Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron Y NEUADD WEN. At Olygydd Y FORD GRON. WRTH ddarllen yn Y Ford Gron am y mis diwethaf ysgrif ragorol Mr. T. S. Davies, Birmingham, ar Hunllef Nos o Haf "-a'r ysfa fawr sydd gan rai i Seisnigo enwau Ue Cymru, Cartrefi a Threfi," daeth rhyw himllef fawr drosof wrth feddwl am gartref yr hwn a wnaeth gymaint Er mwyn Cymru." Methu yn lân a deall bod ardal yr hen Barch. (chwedl ninnau) Michael D. Jones, Syr O. M., Llew Tegid (heb fod ymhell) yn dechrau Seisnigo. Y Neuadd Wen­ai gwir yw Whitehall Gobeithio nad yw'n ffaith ac mai breuddwyd neu ddychymyg yw. Ni chaiff yr un Sais fawr o drafferth i seinio Y Neuadd Wen "—pan ddealla mai dyna enw cartref Syr Owen M. Edwards, a gobeithio yr erys byth wrth yr enw a roddwyd iddo gan anwylddyn Cymru— Y NEUADD WEN. Carn Dochan. Parablu'n gyflymach? At Olygydd Y Foüd GRON. MEWN ysgrif ar gystadleuaeth y Ddrama vn Eisteddfod Aberafan yn v Ford Gron (Hydref, 1932), dywaid John Rhys Fe gymerth y Gogleddwyr eu hamser wrth chwarae." ac awgryma y dylsent fod wedi parablu'n gyflymach, a gorffen hanner awr yn gynt. Carwn innau, fel cyfarwyddwr Cwmni'r Gogledd, alw sylw at farn yr awdur­Mr. J. Ellis-Williams,—bod angen oddeutu dwy awr a phum munud i berfformio'r gomedi a chredaf ei fod yn bur agos i'w le. Gog- leddwr yw Mr. Williams. Y mae hefyd yn ddramaydd a chyfarwyddwr tra galluog ac i'm tvb i, nid oes eisiau newid fawr ddim ar j- cyfarwyddiadau a roddwyd ganddo ef. Yn y rhag-brawf, bu'r cwmni mor ffodus â gorffen perfformio ymhen dwy awr a phum munud union, a diau fod y beirniaid wedi sylwi ar hynny. Ac yn Aberafon drachefn ni chymerth y cwmni ond dau funud dros yr amser. Yn fy myw ni allaf gydweld â sylwadau John Rhys ar y pen hwn, a byddai'n dda gennyf ped ymhelaethai ar y pwnc mewn rhifyn arall o'r FORN Gron. RT. HUGHES. Deanfieìd, Bangor. Cau Culforoedd Cymru. At Olygydd Y Ford Gron. DARLLENAIS erthygl yn Y Ford Gron o dan y pennawd, Mjnd i'rMôr, beth sydd gan Master Mariner i'w ddweud." Dywed Ysbaid o flynyddoedd yn ôl, o'r pentrefi a'r ardaloedd gwledig y byddai mwyafrif mawr swyddogion llynges fasnach Prydain yn dyfod, ac ymhlith y rhain, nid ail le a gymerai bechgyn Cymru." Tebyg mai gwir yw hyn pan adnabu fy nhad, yn ystod ei fywyd, 110 o gapteniaid ym mhlwyf Abergwaun, a nifer y trigolion tua'r dwy fil. Y mae gennyf i enwau'r capteniaid a'r llongau, oedd yn mordeithio i bob rhan o'r byd. Ni ddaeth i'm rhan i fynd i'r môr." Tramwyais ar hyd a lled cyfandiroedd. Dysgais fod ymdrech yn dyrchafu cym- deithas oll. Ni roddwn fy mywyd yn llaw ysgolfeistr ond byddwn fodlon ar ddylan- wad Capten o achos iddo wybod ystyr hunanfeddiant. Nid "long shore man" yw morwr y cefnfor, a wybu fod dŵr hallt dros dair rhan o'r byd Y mae'r Orsedd yn gweld hyn. Ceir ein Tywysog yn helpu i sefydlu Master Mariners Guild yn Lerpwl. Rhaid wrth bilot i bob capten i ddysgu hunanfeddiant iddo. Ni wybu byw ar y tir ddichellion y môr. I dderbyn elw oddi wrth yr ymdrech hwn, rhaid wrth drefn. Pa drefn svdd ar Fwrdd y Pysgodfeydd, pan welir ar amser ciniawa'r Tywysog a'i gyfeillion yn Lerpwl, trawlers o Abergwaun yn ysgubo'r môr o fewn tair milltir i'r lan, a gwybod yn eithaf da bod hyn yn drosedd? Dylid cau'r culfor rhyngom ac Iwerddon yn llwyr rhag y trawlers," ac felly dyfod â chyfle i fechgyn Cymru unwaith eto, megis yn adeg y llongau bach gynt, elwa ar bysgod- feydd y dŵr heli a achoswyd gan ddyfroedd croyw vn ymyl. TOMOS AP TITUS. Abergwaun, Penfro. R. S. Hughes a Hawen. At Olygydd Y FORD GRON. Bu darllen ysgrif Mr. Ernest Roberts yn y Ford GRON am y mis yma ar Bethesda Fawr yn Arfon yn gyfrwng i ddeffro hen atgofion difyr am yr amser a dreuliais yno 40 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn brentis o grydd ym Mraich Melyn. Un peth neilltuol a lŷn yn fy nghof yw marw Mr. R. S. Hughes. Yr oeddwn yn digwydd bod yn ei gwmni y nos Sadwrn olaf y bu ef fyw. Bore Sul, Mawrth 5, 1893, yr oedd y Parch. D. Adams (Hawen) i bregethu yng Nghapel Treflys, ac nid yw ond fel doe gennyf ei gofio'n esgyn i'r pulpud ac yn hysbysu'r gynulleidfa am farw Mr. R. S. Hughes, a thra'n gwneud hynny, yn wylo fel plentyn. A phwy allsai beidio ag wylo, wedi colli'r fath athrylith, ac ef ond 38 mlwydd oed. Ond dyma fy mhwynt pwysicaf. Cry- bwylla Mr. Roberts am Hwfa Môn, Tan- ymarian, ac R. S. Hughes, ond beth mewn gwirionedd a barodd iddo adael allan enw un o enwogion Cymru, sef y Parch. D. Adams (Hawen), ac ef yn fardd y Goron Genedlaethol ? AP CENNIN. Llanfairfechan. Neuadd Goffa Goronwy Owen At Olygydd Y FORD GRON. A FYDD y Cymry ym mhob rhan o'r byd, wrth ddathlu Gŵyl Ddewi eleni, cystal â chofio'r cyfle sy ganddynt i wneud casgliad at Neuadd Goffa Goronwy Owen, sydd i'w chodi ym Mro Goronwy, Môn ? Y mae goreugwyr y genedl o bob sect a phlaid yn bendithio'r ymdrech a gellir anfon rhoddion i gangen Llangefni o'r Midland Bank. R. L. Anghoflo Tri o Rai Glew ? At Olygydd Y FORD Gron. DARLLENAIS erthygl Mr. Ernest Roberts ar Bro'r Hen Fynyddoedd Cadarn (sef Bethesda, Arfon), gyda blas, ond peth siom. Tybed mewn difrif na chododd dyn- ion eraill, heblaw y rhai a enwir, a osododd eu hôl ar yr ardal a'n gwlad ? Credaf i ardal Fethesda gael ei bendithio â dynion mawr iawn enwaf dri ar antur,- Thomas Roberts, Jeriwsalem, Robert Parry, a W. H. Williams. Yr oeddwn mewn cyfarfod o Gyfrinfa Bethesda o Undeb y Chwarelwyr pan apeliai W. H. Williams atom fel hogiau i gymryd mantais ar yr Undeb i astudio economeg. Canlyniad yr apêl honno oedd sefydlu y dosbarth allanol cyntaf yn yr ardal dan y Brifysgol, a'r Athro Robert Richards yn ein hyfforddi. Ni ddywedaf ddim am Eisteddfod y Plant nag am ei dylanwad er daioni, ond yr oedd sefydlu y dosbarth hwnnw yn gam pwysig yn hanes yr ardal, ac y mae'n parhau i ddwyn ffrwyth heddiw. Siaradwn y dydd o'r blaen â gwraig- brodor o Fethcsda-a dwedodd iddi fod yn gwrando ar ddarlith yn un o drefi mwyaf y Gogledd yma gan weinidog adnabyddus yng Nghymru ar Yr hen ddiwylliant gwlad yng Nghymru," a bod y darlithydd yn cyfeirio at y diweddar W. H. Williams fel un o gynrychiolwyr disgleiriaf y diwylliant hwnnw. Gellwch ddychmygu fy syndod pan ddarllenais yr erthygl yn y FORD GRON ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, a dim gair o sôn am W. H. Williams ynddi. Fe ŵyr pawb a wyr rywbeth am hanes diwydiant Cymru am yr hanner can mlynedd diwethaf, na fydd yr hanes hwnnw'n gyflawn heb bennod helaeth ar ymdrechion Undeb y chwarelwyr, a chwarelwyr Bethesda yn neilltuol, a Robert Parry a W. H. Williams fel eu harweinwyr, Ac onid oedd dylanwad Thomas Roberts yn fawr ar y ddau ? Gresyn i'r cyfaill ollwng yr ysgrif o'i law heb roddi blodyn bychan i goffa'r tri glewion hvn. UN YN CARU LLED. EISTEDDFOD TALAITH POWYS YN LLANFYLLIN, Mehefin 16 a 17, 1933. RHESTR TESTUNAU (4Jc. drwy'r post,) oddi wrth- J. Lloyd Thomas, B.A.. LLANFYLLIN.