Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oes yr Ymbalfalu Petrus Myfyrdodau uwch- ben llyfr ar hen Len Cymru GAN TIMOTHY LEWIS, Coleg Aberystwyth. RHYW fis yn ôl daeth un 0 lenorion a beirniaid llenyddol amlycaf Cymru heibio i Aberystwyth a thystio mewn darlith nad oes na llên. na beirniad- aeth ar lên, yng Nghymru heddiw ym marn rhywrai, a chafwyd awgrym cynnil o'r modd y bydd rhai beirniaid yn ffurfio barn. Yr oedd hynny'n dwyn ar gof imi ddameg o eiddo William Evans (Wil Saer), un o'r athrawon gorau a gefais erioed. Y tri theiliwr. Yn ôl y ddameg, aethai tri theiliwr o Aberdâr i lawr i Gaerdydd, wedi clywed bod galw am ben teiliwr yn un o'r tai dillad mawr yno. Aeth y cyntaf ò'r tri ger bron y perchen, a gofynnodd hwnnw iddo-pa sawl gwaith y rhaid i ddyn ddod i'r siop i weld a fydd y dillad at ei faint cyn y byddant yn barod ? Syr," meddai'r teiliwr yn foesgar, cym- eraf fy llw y bydd y dillad yn ei weddu i drwch y blewyn, dim ond imi gael ei fesur unwaith." Daeth yr ail gerbron a holwyd yntau yr un modd. Ebe hwn Nid oes raid imi fesur y dyn-bydd ei weld yn mynd heibio congl yr heol yn hen ddigon imi, a bydd ei ddillad fel maneg iddo." Holwyd y trydydd, ac meddai yntau'n hollol hyderus Dim ond imi gael gweld y gongllle trows y dyn, bydd y dillad f el pe wedi eu toddi amdano Cyfnod anodd. Yn ôl y darlithydd, perthyn i'r trydydd y mae mwyafrif beirniaid llên Cymru. Nid hynny yw fy mhrofiad i, ond yr oedd gan y darlithydd ddengwaith mwy o brofiad na mi yn hyn, ac yn ymboeni yn fawr o'r herwydd. Gwir ai peidio, cyfnod anodd ar feirniad- aeth fu'r chwarter canrif diwethaf-daeth llawer o wybodaeth, eithr cloff iawn ydoedd barn. Yn ei lyfr newydd y mae Mr. Saunders Lewis yn ymdrechu yn ddygn i gael gafael ar farn yn ogystal â gwybodaeth, eithr wrth ddarllen y llyfr, rhaid cadw mewn cof ei brofiad yn y Rhagair mai Ymbalfalu'n betrus y bydd pawb yn y cyfnod hwn. Cyffes onest. Cyn imi ddarllen y gyffes onest hon, yr oeddwn newydd fod yn darllen cyffes debyg BRASLUN 0 HANES LLENYDDIAETH GYM- raeg. Cyfrol I. Hyd 1535, o.c. Saunders Lewis. Gwasg Prifysgol Cymru. 2/6. iawn o eiddo Weisgerber ar heniaith Celt y Cyfandir, a theimlais fod gwawr cyfnod newydd ar dorri ar feirniadaeth ym myd y Celt. Yr oedd cymaint o bethau pendant a therfynol wedi eu dweud am lên Cymru a'i hiaith nes teimlo ganwaith mai dau ddosbarth oedd yng Nghymru-y delff a'r Delphig. Yr oedd barn rhai mor bendant nes tybio mai newydd gyrraedd o Delphi yr oeddynt, a'r lleill mor ddelff nes methu eu deall eithr gwelir bellach bod gwyr Delphi mor ddelff â'r Ueill. Camfarn. Er hynny, nid ydyw Mr. Lewis yn credu ei Rhagair yn llwyr. Wrth drin Aneirin a'i oes, dywed mai un gŵr yn unig fu erioed â barn gwerth gwrando arni am Aneirin, a'i fod yn disgwyl llyfr y gŵr hwnnw o'r wasg. Gwyr fod y gŵr hwnnw yn anghytuno'n bendant â barn Mr. Lewis am Aneirin, ac eto dyry bennod o'i ymbalfalu'n betrus inni, ac y mae hynny yn gam, oblegid i ba beth y rhoir camfarn fel barn i werin Cymru a thaeru mai camfarn ydyw honno, a ninnau o fewn ychydig i gael barn iawn ? Hen filwr di-enw. Credaf innau fod gan un gŵr arall farn gwerth gwrando arni-barn un o hen filwyr di-enw Gwilym Orchfygwr. Pan gyhoeddir barn y gŵr hwnnw, nid ymbalfalu'n betrus a wneir am ystyr a hanes Cat- raeth a Gododin," eithr darllen Aneirin megis yr adroddid ef gan yr hen filwr hwnnw o gylch y tân rhwng yr ymladd. Y gwahaniaeth rhwng y ddau ddarllen ydyw'r gwahaniaeth rhwng inc coch a gwin coch. Beirniadaeth ar eiriau fu llawer o feirn- iadaeth gloff ddiweddar, a hyd yn oed pan ddeellir y geiriau'n olau, ychydig o fud sydd ynddi. Llong mewn potel. Y mae dau dy morwr yn Aberystwyth, a llong mewn potel yn ffenestr y ddau. Gwel- ais lawer, ar dro, yn sefyll yn syfrdan o flaen y ffenestr a rhyfeddu at y llong. Dylai beirniadaeth ddenu'r ieuanc ar fordeithiau pell i weld glannau'r gwledydd Ue y cafodd y llenor ei drysorau, eithr llong mewn potel ydyw beirniadaeth ar eiriau-liong heb for- daith yn ei hanes-neu fel yr awgrymir uchod­inc coch ac nid gwin coch ydyw. Dechrau beirniadaeth. Dyry Mr. Lewis gip inni ar wychder a gwerth anhraethol hen gyfreithiau Cymru, a chrychneidia calon dyn wrth ddarllen felly amdanynt. Eithr a wyr neb faint o eiddo'r Cymro sydd ynddynt ? Barn Syr Brynmor Jones o'r Welch people geir amlaf heddiw yn sail, eithry mae gennyf lythyr caredig iawn oddi wrth y gwir athrylithgar hwnnw yn tystio na wyddai efe ddim Cymraeg na hanner dim o Wyddeleg i drin y cyfreithiau, a'i fod yn gwybod nad oedd dibynnu ar gyfieithiadau ohonynt o un Ues Mr. Timothy Lewis. Ymbalfalu'n bet- rus ydyw hyn, eithr hynny ydyw dechrau beirniadaeth. Daw llên Arthur ar Ford Gron dan sylw yma, a dyfynnir barn Faral ar waith Sieffre fel y farn ddiwedd- araf, eithr dyfalu ar linellau Rhys a Gaston Paris y mae Faral heb wybod fawr o ddim am feddwl Cymru yn oes bieffre na thybio, ysywaeth, fod galw am hynny. Yr Athro Stanley Roberts. Y mae fy nghyfaill, yr Athro Stanley Roberts, wedi bod wrthi ers tro yn darllen Brut Sieffre yng ngolau hanes Cymru'r cyfnod yn hytrach na darllen hanes Cymru yng ngolau'r Brut, ac y mae'r ddau mor wahanol a dydd a nos. Bellach ceir diben a dosben ar y tryblith i gyd, a daw Brut Sieffre yn un o dystion hanes pennaf ar a feddom, a Sieffre yn llawer praffach gŵr nag a dybiwyd erioed, a gwelir gwir tanbaid yn fflachio o benodau gyfrifid yn gelwydd cyfrwys o'r blaen. Barn ar farn eraill. Barn gŴT llygadog ar farn gwyr eraill geir yn llyfr Mr. Saunders Lewis gan mwyaf, eithr pan geir yr ail gyfrol yr ydym yn disgwyl y ceir barn â min arni ar y llên ei hun. Dim ond darllen y gyfrol hon fel profiad gŵr yn gwybod mai ymhalfalu'n betrus wna'r beirniaid, y mae'n sicr o wneud lles mawr i'r profiadol yn ogystal â'r dibrofiad. Trinir Taliesin, Beirdd y Tywysogion, Rhyddiaith, Beirdd yr Uchelwyr, Dafydd ap Gwilym, Ysgol Rhydychen a'r Ganrif Fawr (1435-1535) yn y llyfr, a llawer o bethau diddorol a bachog ynddynt oll-digon i bawb anghytuno faint a fynner, a digon o dâl i bawb hefyd am eu darllen. CREFYDD EIN TADAU CREFYDD GRON. CREFYDD GYFAN. DARLLENWCH "Y Ffydd yng Nghymru" Cylchgrawn Chwarterol, yn y ddwy iaith. rg. 4c. Tal am flwyddyn, yn rhydd trwy'r ost, 1/8. Anfoner at y Parch J. H WLLIAMS, 8, Rhosygaer Avenue. Caergybi, Sir Fon.