Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
BLWYDDYN
NEWYDD DDA
CYMREICTOD GWR O
LYDAW
LWYDDYN NEWYDD
DDA i holl ddarllenwyr
Y Ford Gron." Beth
bynnag am annifyrrwch
y byd yn ystod 1932. fe
gawsom fisoedd digon
difyr gyda'n gilydd ar
dudalennau'r Ford Gron — y tudal-
ennau difyrraf yng Nghymru." meddai
cyfaill wrthyf mewn llythyr tua'r Nadolig.
Fe wyddoch fy mod. yn y nodiadau
hyn. yn ceisio'n arbennig i ddywedyd
hanes y Cymry mwyaf diddorol v deuaf
ar eu traws neu y clywaf eu hanes ar hyd
a lled y wlad a'r byd. Yr wj-f am geisio
dilyn ar yr un llwybr eleni. Os gall rhai
ohonoch chwi fy helpu. gorau oll.
Anfonwch ataf os deuwch ar draws pethau
diddorol i Gymru neu am Gymry.
Arwyddair 1933.
YSGRIFENNA cyfaill ataf i ddywedyd
mai'r arwyddair gorau y gwyr ef
amdano ar gyfer 1933 ydyw
Wyneb llawen, llawn ei dŷ
Wyneb trist, drwg a ery.
Bardd ac Arlunydd.
BUM yn sôn yn ddiweddar am Mr. T.
Salisbury Jones, Crewe gynt. Yn
awr dyma lyfr Mr. W. A. Bebb. Ein Hen,
Hen Hanes," allan o'r Wasg, a dyma a ddy-
wedodd Y Genedl (Caernarfon) wrth
sylwi arno
Y mae'r darlun lliwiedig sydd yn y
dechrau, a'r darluniau uwchben y pen-
odau, ynghyda'r cynllun sydd ar y clawr,
yn waith Mr. Salisbury Jones, y bardd,
y llenor, y dramotwr, a'r arlunydd
medrus, sydd wedi hoffi byw llawer
gormod yn yr encilion. Bu Mr. Jones,
cyn ei symudiad yn ddiweddar i fod yn
bostfeistr Corwen, yn byw yng Nghrewe,
ac yr oedd ei ddylanwad i'w deimlo ym
mhob cylch o fywyd yno. Gresyn mawr
ydyw na chyhoeddid llawer mwy o
weithiau Mr. Jones. Y mae bwlch ar-ei
ôl ym mywyd Cymreig Crewe."
Chwedlau Postman.
CYMRO a phostman wrth ei alwedig-
aeth ydyw Mr. Simon Evans, sydd
newydd gyhoeddi ei ail lyfr, At Abdon
Burf (More tales from Shropshire)."
Mae rhamant yn perthyn i'w lyfr cyntaf,
"Round About the Crooked Steeple."
Oherwydd ei afiechyd ar ôl ei glwyfo yn y
rhyfel, gofynnodd am gael ei symud i'r wiad
o Birkenhead, ac fe'i cafodd ei hun yn Sir
Amwjchig.
Un noswaith. siaradai ar y radio ar The
round of a country postman." Yn gwrando
arno yr oedd cyhoeddwr yn Llundain, a
diddorwyd ef cyniaint gan yr anerchiad nes
iddo benderfynu dod i gyffyrddiad â'r dyn fu
yn ei thraddodi.
Madame Laura Evans-Williams.
Cafodd fod gan Mr. Simon Evans ysgrifau
eraill, a'r canlyniad fu iddynt gael eu
cyhoeddi.
Madame Evans-Williams.
YR oeddwn wedi colli cyffyrddiad â
Madame Laura Evans-Williams. y
gantores. a phleser mawr i mi oedd darllen
y diwrnod o'r blaen am ei bri mawr mewn
dinas yn Lloegr, am ei chanu godidog, ac am
y torfeydd y mae hi'n gallu eu tynnu.
Yn Henllan, Sir Ddinbych, y ganed hi. Ei
hen gartref, Bryn Meirion, oedd yr hen gapel
Methodistaidd gynt, ac yno y bu llawer o'r
hoelion wyth yn symud y bobloedd.
Yr oedd ei mam hi'n gantores hyfryd.
Dysgwyd hi i ganu'r piano gan ffrind i'w
mam, sef merch Dr. Roberts, Henllan, cyf-
ansoddwr sydd â'i waith yn para.
Un o blant yr Eisteddfod ydyw Madame
Laura Evans-Williams. Trwy gystadlu
mewn eisteddfodau y daeth ei dawn i'r
golwg. Cyn hir yr oedd yn Llundain, yn
canu gyda chantorion adnabyddus fel David
Hughes, Emlyn Davies, Ivor Foster ac Angus
Nicholls.
Yn Nhy Mr. Lloyd George.
BU'N canu droeon yn at homes
Mr. Lloyd George pan oedd yn Brif
Weinidog, ac fe'i cyflwynwyd hi i Dywysog
Cymru yng nghartref Syr Philip Sassoon yn
Park-lane.
Cynrychiolai Gymru yn y Pasiant
Rhyddid," a phan drefnodd Dame Clara
Butt gyfres o gyngherddau yn ystod y
rhyfel, Madame Laura Evans-Williams a
ddewiswyd i ganu dros Gymru. Fe gasglodd
hi dros £ 4,000 at Gronfa Arwyr Cymru yn
ystod y rhyfel.
Y mae wedi canu'n fynych iawn yn yr
Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi canu Cân y
Cadeirio droeon.
Yn Llundain y mae'n byw ar hyn o bryd­
20, Woodland-gardens, Muswell Hill-ac y
mae'n rhoddi llawer o'i hamser i ddysgu canu
i Gymry ieuainc Llundain.
Ar hyd y wlad.
PRIN y mae un dref o bwys ym Mhryd-
ain na bu Madame Laura Evans-
Williams yn canu ynddi.
Bu'n canu yn y St. Matthew Passion
yng Nghaerdydd, Judas Maccabams yn
Nhredegar ac yn Llundain Stabat Mater
yn LlaneUi, Manceinion a Pontefract
Judith (Parry) yn Abertawe Hia-
watha yn Lerpwl, Llundain, a Hull y
Messiah yn Llundain, Leeds, Hudders-
field, Hanley, Plymouth, Dundee, Belfast a
Phontypridd yr Elijah yn Llundain ac
Ipswich a Scarborough a mannau eraill y
Martyr of Antioch yn Llundain a Hull
St. Paul yn Bradford a Londonderry
Faust yn Lincoln '` Caractacus ym
Merthyr a Sheffield, a Manceinion y Sun
Worshippers yn Perth. Ac nid yw hyn
ond ychydig.
Bu hefyd yn canu yma ac acw yn Nhal-
eithiau Unedig America.
Y Bardd "Täldir".
FE wyr llawer o eisteddfodwyr Cymru
am y bardd Taldir o Lydaw (y wlad
Gymreig yng ngogledd Ffrainc). Bu ef
mewn amryw eisteddfodau Cymreig, ac y
mae'n ddirprwy-Archdderwydd Llydaw.
Yr oeddwn yn falch o gael gair oddi wrtho
y diwrnod o'r blaen o Cairhaix, ym mhen
draw Llydaw.
Fel Monsieur Francois Jaffrenou yr
adwaenir ef bob dydd-dyma'i enw bedydd.
Taldir yw'r enw a roddwyd iddo gan Orsedd
Beirdd Cymru, ac yn yr Eisteddfod Genedl-
aethol a fu yng Nghaerdydd y cafodd y
teitl.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.