Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyn di deimlad dan Reol BETH sy'n cyfrif am lu beirdd Cymru ? Bron na ellid dweud bod i bob ardal ei bardd, ac weithiau ei beirdd. Ac nid beirdd ardal mo llawer ohonynt, er iddynt ganu eu cwbl, bron, ar destunau lleol, fel y gwnaeth y diweddar W. Roger Hughes. Thomas Jones (" Pitar Puw a'i Berthnasau," gan Thomas Jones, Gwasg Aberystwyth). Traddodiad ? ie mae'n debyg, i ryw raddau, ond beth am draddodiad ei hun ? Anianawd y Cymro ? rheswm arall yn ddiau, pe gwyddid beth a olygir wrtho. Tybed nad yn naear- yddiaeth ein gwlad y mae gwraidd y peth ? Gwlad fynyddig, wyllt yw Cymru. Mewn cym- oedd cynnil y trig y rhan fwyaf o'i phobl, ac onid yno hefyd y megir ei beirdd ? Cyfyngaf y bo cylch bywyd, dwysaf a mwyaf augeruuui yw r oywyu hwnnw. utwynuu y bo gwlad hefyd, sicraf ei hadwaith ar deimlad a meddwl dyn. Credaf nad oes fywyd íe1 bywyd gwledig Cymru am ddatblygu teimlad dyn yn gynnar yn ei oes, a chredaf hefyd mai nodwedd amlycaf Cymro ifanc, beth bynnag, yw gallu teimlo'n angerddol. Yma y mae un eglurhad ar nifer ein beirdd, canys y teimlad yw ysgogydd mwyaf bywyd, a chân ydyw mynegiant naturiol teimlad mawr. Fel fflam cannwylL Ond y mae gallu teimlo'n angerddol yn an- fantais i ddyn mewn bywyd ar lawer cyfrif. Y mae'n anfantais cyn bod yn fantais i fardd hefyd. Y teimlad yw ffynhonnell holl allu dyn i greu, yr elfen bwysicaf yn ei gyfan- soddiad. Y mae fel fflam cannwyll. Y fflam sydd ynghwsg ynddi'n rhoi gwerth i'r gannwyll. Yn ei ffiam y mae cannwyU yn ateb ei diben, sef goleuo. Ond wrth oleuo, y mae'r gannwyll yn Ilosgi hefyd. Y fflam hon yw'r teimlad. Tuedd fflam y gannwyll yw mynd y ffordd yma a'r ffordd acw, yn union fel y bo'r gwynt yn chwythu, a 11e bo gwynt, buan yr ysir y gannwyll yn Uwyr. Nid yw'r ddameg yn gyflawn, mwy nag unrhyw ddameg. Nid oes rinwedd yn y gannwyll i gadw'i fflam rhag dilyn y gwynt. Ond y mae i ddyn allu i gadw rheol ar ei deimlad, a hynny sy'n hanfodol bwysig i gelfyddyd, canys nid yw celfyddyd ond bywyd o dan ddisgyblaeth, neu fywyd ar ei lawnaf oddi fewn i'r terfynau sydd iddo. Adnabod terfynau ac ymollwng i fywyd llawn o'u mewn ydyw camp fawr dyn a'r gWr celfydd yw hwnnw a lwydda orau yn hynny. Mewn dameg arall, nid cestyll afrosgo pren yn cwympo i ddwfr Uyn, ond ymblaniad esmwyth dyfrgi byw-dyna ydyw celfyddyd. Gwybod ei gelfyddyd. Peth posibl a fyddai i'r dyfrgi hefyd, o dan angerdd teimlad, megis braw sydyn, ym- luchio'n ddigon afluniaidd a thrystfawr i'r dwfr. Ond fel rheol, fe adnebydd ei ddawn yn ddigon llwyr i ymblannu'n gelfydd. Gan y Parch. W. ROGER HUGHES, Awdur Cerddi Offeiriad." Peth go dda i'w ddywedyd am fardd hefyd ydyw ei fod yn adnabod ei gelfyddyd. Credaf y gellir dywedyd hynny am Thomas Jones, wedi darllain y gyfrol fach hon o'i gerddi. Gwyddai'n dda mai rhaid ar farddoniaeth ydyw delweddu diriaeth, a chawn ef yn sôn am gamog aur a chant yr haul," llwyfan Carnedd Filiest," etc. Gwybod hynny sy'n cyfrif am y gafael sydd ar beth fel hyn 'Roedd hirddydd Dygwyl Ifan Yn tynnu i ben ei daith, A'r haul yn gollwng camog aur O'i gant i'r eigion maith Gwyddai hefyd pa ferfau ac ansoddeiriau i'w defnyddio, megis crynhôi a chroyw yma Crynhoai'r hwyr ei gysgod (chysgod ?) Yng nghiliau'r mynydd llwm, A ehroywach, croywach yr ai cân Pistylloedd pell y cwm; Y mae'r penillion hyn yn darllain mor rhwydd ag unrhyw rigwm, ond y mae'r del- weddau diriaethol ffres, a'r berfau ac ansodd- eiriau dethol sydd ynddynt yn eu gwneud yn beniUion celfydd, byw. Profiad dwfn. GWyr y bardd reol ar fynegi'r hyn a deimla. Dengys ei waith graffter ei sylwi hefyd neu ddyfnder ei brofiad, ac y mae'n rhaid wrth hyn, yn ogystal ag angerdd teimlad, i wneuthur bardd. Gwaith bardd mawr ydyw llinellau fel hyn Ar fuarth ffermdy, mewn glasgwm clyd, Rhodiai morwynig, ac yn ei phryd Llonyddai yr hafddydd i weld ei lun. Adnabyddai'r bardd hwn ei gelfyddyd cystal hefyd, am ei fod yn adnabod ei fyd ei hun mor dda. Dysgodd ystyr ei brofiadau, ond adwaenai ei derfynau. Galwad y Mor. (Henley.) TARANA, rholia'r eigion Mewn urddas ac mewn bri; O, cleddwch fi, nid mewn daer ddi-reddf, Ond yn ei fywiog li. Ie, cleddwch fi 11e mae'n gerwyn Filltiroedd fil o'r lan, Ac yn ei derfysg brawdol Mi dreigla' o fan i fan. Y Saeth a'r Gan. (Tennyson.) ANELAIS saeth uwchben i'r ne, Disgynnodd rywle, ni wn b'le Gan cyn gyfiymed yr hed saeth, Methais ddarganfod i ble'r aeth. Anadlais ganig fry i'r ne, Disgynnodd hithau ni wn b'le Cans pwy sy â threm mor graff a mân I fedru gwylio hediad can ? 'Mhen amser maith, mewn derw syth, Gwelais y saeth, yn gyfan byth; Drachefn, o galon cyfaill drud, Clywais y ganig ar ei hyd. Canodd i'r pethau y bu ef byw gyda hwynt, yng nghymdogaeth Hiraethog, heb honni gwybod am ddim y tu allan iddynt. Gwelodd ddigon ynddynt a thrwyddynt, ac o fedru hynny, oni chafodd, wedi'r cwbl, brofiad dyfnach o wirionedd a sylwedd bod, nag a gawsai llawer un o dramwy'r gwledydd oU ? Praw o'i adnabyddiaeth drylwyr o wrth- rychau ydyw bod ei ganu mor aml-ochrog. Y mae'n trin ei destunau'n union fel y bo'i dymer ef ei hun,-hiwmor, cariad, prudd-der, tosturi, neu feirniadaeth, ond gwneir hynny'n gelfydd bob tro. Y mae'n eofn yn beirniadu ei gymdeithas ei hun, ac yn llym hefyd Ni safodd galarwr â ffugiol wedd, I blygu anwiredd amdano. Canu am fro. Y mae angau'n poeni cryn dipyn arno„ fel ar bob bardd, ond eofn ydyw yn ei ganu i'r gelyn mwyaf hwnnw. Rhaid bod yn eofn i fod yn ddi-ffuant Ei gwedd fel angel oedd, ar lawr y glyn, Mor wyn A'i gwallt fel ebon du yn fantell A mi ar 61, heb ddim ond gwallt yn wyn, Ac enaid llawn o greithiau! Mae hi'n dywell. Y mae'n ddigon o fardd i gymysgu ei dym- herau yn yr un gân, heb fod yn anghelfydd, megis yn ei gân gampus i'r Golomen, Ue y tosturia wrth yr aderyn, ac y beirniada ddyn Golomen, mae dy fron yn friw, A'th adain wen yn goch ei Uiw Ac arglwydd-ddyn yn chwerthin draw, A dryll yn degan yn ei 1aw I edn gwan, diniwed fryd, Mae'i dreth yn drom, a'i chwarae'n ddrud. Gellid ysgrifennu'n faith iawn ar ragoriaeth barddoniaeth Thomas Jones, ond credaf imi eisoes ddweud digon i awgrymu llawer mwy. Yn ardal Hiraethog y bu Thomas Jones byw, ac o'i ardal y cafodd ei destunau, ond nid bardd ardal mohono ef mwy. Y mae y gyfrol fach hon yn ychwanegiad gwerthfawr at len- yddiaeth Gymraeg ein cyfnod, a hebddi, bydd pob cartref Cymreig yn dlotach. Wrth Fur y Bont ("SURLE VIEUX PONT, Lenaut) WRTH fur y bont sy'n werdd gan fwsg, A rhudd gan gen di-ri, Parablai dau â llais fel cwsg, A dyna ni Fe blygai'n dyner at y ferch A sibrwd wrthi hi Am lwyth ei fron o ffydd a serch, A dyna fi 'Roedd hithau'n welw, ond nid gan fraw, Petrusai, crynai hi Gwrandawai ar ryw, lais o draw, A dyna ti! Wrth fur y bont, sy fyth gyflêd, Daeth dau i'r oed yn ffri Fe ddywaid ef y'i câr hi gred Nid mwy ny-ni! M. AP TOMAS.