Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymrür LLYFR a Llydaw'r CERRIG A wyddoch chwi, wŷr mad Tréguier, Pa fodd y codwyd, gynt, eich eglwys, A'i chlochdy sydd fel bys o graig Yn dangos i chwi'r ffordd i B'radwys? (Théodore Botrel.) YMAE'R Cymry a'r Llydawiaid wedi ymdrechu i gadw yn fyw enaid eu cenedl uwchlaw'r awyrgylch estron sydd o boptu iddynt. At lyfrau a barddoniaeth feiblaidd dynol- iaeth y troes Cymry. Cadwodd y Llydawiaid eu hysbryd yn ddiogel yng ngherrig eu gwlad. Edrychwch ar ein cerrig Fe fuom ninnau'n creu. Fe welwch yn Llydaw groesau o'r wythfed ganrif, cestyll, eglwysi cadeiriol, capelau, a chalfarîau maen wedi eu codi rhwng y flwyddyn 900 a 1700. Adeiladau CrefyddoL Y mae gennym bob math o adeiladau crefyddol,-rhai plaen, megis eglwys gadeiriol Sant Brieuc (a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg), a rhai cymhleth a gorffenedig sydd ymhlith creadigaethau gorau dwylo dyn, megis eglwys gadeiriol Quimper, sydd i'w chyfrif ochr yn ochr ag eglwysi enwog Rheims, Rouen, a Chartres.. A oes rhaid imi enwi eglwys gadeiriol othig Trèguier, neu'r cerfluniau hynny sy megis yn gweddio gyda'i gilydd ym mhentrefi llwm St. Thegonnec, Guimiliau, Lampaul, Plougastel, Folgoet, Pleyben, neu St. Pol ? Tra bo gennym ein cerrig nadd, fe geidw ein cenedl ei hanfarwoldeb. Y Pethau Di-Farw. Nid oedd beirdd Iwerddon rhwng 1700 ac 1800 yn cenfigennu at y planiedyddion tsyf- gan Louis N. LE ROUX oethog oedd yn lladrata'u tir; gwyddent y darfyddai am y planiedyddion ac y diflannai eu cyfoeth gwyddent hefyd fod y beirdd a ysgrifennodd farddoniaeth anfarwol yn anfarwol eu hunain. Fe wyddom ninnau, Lydawiaid, fod ein cerrig nadd yn ddi-farw, a theimlwn na bydd enaid ein cenedl ni farw tra byddo'r cysgodi y tu cefn i'r cerrig. NEITHIWR MI rodiwn mewn gwynfyd neithiwr, Mewn neuadd a'r ser iddi'n dô, A phelydr o arian yn twynnu trwy aur Ar gyrion rhyw swynol fro. Nid oedd yno orcestra'n chwarae, Ond llithrem yn rhwydd dros y llawr I rithmau rhyw fiwsig ymhell bell i ffwrdd, Fel hedd addewidion Gwawr. A hyfryd oedd gweled y lliwiau Ar ddawnswyr, o'r lampau calch, A meddwais ar geinder celfyddyd, a swish Sidanau rhianedd balch. Yn y dyddiau gynt, pan roes ein pobl grefft ymladd o'r neilltu a dewis crefft cerfio yn ei 11e, fe gerfiasant enaid eu cenedl heb sylwi dim ar ysgolion na rheolau o'r tu allan. Yr oedd eu ffydd grefyddol a chenedlaethol yn eu cymell i gerfio. Ysbrydolrwydd oedd eu prif ddrychfeddwl; hanes di-farw cenedl oedd y canlyniad. Yr wyf yn gobeithio y bydd eia hartistiaid ni heddiw, sy'n cael eu cymell eto i gerfio mewn arddull fu yngholl am ddwy ganrif, yn cael gwir ysbrydiaeth ac yn gwneud Llydaw unwaith eto yn ganolfan celfyddyd Geltaidd bur, mor rhydd â'r hen Lydaw oddi wrth ddylanwad yr athrylith Ladin a'r athrylith Almaenaidd. Llwyddiant fo i'w hymdrech i sefydlu ysgol gerflunio genedlaethol yn Llydaw. Ond darfu; fe ddaeth y nos-wyliwr I'm galw i'r gwaith ger fy nôr, A gwelais yr heulwen drwy'r port ger fy mwnc, Yn llachar ar wyneb y môr. Y llong yn ei hymdaith yn llithro Dros lesni y dẃr oedd fel llyn,­ Heb ymchwydd, heb awel, na dim byd ond swish Y cwrlid o ewyn gwyn GERALLT JONES. Talybont, Ceredigion.