar ôl hynny wedi profi eu medr, a diau bod y London Welsh yn un o glybiau gorau'r ddinas. Dyweddio. Diddorol i Gymry Llundain ydyw dyweddîad y Milwriad John Edwards a Miss Gwen Davies-Bryan. Mab i weinidog Annibynnol ydyw Mr. Edwards, ac arferai fod yn athro yn un o Ysgolion Canol y ddinas, ond daeth y rhyfel ar draws ei holl gyn- lluniau. Wedi dychwelyd o Ffrainc, ymdaf- lodd i wleidyddiaeth a bu'n Aelod Senedd dros Aberafan ond cafodd yr anrhydedd o gael ei orchfygu gan y Prif Weinidog presennol. DIFFYG UNOLIAETH YN LERPWL. Gan W. EILIAN ROBERTS. Y MAE glannau Merswy eisoes yn brysur, ond lleol i raddau yw cylch ein prysurdeb. Ceir lliaws o gyfarfodydd, ac er eu bod yn bwysig, yng ngolwg ein gwahanol eglwysi, eto anodd yw croniclo'r inwv- afrif o'u hanes. Nid oes i fywyd Cymreig Lerpwl eto unoliaeth. Hwyrach mai'r rheswm yw bod cymaint ohonom, neu ynteu ein bod yn rhy gyfyng ein gweledigaeth. Dramau o Gymru. I orffen Hydref cafwyd Cymanfa'r Bedyddwyr, hen sefydliad yn em plith. Daw cwnini drama Mr..]. Ellis Williams i Bootle i roddi perfformiad o Pen y Daith," a diau y bydd cronfa eglwys Peel Road yn elwa ar yr ym- weliad, gan mai er cynorthwyo cyllid yr eglwys honno y cynhelir y per- fformiad. Ar yr 11 a'r 12 o Dachwedd cawn weled Cwmni Dan Mathews o Bontar- dulais gyda ni, a diau y cawn yma eto fwynhau gwledd. Beth ddaeth o'r syniad am godi Cym- deithas Ddrama newydd i Lerpwl ? Cyngherddau'r Undeb Corawl. Y mae'r Undeb Corawl Cymreig yn Lerpwl yn torri tir newydd eleni, drwy ateb yr alwad oddi wrth y cyhoedd am gyngerdd amrywiaethol. Trefnwyd eleni eto dri chyngerdd rhagorol, y cyntaf i ddigwydd nos Sadwrn, Tachwedd 19, pryd y ceir yr unig gyde i glywed Seindorf enwog y Welch Guards, dan arweiniad Capt. Andrew Harris, a hefyd Iwan Davies, y bachgen fu canu gerbron y Teulu Brenhinol ym Mhlas Buckingham. Bydd y soprano operataidd, Miss Thea Philips, yno hefyd, a'r côr, sydd erbyn hyn yn un o'r sefydliadau cerdd- orol hypaf yn y deyrnas. Fe genir ganddo amryw ddarnau Cymraeg, gyda Seindorf y Gatrawd Gymreig yn cyfeilio, ac o dan arweiniad Dr. T. Hopkin Evans. (-Ap Heli.) Y mae gan bron bob cwmni mas- nach mawr eu clybiau chwarae, cym- deithasau corawl, cwmniau drama, etc. Gwelaf fod cwmni D. & R. Evans, Cyf., yn trefnu perfformiad o'r Milkado am dair noson yn y Radolf Steiner Hall, a diau y bydd Uu o Gymry yn cefnogi'r antur. Prif \vr y cwmni hwn ydyw Mr. Tim Evans. y Cymro cerddgar o Lanpump- saint, a'i Iwydd ym myd masnach yn rhamant. Deil yn ffyddlon at bob sefydliad Cymreig, ac ef ydyw arwein- ydd y gân yng nghapel Jewin. Ei lladd ar yr heol. Bu farw'n ddiweddar Mr. David Williams, Great Percy Street, a fu yn y fasnach laeth yn Llundain am flyn- yddoedd lawer ac a roddodd gychwyn i lawer bachgen a esgynnodd yn uchel, megis Syr William Price a'r Aldramon David Davies, St. Pancras. Bu Mr. Wüliams am dymor maith yn aelod o Gyngor Bwrdeisdref Finsbury. Bu galar hefyd trwy farw adfydus Mrs. Edward Owen, South Side, Clapham Common, a laddwyd trwy ddamwain ar yr heol. Yr oedd Mrs. Owen yn eithriadol yn ei ffyddlondeb i bob mudiad Cymreig, a hi, o'r cychwyn, ydoedd trysorydd Cangen y Chwiorydd ynglŷn â Symudiad Ymosodol y Methodistiaid Calfinaidd.