Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFASI YNA U byd Athroniaeth YCHYDIG, mae'n debyg, yw nifer y rhai sydd yn darllen ac yn myfyrio o gwbl nad ydynt ryw dro wedi teimlo rhywbeth o swyn athroniaeth. Ganwyd pawb ohónom â rhyw gymaint o ysfa gwybod yn ein henaid, ond ychydig mewn cymhariaeth yw nifer y rhai sydd wedi gadael i'r nwyd honno dyfu i'w llawn faint fel y gwna'r athronydd. Perygl y dyn cyffredin wrth feddwl am athroniaeth yw edrych arni fel rhyw gyf- undrefn gaeth ddiymod o feddwl. Ond o ddarllen llyfr diddorol yr Athro Aaron ar Hanes Athroniaeth Ddiweddar," deuwn i weld mor aml y newidia'r ffasiwn ym myd athroniaeth, fel ym mhob byd arall. Ac ond odid y ceir ambell i athronydd sydd fel yr hen ferch honno wedi gwisgo ei bonet mor hir nes ei bod wedi dyfod i'r ffasiwn eilwaith Atgyfodi Beth bynnag am hynny, y mae mynd rhyfeddol ar wisgo hen foneti athron- yddol yn ein cyfnod ni. Dyma feddyliwr," meddai'r athro wrth sôn am Leibnitz (1646-1716), "sydd mewn mwy o fri heddiw nag y bu erioed oherwydd heddiw yn unig y deellir rhai o'i awgrym- iadau mwyaf gwerthfawr." Wrth gwrs, rhaid bod rhyw reswm dros atgyfodi hen gyfundrefnau athronyddol fel hyn, ac fe geir y rheswm wedi ei osod yn glir yn adran gyntaf y llyfr hwn. Gwelir yr un peth yn llyfr Whitehead ar Science and the Modern World," lle y caiff athronwyr yr 17eg ganrif sylw arbennig. Un nodwedd amlwg yn perthyn i athron- iaeth ddiweddar yw'r berthynas agos sydd rhyngddi â thyfiant gwyddor. Troi i Fyd Gwyddor. Felly hefyd yr oedd yn nechrau cyfnod diweddar athroniaeth. Fel yr awgryma'r athro, rhaid oedd i wyddor ddatblygu cyn y gellid dechrau athronyddu, a phan aeth athronwyr i geisio rhoddi esboniad Uawnach o broblemau nag y medrai gwyddor byth ei roi, naturiol oedd iddynt droi i fyd gwyddor am symbyliad a phatrwm o'r modd gorau i ymresymu. Y canlyniad yw ddarfod i'r Rhesymolwyr, fel y gelwir hwy, geisio sylfaenu athroniaeth ar egwyddorion Gwyddor Mathemateg ac yr oedd dau o'r tri athronwr y ceir cyfeiriad atynt yma yn fathemategwyr o'r radd flaenaf, ac fe wyr y cyfarwydd mor bwysig fu cyfraniad Descartes a Leibnitz i ddat- blygiad y wyddor honno. Ac er nad oedd Spinoza, y trydydd o'r Rhesymolwyr, yn fathemategwr mor amlwg, rhoes yntau hefyd ffurf feintonol hyd yn oed i'w ymdriniaeth o Foeseg (Ethica odiere GAN ROBERT RICHARDS, Coleg Harlech; A.S., ac Is-ysgri- fennydd Swyddfa India gynt geometrico demonstrata), ffurf, fel y dengys Aaron, sydd yn anffodus yn gwneuthur deall y llyfr hwnnw yn fater cryn anhawster. Un peth sicr. Gwelir ôl a dylanwad mathemateg yn glir iawn ar feddwl Descartes, yn enwedig yn ei ymgais i ddod o hyd i wybodaeth sicr a phendant. Teimlai ar y cyntaf nad oedd modd bod yn sicr o ddim ym myd athroniaeth ond wedi cyfnod hir o amheuaeth, daeth i'r pen- derfyniad y gaUai fod yn sicr o'i fod ei hun. Ond a oes gennym sicrwydd am fod rhywbeth y tu allan i ni ein hunain ? Os oes, y mae'n amlwg fod y wybodaeth honno dipyn yn wahanol i'r wybodaeth sydd gennym o'n bod ein hunain. Arweiniodd athroniaeth Descartes i dorri'r byd yn ddwy adran gyda gagendor mawr rhyngddynt-byd mater a byd y meddwl. Ond os oes y fath wahaniaeth rhwng hanfod meddwl a hanfod mater, fel y tybiai ef, sut yr oedd modd i'r naill ddod i wybod dim am y llall Meddwl a Mater yn Un. Pontiodd Spinoza, ei olynydd, y gagendor mewn modd rhwydd trwy awgrymu nad oes wahaniaeth rhyngddynt, ac yn ei gyfundrefn athronyddol ef fe lyncir y ddau i fyny mewn un sylwedd mawr (substantwe), ac nid yw meddwl a mater ond gwahanol foddau ar hwn (td. 28-30). Y broblem yn awr yw Os agweddau ar yr un peth ydynt, sut y gwelwn ni y fath wahaniaeth rhyngddynt a'r fath arbenigrwydd yn perthyn i'r naill a'r llall ohonynt ? Cychwyn athroniaeth Leibnitz yn ei bwys- lais ar yr arbenigrwydd hwn. Yn y Monad fel y'i dadlennir ganddo ef, ceir arbenigrwydd perffaith. Nid oes dau ohonynt yr un fath (td. 47), ac eto ym- ddengys bod ym mhob un ohonynt rhyw gyfran o fater a meddwl, i ddefnyddio termau cyffredin. Fe berthyn i bob monad nid yn unig ynni i weithredu, ond hefyd allu i wybod." Ond os yw yn gwbl annibynnol ac heb fod ganddo, yng ngeiriau Leibnitz ei hun, ffenestri y daw drwyddynt unrhyw beth i mewn ac yr â unrhyw beth allan," sut y gall y monad wybod dim am yr hyn sydd y tu allan iddo ? Ysgol Newydd o Feddylwyr. Dyma'r benbleth yr oedd athroniaeth ynddi pan gododd ysgol newydd o feddylwyr gyda John Locke,-yr Empeirwyr fel y gelwir hwy. Mr. ROBERT RICHARDS Yn Ue ceisio datrys problemau anodd Bod fel y gwnaeth y Rhesymolwyr, trodd y rhain i geisio amgyffred peth ellid ddisgwyl i'r meddwl dynol fedru ei wybod, a rhoddwyd sylw arbennig i weithrediadau'r meddwl hwnnw. Problem gwybod, felly, yw prif broblem yr ysgol hon. Gyda syniadau yn unig y mae a fynno'r meddwl, meddai Locke ond nid yw yn glir iawn beth yw y berthynas sydd rhwng y syniadau hyn a phethau y tu allan i ni. Daeth Berkeley dros yr anhawster trwy awgrymu mai nid darluniau yn unig o bethau corfforol yw gwrthrychau sydd ger ein bron i'r gwrthwyneb, y gwrthrychau hyn yw y pethau (td. 80). Dyma yn sicr un o feddylwyr mwyaf chwyldroadol y cyfnod hwn, a cha sylw neilltuol gan y Dr. Aaron. Amau Rheswm. Yn Hume esgorodd yr ymdrafodaethau hyn ar fesur o amheuaeth ynghylch gallu Rheswm i ddatrys problemau bod o bwbl. Cyrraedd athroniaeth ddiweddar ei huchaf- bwynt yng ngweithiau Kant, yr athronydd Germanaidd a gaiff sylw arbennig gan Dr. Aaron. Bu'r amheuaeth awgrymwyd i'w feddwl gan Hume yn fater o gryn bryder iddo am amser hir. Problem yw Gwybod. Problem gwybod yw problem Kant hefyd, a theimlai ef fod y Rhesymolwyr yn y pwys- lais roddid ganddynt ar wybodaeth sicr dadansoddiad, a'r Empeirwyr yn y pwyslais roddid ganddynt hwythau ar wybodaeth brofiadol, wedi rhoi darnodiad clir o brif slfennau'r broblem. Dengys Kant nad oes y fath beth yn bod i, phrofiad synhwyrol syml, ond fod y deall wrthi o'r dechrau yn trefnu y gwrthrychau äynhwyrol. Cred Kant fod yn y meddwl Bgwyddorion deall-y Categorïau-fel y gelwir hwy ganddo, yr adeiledir arnynt ein system o wybodaeth. (i dudalen 72)