Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFROL ni RHIF 3. Y FORD GRON GWASG Y DYWYSOGAETH, WBECSAM. Teliffôn: Wrecsam 622. London Agency: Thanet House, 231-2 Strand. Camp 1933 DYMUNID Blwyddyn newydd dda gynt gyda rhyw hyder y gwelid gwirio'r gair. Ers peth amser bellach. rhyw wan- obeithio v daw blwyddyn well na'r llynedd y byddwn ar ddydd Calan. Unwaith byddai disgwyl pethau gwych i ddyfod yn naturiol ddigon, ond y mae'r ymadrodd bron wedi mynd yn ddi-ystyr. Dyna fesur yr anobaith ddaeth ar y byd. Eto fe all 1933 fod yn flwyddyn newydd well o gymaint ag yr ymroddwn ni, bawb yn ei gylch, i'w gwneud felly-ac yn en- wedig mewn dwy ffordd Meddylier am y lladd ar rywun neu'i gilydd a glywir yn barhaus-gartref, yn Lloegr, yr Iwerddon, Ffrainc, ac yn ddi- weddar, yr America. Y mae'r un math o feirniadu cas wedi esgor ar ryfel cyn hyn ar lannau afon Danube, ac yn debyg o wneud hynny eto. Di-Ddisgwyl NID yn fynych yng nghwrs hanes y digwydd peth mor anhraethol bwysig mor ddi-ddisgwyl â neges y Taleithiau Unedig yn gwrthod aros am eu dyled rhyfel. Wedi cytundeb Lausanne, yn maddau dyled yr Almaen i ni ac i Ffrainc, ac America yn curo dwylo, fel tae, ni ddychmygodd bron neb ar yr ochr hon i Fôr Iwerydd nad oedd ym mwriad gwein- yddiaeth y Taleithiau gymhwyso'r un eg- wyddor at ddyledion Prydain a Ffrainc a gwledydd eraill Ewrop iddynt hwy. Ar y dealltwriaeth hwnnw y seiliwyd cyllidebau pawb y llynedd, ynghyda phob cynllun a gobaith am adferiad gwaith a masnach. At Bawb o Ewyllys Da MAE'N debyg fod cyffelyb syndod a siom yn yr America. Mor bell ydyw gwledydd byd eto o ddeall ei gilydd, er cryfed y rhesymau sy'n eu dal ynghyd ac er mor agos y daethant at ei gilydd drwy gyfryngau teithio, a'r wasg, a'r radio Mae gwaith pwysig yn aros pawb o ewyllys da eleni. Bydd angen pwyll, ac amynedd, a brys hefyd. Fe ddaw Mawrth 4 ar fyrder, pryd y cymer yr Arlywydd Roosevelt yr awenau, a Mehefin 15, pryd y bydd y taliad nesaf yn ddyledus. Mae gennym ni ar yr ochr hon y dasg o brofi i'r America cyn hynny na all Ewrop dalu ond trwy dorri cytundeb Lausanne. Gwario-Neu Beidio ? P'RUN. o safbwynt economig, sydd debycaf o fod o fudd-a chaniatáu bod gan neb arian i'w gwario ? Mae'r gwyr hyddysg yn anghytuno. Cyn- ilwch, ebe un ochr, er mwyn chwyddo arian cyfalaf at greu gwaith unwaith eto. Gwariwch, os bydd modd gennych, ebe'r lleill, er mwyn clirio'r stociau a chreu galwad newydd. Gallem ddychmygu clywed glowyr y De a chwarelwyr y Gogledd yn cymeradwyo hynny. Ond beth am y diwydiannau sy'n di- bynnu ar alwadau cyfalaf ac arian mawr- y gweithfeydd haearn a dur a pheiriannau a llongau Nid gwario'r cyhoedd na hyd yn oed y cynghorau cyhoeddus sy'n debyg o roi'r rheini ar lawn waith. Eithr gwell hanner torth na dim bara. Ein barn ni ydyw y dylid chwanegu gwaith, os gellir gwneud hynny, heb wario'n afresymol. Mae eisiau miloedd o dai newydd medd- ylier beth olygai hynny i chwarelwyr a gweithwyr teils ac adeiladwyr ym mhobman (Mae arian digonedd i'r pwrpas gan y cymdeithasau adeiladu, ond nid yw ymgais y Llywodraeth i'w sicrhau at ddiben tai yn addawol o gwbl.) Rhaid galw ar gyfalaf i anturio tipyn yn lle bodloni ar 2 y cant yn y banc. Gallai personau unigol sy'n dda arnynt wario mwy sylwer ar y ffortiynau a adewir yn gyson gan rai wrth farw. Dylid eu hannog i feddwl mwy am grai'r nodwydd. Y Llaw Gelfydd YMAE'N debyg yr ymfalch:odd pob Y Cymro a glywodd y chwarelwyr llechi ar y radio. Nid canu na chwyno y buont, ond sôn am eu crefft, trwy un o'u plith eu hunain, ac yr oedd yn amheuthun synhwyro, drwy'r sgwrs, fodlonrwydd a phleser y llaw gelfydd wrth ei gorchwyl. Yr oedd y llais yn ifanc a hyderus ac yn dangos, hyd yn oed yn y Saesneg ang- hynefin, feddwl effro ac ysbryd annibynnol y gweithiwr Cymreig ar ei dir ei hun ac ni aUai'r argraff a adawyd lai na bod yn ffafriol yn Lloegr fel yng Nghymru. Gresyn na ddeuai'r archebion am dai, a cherrig i'w toi, a waherddir gan y polisi ariannol ar hyn o bryd, modd y cedwid y llaw gelfydd jtt brysur a'r meddwl yn fodlon. Gresyn hefyd na buasai perthynas gwledydd byd yn ddigon da inni fedru edrych ymlaen yn hyderus at dymor hir o berffeithio crefft a diwyllio meddwl dan wenau haul heddwch. Rhyfel YR un wythnos ag yr oedd y chwarel- wyr ar y radio yr oedd Mr. H. G. Wells. gŵr a rag-fynegodd yn fwy nag undyn gynt fel y difodid pellter drwy gyfrwng trydan a'r radio a'r eroplên, yn galw am gymryd pwyll, a phenodi athrawon darbodaeth i astudio canlyniadau hyn oll, er mwyn ceisio rhwystro'r drychineb sy'n sicr o'n goddiweddyd o adael i'r galluoedd hyn fynd i ddwylo byd a'i fryd ar ryfel. Eisoes y mae Mr. Baldwin, sy'n aelod o'r Weinyddiaeth, wedi golchi ei ddwylo, megis, o'i gyfrifoldeb ef â'r hen ddynion ynglŷn â pherygl rhyfel yn yr awyr, gan awgrymu bod tynged yr ifainc yn eu llaw hwy'i* hunain. Ac ni chelodd ef ei argyhoeddiad na ddifodwyd y posibilrwydd o weled rhyfel, gwaeth na'r olaf, yn ein hoes ni. Mae'n hysbys hefyd i Arglwydd Ponsonby ddad- lenu'r ffaith i Brydain fod ar fin myned i ryfel yn erbyn gwlad nad enwyd mohoni., rhyw dro ar ôl 1918. Fel Lleidr yn y Nos DDYDD y Cofio, fe addunedwyd aml adduned nad aem i ryfel mwyach. Ond nid digon hynny. Yn sydyn, fel lleidr yn y nos, y daw'r alwad, wedi ei Hunio'n gyfrwys i apelio at deim- ladau dwysaf gwlatgarwch, cyfiawnder a thosturi. Atebodd miloedd yr alwad yn 1914 i achub cam Belgium. Heddiw fe wyddys y gadawyd i'r Almaen oresgyn Belgium, lle y gallasai byddinoedd Ffrainc a Phrydain fod wedi gwneud hynny, modd y cynhyrfid gwaed y werin gartref. Mae gwlatgarwch uwch. gwlatgarwch, ac fe ddylem ni yng Nghymru ei osod jti ddelfryd rhag na bydd gennym wlad i'w charu.