Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

QOT YSTAFELL, o edafedd 8hetland, pinc golati. gwneler rheol bendant nad ydyw i gael ei ddefnyddio at yr un pwrpas ond at waith y gegin. Wrth wneud bwyd. Camgymeriad fyddai gofalu'n unig am ymborth sy'n cynhyrchu gwres, ac anghofio'r angen am galch i'r esgyrn a halen i'r holl gyfansoddiad. Ar wahân i'r cam a wnai hynny â'r corff, fe effeithiai dewis felly ar yr archwaeth hefyd. Rhaid osgoi pob unffurfiaeth ac unrhywiaeth. Yn ei amrywiaeth y mae cyfrinach ymborth iachus. Yn fynych iawn, fe ddifethir effaith cinio rhagorol o ran cig a llysiau, trwy ddefnyddio saws amhriodol. Rhaid i bethau gyd- weddu. Ac yn fwy mynych fyth, y mae dewis y pwdin neu'r melysion yn andwyo'r cinio. Y mae cogines dda yn cyfuno'r trwm a'r ysgafn yn ei phrydiau, fel nad elont yn faich, ac yn anodd eu treulio. Y mae hi'n gofalu hefyd bod un blas yn arwain yn naturiol i'r llall ac yn cyd-weddu. Y mae'n cadw llygad hyd yn oed ar liwiau'r cigoedd a'r llysiau a'r ffrwythau, rhag iddynt fynd yn undonog. pFROGIAÜ gyda brodwaith mewn lliwiau siriol. SALAD GAEAF. Pilio, a thorri, afal mawr yn sgwariau bach; un ellygen ac un banana calon celeri, ac ychydig gnau ffrengig wedi eu pilio. Tywallt saws mayonnaise arnynt. Fe wna bryd ardderchog gyda bara brown ac ymenyn. SALAD ORAEN. Y mae oraen wedi ei sgleisio ar ôl tynnu'r croen a'r hadau, a'i gymysgu gyda dyferyn o olew a sudd lemon, a thaenu ychydig o bupur a halen arno, yn flasus iawn gyda phorc neu gig Uo, neu rhyw fath o game." Gwellhewch y Peswch yna. Y feddyginiaeth orau a welais i erioed at wella annwyd y plant yw sudd wnionyn heb ei gwcio. Sgleisiwch yr wnionod i ddysgl, taenu ychydig siwgr amynt, a'u gadael am 12 awr. Fe welwch sudd wedi cronni yn y gwaelod. Teflwch yr wnionod ymaith, ac vna defnyddio'r sudd. BERET LLWYD, a phlu du a choch yn ei drimio. Meddu gwallt hardd ydyw un o gaffaeliadau mwyaf ein hoes, ac y mae modd peri i unrhyw wallt edrych yn hardd. Ychydig ddiferynnau o Rowland's Macassar Oil- ai rwbio'n dda i groen y pen bob dydd-fe sicrha hyn fod y maeth angenrheidiol yno, y maeth sy mor fynych yng ngholl oherwydd golchi neu oherwydd cyflwr drwg. Ar gael gan bob cemist neu siop neu dorwyr gwallt, pris 3s. 6d., 7s., a 10s. 6d. Coch at wallt tywyll, aur at wallt golsu neu wallt gwyn. A. ROWLAND & SONS, LTD. 22, Laystall St., Rosebery Avenue, London, E.C.l. J. H. & co.