Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DDRAMA 01 CHRUD CREFYDD pob gwlad yw crud ei ddrama. Y mae llwythau ar wyneb daear heddiw, megis Indiaid yr Amerig neu dri- golion y Congo, Mexico a New Guinea a'u seremoniau i weddio am law neu ffrwythlon- der y tir yn cynnwys holl hanfodion y ddrama. Synnir teithwyr gan y cefndir arddunol, y gwisgoedd rhyfedd, y masgau, y corff wedi ei beintio, yr actio realistig, y dawnsio a'r canu. Yng Ngroeg, yn Japan, yn Lloegr-tair gwlad a gynhyrchodd ddramâu godidog-rhaid crwydro'n ôl i wasanaeth crefyddol i ddarganfod y datblygiad cynnar. "Can yr afr." Pe teithiem mewn dychymyg i wlad Groeg tua saith gant o flynyddoedd cyn Crist, oedem yn synn y tu allan i fintai o bobl mewn llawer pentref yn addoli wrth allor Dionysus, duw y gwin a duw y gwanwyn. Yno gwelem ddynion ieuanc, wedi eu gwisgo mewn crwyn geifr, yn dawnsio a chanu emyn ddramatig i'r duw caredig a ddygai lesni a ffrwyth i faes a gwinllan. Dyna'r trag-oedia, cân yr afr," a buan yr arweiniodd i'r tragedy yn eisteddfod fawr y ddrama yn Athen o 535 c.c. ymlaen ac i gampweithiau Aeschylus, Sophocles ac Euripides. Y tair Mair. Trown i mewn i eglwys yn Lloegr yn y ddeu- ddegfed ganrif gan gofio, wrth gwrs, ei bod yn fan cyfarfod, yn ganolbwynt addysg, celfyddyd a difyrrwch y bobl yn ogystal ag addoldy. Y mae'n ŵyl y Pasg, ac, er bod y Lladin i ni, fel i fwyafrif y bobl, yn bur ddieithr, gallwn ddilyn y gwasanaeth diddorol. Cerdda tri offeiriad i gyfeiriad yr allor a sefyll dros dair Mair yn crwydro at y bedd gwag; cyfarfyddir hwy gan un arall, yr angel, a ddywaid wrthynt, ar gân, i'r Crist atgyfodi. Clywn yr emyn fawl aç yna brysia dau arall, Pedr ac Ioan, at y bedd. Mynegant mewn ystum a chân eu syndod a'u llawenydd. Ant ymaith i gyhoeddi'r newydd, ond oeda Mair Magdalen yno, yn unigrwydd hiraeth. Iddi hi, ymddengys y Crist ei hun. Ar y Nadolig, caem olwg ar y bugeiliaid yn cyrchu at breseb wrth yr allor, a chanai bachgen uwchben am newyddion da o lawenydd mawr." Fel hyn, ceisiodd eglwys Rhufain roddi rhannau o fywyd Crist o flaen yr anllythrennog. Dim lle i'r dorf. Nid rhyfedd i blentyn y ddrama dyfu'n rhy fawr i'r crud. Nid oedd digon o Ie mewn eglwys i'r dorf a gasglai ar Nadolig a Phasg a gwyliau eraill i fwynhau'r darluniau hyn nid oedd ychwaith ddigon o offeiriaid i gymryd rhan mewn amryw ohonynt. Codwyd llwyfan yn y fynwent neu fan arall gyfleus y tu allan, mygwyd y Lladin ffurfiol gan iaith gyfîredin a chynnes y bobl a llithrodd yr actio'n fwyfwy i ddwylo'r lleygwyr. Camodd y ddrama wedyn dros gloddiau'r eglwys i'r stryd a derbyniwyd hi'n groesawgar Arwyddocad perfformio Everyman yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Gan T. ROWLAND HUGHES Coleg Harlech. gan y gildiau, undebau llafur y trefi yn yr Oes- oedd Canol. Gwylio'r Pasiant. Awn am dro i ddinas Caer gyda thoriad gwawr ar ŵyl y Llungwyn, rywdro yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cludir sŵn y clychau o'r abaty hen gan awel y bore bach. Er ei bod mor gynnar yn y dydd, y mae prysurdeb a chynnwrf yn y strydoedd a thyrrau o bobl o bob gradd a gwaith yn dewis lleoedd manteisiol i wylio'r pasiant a ddaw heibio. Ar fath o wagen fawr wedi ei haddurno, y mae cwmni o weithwyr mewn lledr yn actio Lucifer a'i lu yn herio Duw ac yn cael eu gyrru o'r nefoedd. Dilynir hwnnw gan lwyfan arall ar olwynion ac arno rai o frethynwyr y dref yn mynegi mewn drama hanes Duw yn creu'r byd. Dyrnu Noah. Pan oeda'r wagen nesaf wrth ein hymyl, rhed cynnwrf hapus i blith yr edrychwyr. Arni y mae llong bren, a gwelwn Noah, druan, yn ceisio achub ei deulu a'i eiddo rhag y diluw. Dynion sy'n byw ar y gwaith o gario dŵr o afon Dyfrdwy yw'r actorion, a phwy bynnag a'i hysgrifennodd, yr oedd ganddo lawer o hiwmor yn ei natur. Gwnaeth wraig Noah yn glamp o ddynes siaradus yn gwrthod ffoi i'r arch ac yn dyrnu ei gŵr ar yr esgus Heiaf Grot am grogi Judas." Felly y Uithra pasiant ar ôl pasiant heibio. Yn un, y mae Abraham yn Aberthu Isaac rhydd eraill hanesion am y proffwydi ac eraill ddigwyddiadau ym mywyd Crist. A'r per- fformio ymlaen trwy'r dydd o stryd i stryd, ac nid oes bachgen na hynafgwr na chaifî gyfle i'w fwynhau. Telid y costau gan y gild, a difyr yw sylwi ar y costau hyn. Yng Nghoventry, er enghraifît, derbyniodd rhyw ŵr o'r enw Fawson rôt am grogi Judas," ac i'r un brawd amryddawn rhoddwyd grôt arall, am ganu fel ceiliog." Enillodd Duw dri swllt a grôt, Noah swllt, a'i wraig wyth geiniog. Yn y rhestr o fân dreuliau nodir pethau fel peintio a thrwsio pen y diafol," a dwy lathen a hanner o liain stiff i'r Ysbryd Glân." Yr Interliwd. Actiwyd y mysteries hyn ymhell i'r unfed ganrif ar bymtheg mewn llawer cwm a thref. Sylfeinid pob un, wrth gwrs, ar hanes o'r Beibl, ac felly nid oedd lle mawr i wreiddioldeb, er bod cyfle i roi tafod graenus i wraig Noah a throi cymeriad fel Herod neu'r Diafol yn ffŵl. Ochr yn ochr a'u datblygiad hwy, tyfodd math arall o ddrama, yn cynnwys elfennau newydd. Yn lle storïau o'r BeibI, dewiswyd egwyddorion, fel Gwirionedd, Cydwybod, Cyf- oeth, neu Ofn, gan eu troi'n gymeriadau a gwneud drama gyfan ohonynt. Dysgai'r clerigwr a'i hysgrifennai ryw wers bwysig trwy gyfrwng y morality (fel y gelwid y ddrama hon), ond buan y daeth y nod- weddion moesol yn gymeriadau byw yn mynegi bywyd y cyfnod. Trwyddi camwn ymlaen i hiwmor yr interliwd ac i'r dramâu a wnaeth gampweithiau Shakespeare a'i gyfoedion yn bosibl. Everyman" eleni. Yr orau yw Everyman," y ddrama a roddir ar y llwyfan eleni yn Wrecsam ar noson gyntaf yr Eisteddfod. Cyhoeddwyd hi tua 1520, ac yr oedd yr awdur dienw yn fardd ac yn feistr ar iaith ystwyth a syml yn ogystal ag yn grewr cymeriadau. Gŵr eglwysig ydoedd, y mae'n amlwg, a manteisia ar y cyfle i yrru Dyn at Gyffes cyn marw. Y mae'r stori'n syml. Gwêl Duw Ddyn yn byw mewn camweddau a gyrr ei was, Angau, i ofyn am ei enaid ac am gyfrif o'i holl weithred- oedd ar y ddaear. Dychrynnir Dyn gan y neges, ond ni Iwydda i berswadio Angau i roddi amser iddo i baratoi ar gyfer y daith bell a dieithr. Chwilia am gydymaith, ond pan glyw Cyfaill, Perthynas a Chyfoeth nad oes ddychwelyd o'r daith, troant ffwrdd oddi wrtho. Cilio draw hefyd a wna y Pum Synnwyr, Prydferthwch, Nerth, a Gwybodaeth. Yr unig gymeriad a Iŷn wrtho yw Gweithred- oedd Da, ond y mae hwnnw mor egwan a dinerth nes prin y gall sefyll ar ei draed. Gadewir y ddau yn unig a thrist ac ofnus i wynebu'r daith ddi-ddychwel. Cynhesrwydd. Wrth ddarllen neu wylio'r ddrama fechan hon, anghofiwn mai nodweddion moesol sydd o'n blaen tyfant yn gymeriadau effro a di- ddorol. Cydymdeimlwn â Dyn fel pe bai'n gyfaill a adwaenwn a theimlwn yn ddig hyd yn oed wrth Gyfoeth am ei adael. Llithrodd cynhesrwydd i mewn i'r di- fywyd, a rhoddwyd arbenigrwydd agos mewn darn syml o brofiad cyffredinol dyn. Gwir y pregetha'r awdur ar ddiwedd y ddrama, pan na ddylai, ond rhaid yw cofio mai yng ngolau ei gyfnod ac i bwrpas neilltuol yr ysgrifennai. Shakespeare yn gwylio. Ymhen rhyw drigain mlynedd ar ôl cyhoeddi Everyman," crwydrai'r llanc Shakespeare drwy heolydd Stratford. Doi ambell i gwmni o actorion crwydrol heibio gyda drama ddifrif neu interliwd ysgafn, yn ôl cais y gynulleidfa. Ni raid tynnu llawer ar ddychymyg i'w weld yn gwylio drama fel Everyman yn geg-agored, a'i feddwl gwreiddiol yn deffro i hanfodion y ddrama. Y mae hiraeth, gobaith, ofn, siom a galar," meddai wrtho'i hun, yr un ym mhob oes ac ym mhob lle, er bod credo ac athrawiaeth yn newid. Beth bynnag fo'i syniadau, y mae Pob Dyn yn Ddyn."