Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BETH YW HANESYDD ?—Gwaith Theophilus Eyans [ j. D. POWELL] BETH yw dyletswydd hanesydd '( Un ddyletswydd yn unig a fyddai ateb llawer, sef chwilio'r ffeithiau mor graff ag y gallo. a'u gosod i lawr mor blaen ag y medro." Eu chwilio'n graff," medd eraill, ond wedi ei chael, bydded yn rhydd i'w gosod allan mor fyw ag y bo modd. Gwisger esgyrn sychion y ffeithiau â chig. Defnydd- ied yr hanesydd ei ddychymyg." Ffeithiau. Dyna'r ddwy ochr, ac, fel arfer, gellir dywedyd llawer dros y ddwy. Perygl y cyntaf yw profi'r hyn a brofwyd lawer gwaith gan rai o hanesyddion y ganrif ddiwethaf, sef nad yw ffeithiau yn ddim ynddynt eu hunain. Perygl yr ail ddosbarth yw cuddio'r ffeithiau'n anobeithiol o'r golwg. Er enghraifft, edrycher ar yr holl sothach a gorddwyd yn y blynyddoedd diwethaf hyn gan ddilynwyr Lytton Strachey. Peth Byw. Er hynny, fe gydnebydd pawb fod lie pwysig i'r hanesydd a berthyn i'r ail ddos- barth, a chofio un peth, sef nad yr un yw dychymyg a mympwy, a'i bod yn bosibl edrych ar hanes fel peth byw a rhamantus heb wyro ffeithiau, tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Rhaid wrth ddisgyblaeth lem, ac od oes neb o ddarllenwyr Y Foed Gron ar feddwl ysgrifennu hanes fel yma, fe'i cynghorwn i ddechrau trwy ddarllen Rhif 15 o Lyfrau.'r Ford Gron (RHYFEL Y BRUTANIAID A'R SAESON, o Ddrych y Prif Oesoedd, gan Theophilus Evans. Tud. 45. Pris chwe cheiniog). Mwy na chwilotwr ffeithiau. Fe weithiodd Theophilus Evans yn bur galed i chwilio am ffeithiau, ac nid oes un- rhyw Ie i gredu iddo ef dderbyn dim heb fod yn berffaith sicr yn ei feddwl ei hun fod sail iddo. Ond yr oedd yn fwy na chwilotwr ffeithiau. Wedi eu cael, edrychodd arnynt yn hir, a gwisgodd amdanynt ddefnydd dychymyg a ddisgyblesid trwy astudio llyfrau hanes y Beibl, ac yna ysgrifennodd Drych y Prif Oesoedd. Y canlyniad yw iddo greu peth newydd mor wirioneddol ag y crewyd unrhyw nofel neu ddrama. Nid i'r fan yma yr esgyn pob hanesydd. Siarad drosto'i hun. Nid oes eisiau imi o gwbl nodi rhagorion y Uyfr gwnaeth y Golygydd hynny, yn ei ffordd feistrolgar ei hun, yn y rhagair. Dau beth yn unig a fynnwn eu nodi. Y cyntaf yw gallu Theophilus Evans i roi golwg ar gymeriad dyn trwy adael iddo siarad drosto'i hun mwy na hynny, ei roddi mewn byr eiriau. Er enghraifft, wrth sôn am Hengist yn dyfeisio Brad y Cyllill Hirion. Ha, ha," ebe Hengist, yno wrth ei wyr, y mae i ni obaith eto. Oes." A hwy a'i hatebasant ef â gwên ddiflas Gobaith ansicr iawn ydyw hynny canys nyni a ddirmygasom ormod ar y Brutaniaid eisys a phobl lewion ydynt hwythau wedi llidio." Ffi, ffi," ebe Hengist, na lwfrhaed eich calon yr ŷm ni yn gyfrwysach na hwy. Pan ballo nerth, ni fedrwn gynllwyn." Dewr, bonheddig, glan. Ysgrifennodd llawer am gymeriad Arthur, ei ddewrder, ei foneddigeiddrwydd, a'i fywyd glân. B'le y gwelir y teithi hyn yn well nag yn y llythyr hwn a ysgrifennodd (yn ôl Theophilus Evans) i'w nai ? Arthur brenin Brydain at Howel brenin Llydaw yn anfon annerch. Y barbariaid anys- tywallt y Saeson sy futh yn gormesu yn dra ysgeler yn ein teyrnas. Hwy a gyflogwyd ar y 0 Storm Awstralia i Ardd Flodau CymrU lÍBaldwyn M. Davies,l L. Ipawich, Çueensland YR oeddwn wedi bod yn yr Eglwys Gymreig yn Blackstone, Queens- land. Yr oedd cysgodion y nos heno'n ymdaenu dros y wlad yn gyn- harach nag arfer. Gwelwn fod ystorm ar ddyfod. Yr oedd y ffurfafen yn ddu-Ias, a'r awyr yn fwll. Prin y darfu imi gyrraedd adref nad dyma sŵn mawr taranau, a mellt yn ei ganlyn. Dyma'r gwynt yn codi ac yn rhuo. Ni welais erioed yng Nghymru y fath fellt ag a welir yn Awstralia. Maent fel nadroedd mawr yn chwarae uwchben ac yn goleuo'r wlad. Mae'r storm wedi cyrraedd. Rhaid cau'r ffenestri a'r drysau. Mae'r gwynt yn curo'r glaw yn erbyn y ffenestri. Wel, rhaid bod yn ddiolchgar am y glaw, gan nad ydym wedi cael ond ychydig ohono er y Nadolig. Unwaith eto yng Nghymru. Rhaid bod yn dawel. Mi gymeraf lyfr oddi ar y silffoedd. Disgyn fy llygaid ar Rhwng Doe a Heddiw, a dyma fi'n ei ddarllen yng nghanol storm. Danfonwyd ef imi gan fy chwaer o FachynUeth. Wrth ei ddarllen teimlaf fy mod yn cerdded trwy Gymru unwaith eto Deuaf at Gwerddon y Ffridd Dim ond ychydig wern, A ffrwd wasgaredig, fas, Yn llifo rhwng tryblith o lysiau'r dŵr, Gyda'r blodau bach gwyn a glas, Wedi hyn dyna Y Sipsi" Carafan mewn cwrr o fynydd, Newid aelwyd bob yn eilddydd. cyntaf, fel y mae'n hysbys ddigon i'ch mawredd, i ymladd drosom. Eithr hwynt.hwy, yn lle bod yn wasanaeth-ddynion, a fynnant fod yn feistr. iaid yn erbyn pob gwirionedd a chyfiawnder. Ein cais ni gan hynny, gâr annwyl, yw, deilyngu ohonoch ddanfon ymborth i ni wyth mil o wyr dewisol. Ac y mae fy hyder ar Dduw, y bydd yn fy ngallu innau ymhen ychydig wneud ataledig- aeth i chwi. Tebyg i Lytton Strachey. Yr ail beth yw hyn. Soniais ar y dechrau am ddilynwyr Lytton Strachey, a pho fwyaf y byddaf yn darllen Drych y Prif Oesoedd, mwyaf y byddaf yn gweld rbyw debygrwydd rhyngddo â gwaith Strachey. Nid wyf am ddywedyd am funud bod tebygrwydd agos rhyngddynt-yr oedd cymeriadau'r ddau yn rhy wahanol i hynny­-ond y mae peth tebygrwydd hefyd. Yr un cynildeb, yr un gwawdiaith, a'r un syniad am bwysigrwydd perthnasol ffeithiau a welir yn y ddau. Diolch eto am gyfle arall i bawb, am bris rhad iawn, ddarllen un 0 lyfrau mawr yr iaith Gymraeg. (Alafon.) (Crwys.) Dyma hen gymeriad arall yn dyfod, sef Hen lanc Ty'n y Mynydd Cryf oedd swn ei gryman yn yr eithin, Union ar y dalar oedd ei gwys, Cynnar ar y mynydd oedd ei fedel, Yn hwyr ar ben ei raw y rhoddai'i bwys. (W. J. Gruffydd.) Dyma ni ym Mhenfro ym mis Mai Mae blodau ar flenestri, Mae blodau'n dringo'r tai, A gwyr afrifed lwyni Eithinaur ddyfod Mai Mae'r lIanw'n codi a llifo Dros wrymiau tywod mân A'r haul yn araf ddisgyn draw I fôr o waed a thân. (Owili.) Yn awr rhown Dro yn Eryri." Y mae ei hen lwybrau a'i rhaeadrau a'i chorwynt- oedd yn dweud bod yno Ysbrydion y gwroniaid fu Lefarai o'r awelon, Gan alw ar feibion Cymru sydd I fod i Gymru'n ffyddlon Taranu hyn wna'r rhaeadr gwyn, A sisial hyn wna'r afon A dyma sibrwd blodau'r grug Yng nghlustiau'r cerrig mudion. (R. Süyn Boberts.) Y mae darllen y penillion yma'n codi hiraeth arnaf, ond A minnau'n Uechu rhag y storm Yng nghadair orau'r aelwyd lân, Daeth morwyn fach a'i megin fawr I chwythu'r tân, i chwythu'r tân. Am loches ffoais i'r ystorm Gwell drycin flin nag aelwyd Jân, Pan fo y decaf yn y byd Yn chwythu'r tân, yn chwythu'r tân (Wil Ifan.) Mae'r ystorm wedi tawelu. Ond mae'r blodau yng ngardd Rhwng Doe a Heddiw yn taflu eu peraroglau. 'R wyf yn eau'r llyfr fel pe bawn yn cau llidiart fach ar ardd flodau, ac yn mynd i'r gwely'n hapus­ ac yn ddistaw. Nos da.