Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PENTREFI CYMRU, XV BRO BEIRDD A CHANTORION GAN D. D. HERBERT Tonmau, Resolfen. FE saif Resolfen yn Nyffryn Nedd, Mor- gannwg, chwe milltir o Gastell Nedd, a thair ar ddeg o Abertawe. Pentref gweithfaol ydyw, ond saif mewn dyffryn hynod o brydferth. Ceir yma fyn- yddoedd uchel, creigiau serth, llethrau coediog, meysydd rhedynog, a dolydd ffrwythlon. Ystyria nifer mawr o awduron mai yn Nyffrjn Nedd y ceir y golygfeydd naturiolaf ac ardderchoeaf yng Nghymru. Yr hen bentref. Hyd at ganol y ganrif o'r blaen, yr Ynys- fach oedd yr enw ar y pentref, am ei fod yn sefyll ar ddarn o dir o'r enw hwnnw. Nid oedd y pentref yn cynnwys ond tua 40 o dai y pryd hwnnw, heblaw Plas Rheola, Capel Annibynwyr Melin-j-cwrt, Eglwys Dewi Sant, a ffermydd a thafarnau gwasgaredig. Y 40 tv oedd Tafarn yr Ynysfach, ffermdy'r Ton, Capel Seion, Tan-y-rhiw, Davies' Terrace, a Lyon's Row, a dwy res o dai, a chan fod 19 tŷ, yn un rhes, gelwid hi y Rhestr Fawr." Rhys y Soflen." Yn 1851 daeth y fîordd haearn drwy Ddyffryn Nedd, a phryd hynny rhoddwyd yr enw Resolfen ar y pentref, am mai hwnnw oedd enw swyddogol y faenor ers canrifoedd lawer. Rhaeadr hardd Rhyd-yr-Hesg. Mynydd y Soflen yw enw hynafol y tir uchel, o'r pentref i fyny i Gwmgwrâch. Wedi i'r Normaniaid orchfygu Dyffryn Nedd a'r cylch tua 1091-2, rhoddwyd y tir hwn i Rys, mab Iestyn ap Gwrgan. tywysog olaf Mor- gannwg. Gelwid Rhys. er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth bob Rhys arall, yn Rys-y-Soflen- Rees-soften—Resolfen, ac y màe'r pentref byth wedyn yn dwyn yr enw. Y mae'r pentref, fel j'i gwelir heddiw, wedi tyfu o fewn cof y trigolion hynaf. Erbyn hyn у mae ystrydoedd sy'n llawer hwy na'r Rhestr Fawr yn y pentref. Y mae yno dri chapel Cymraeg, tri Saesneg, ysgol fawr, neuaddau, parc a chaeau i chwarae Rygbi, tenis, criced. etc. Poblogaeth y pentref yw pedair mil, ond a chyfri'r maesdrefi, Melin-j-cwrt ac Aber- garwed, y mae iddo dros bum mil. Y Rhaeadr hardd. Rhyw filltir o'r orsaf saif rhaeadr odidog Rhyd-yr-hesg, neu Ysgŵd Melin-y-cwrt." Y rhaeadr hon yw'r uchaf ym Morgannwg (70-80 troedfedd). Daw pobl o bobman i'w gweld, ac y mae wedi'i chlodfori gan deithwyr Seisnig fel Warner, Sotheby. Malkin a Donovan. Cyfaddefir ei bod yn ail yn unig i raeadr y Mynach. Aberystwyth. Ebe Malkin Ar wahán i Raeadr y Mynach, dyma'r rhaeadr fwyaf yn Neheudir Cymru ac nid oes mo'i hafal fel golygfa gaèedig." Teflir y dŵr allan yn ddigon pell o'r graig i tuag ugain o bobl fedru aros y tu cefn i'r ysgŵd, mewn hindda ac 'rydym wedi cysgodi yno o'r glaw lawer gwaith. Y mae llawer bardd wedi canu iddi o bryd i'w gilydd. Wele englyn Hedydd Milwyn Dros arw grib y dibyn-agennog, Dan ganu mae'n disgyn, Efo'i gwallt yn fwa gwyn, A'i hochrau yn ereu dychryn. Yr olygfa at y Plas. Nepell o'r ysgŵd y mae cylch cerrig Henllan," sydd yno er amser y derwyddon. Un o'r plasdai tlysaf yn y sir yw Plas Rheola, lle y trig Lieut. John Nash Edwards-Vaughan, tir-feddiannwr ac arglwydd presennol y faenor. Gwledd i'r llygad yw'r olygfa o'r briffordd. O flaen y plas, gwelir meysydd gwyrddlas a Dan y Llethrau Coediog: Resolfen. choed wedi'u plannu'n chwaethus yma a thraw. a'r tu ôl fe welir mynydd-dir ardderchog. Y mae Sarn Helen yn y mynydd hwn, yr heol Rufeinig o Gastell Nedd i Aberhonddu. Plas Rheola. Adeiliwyd plas Rheola tuag 1816, gan gyndaid y perchennog presennol. Saer-rhodau ydoedd, ac ef a ddyfeisodd y drol ddŵr gyntaf a ddefnjddiwyd ar heolydd Llundain. Cvn adeilio'r plas, hen ffermdy oedd Rheola, ac un o'r enw Hywel Bifan oedd yn byw yno. Yr oedd ganddo les ar y lle oddi wrth Syr Humphrey Mackworth, gŵr bonheddig o Gastellnedd. Un diwrnod. daeth y goruchwyliwr tir, Wiliam Triw, i ofyn i Hywel faint o arian yr oedd wedi talu yn gjfangwbl am Reola. Atebodd Hywel Tri chant ar ddeg o bunna A delais i Syr Wmffra, A thrigain punt i Wiliam Triw Am le i fyw'n Rheola. Yr hen deuluoedd llen-gar. Y mae Ynjsarwed. Ynys-y-biben, ac\Ynys Dyfnant yn aneddau sy'n dyddio 0 leiaf o'r lôfed ganrif. Ynddynt hwy, bu perthnasau Rhys ap Siencyn. arglwydd Aberpergwm, a disgynnydd Einon ap Collwjn a Iestyn ap Gwrgan yn trigo. Gwnaeth teuluoedd yr aneddau hyn lawer i gario ymlaen draddodiadau llên y dyffryn, a chanodd Dafydd Benwyn, Siôn Mawddwy, a beirdd eraill. gywyddau moliant a marwn- adau nodedig iddynt. Hen dai â hanes iddynt yw Clun-y-castell, maenordy Arglwyddi'r Soflen yn y 15fed i'r 18fed ganrif a ffermdy'r Crugau, lle 'roedd bord lawn bob amser, fel y dengys yr hen driban Tŷ glân, ty gwyn, tŷ gola, Tŷ'n llawn o bob rhinwedda Y lle gora ar waelod Nedd Am gwrw a medd yw'r Cruga. Y 'Deryn Pur. Y mae Pencraig Nedd hefyd yn haeddu'n sylw oblegid yno 'roedd cartref Rhys Morgan, bardd awenyddol yn y 18fed ganrif. Yr oedd Rhys yn gyfoed i Wil Hopcyn (Llangynwyd), [I dudalen 70.