Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRAMA FER GYFAN Cymeriadau MR. JOHN Thomas Gŵr gweddw, perchennog y siop newydd. Olwen Ei ferch, athro ysgol elfennol. Dic Ei fab disgybl ysgol sir. Mbs. PARRY Gwraig weddw. HARRY LEE Sais ifanc cyfoethog. MR. Jones Prifathro ysgol elfennol. Mbs. Jones Ei wraig. Mb. HUMPHREYS Gorsaf-feistr. Y PARCH. HENRY REES Gweinidog. CAPTEN Evans Hen lanc wedi ymneilltuo o'r môr. LLE Llanarth (on-Sea). Pentref ar lan y môr. ACT I—Golygfa I. [Parlwr y Siop Newydd, hanner awr wedi wyth y prynhawn. Y mae drws gwydr yn agor i'r siop. Ar un ochr y mae drws yn agor ifynedfa'r ffrynt. Ar yr ochr arall y mae lle tân, a chadair freichiau o bob tu iddo. Y mae hefyd yn yr ystafell fwrdd, a thresal hardd, a chwpwrdd llyfrau. Y mae'r cyfan yn awgrymu fod perchennog y Siop Newydd yn ŵr cefnog. Eistedd MR. THOMAS—dyn golygus tua 55 oed— wrth y tân yn smocio pibell a darllen papur newydd. Y mae DIC yn eistedd wrth y bwrdd yn gwneud ei wersi. Tua 17 oed ydyw ond edrych yn hyn.] Mb. THOMAS (gan wagu ei bibell a rhoi'r papur heibio) Pam na ddaw'r eneth yna adre bellach i wneud swper ? 'Does dim rheswm mewn bod yn yr hen Women's Institute yna am oriau fel hyn. Dic, cliria'r llyfrau yna, a rho'r lliain ar y bwrdd, neu 'chawn-ni ddim swper tan hanner nos. Dic Hanner munud, 'nhad! Rhaid imi orffen y gwaith yma, neu fe fydd yr hen Farcus Aurelius yn ei dweud-hi bore fory. MR. Thomas P'run 'dyw-o ? Oes gennych- chwi athro newydd eto ? 'Chlywais-i mo'r enw yna o'r blaen. Dic Na, enw sy gennym-ni ar y Meistr pan fydd o'n dysgu Lladin ydyw hwnna. (Distaw- rwydd am funud.) Dyna hwnna wedi'i wneud, diolch am hynny. (Yn dechrau hel ei lyfrau at ei gilydd dan chwibanu. Cnoc ar y drws ffrynt.) MR. Thomas Ust oedd rhywun yn cnocio ? Dos i edrych. (Y mae DIC yn mynd a chlywir gwraig yn siarad yn uchel. Daw Dic yn 61 a Mbs. PARRY, gwraig weddw tua 50 oed, yn ei ganlyn. Y mae hi'n gwisgo'n ifanc a ffasiynol; y mae gwên barhaus ar ei hwyneb y mae'n amlwg ei bod yn awyddus i blesio.) Mb. Thomas Chwi sy 'na, Mrs. Parry ? 'Welsoch-chwi mo Olwen ni yn unlle ? Ar gychwyn ynteu wedi bod ydych-chwi ? Mbs. PARRY (yn eistedd) Ar fy ffordd adre o'r Women's Institute 'rydwy i, Mr. Thomas bach, ac eisiau tun bach o samon, please! 'Roeddwn-i'n meddwl y buasem-ni allan cyn i'r siopau gau, ond fe fu yno dipyn o helynt heno, er, cofiwch, y mae gen i sympathy mawr hefo Olwen—ond, wedyn, be wnawn ni heb y Saeson, wedi'r cwbl, yntê, Mr. Thomas bach ? Mr. Thomas Helynt ddwetsoch chwi ? Pa helynt sy rhwng Olwen ni a neb, yn enw'r dyn ? Y Llanw MRS. PARRY Da chwi, Mr. Thomas bach, peidiwch â chynhyrfu dim chymswn-i mo'r byd ichwi wneud hynny. Tipyn o ffrae rhwng Olwen a'r ledis MR. THOMAS (yn torri ar ei thraws) Dic, estyn dun o samon un naw ceiniog fel arfer, dicini, Mrs. Parry ? 'Rwan, ymlaen â chwi â'r stori. Beth am Olwen ? (Dic yn nôl tun Samon yn ail eistedd wrth y bwrdd, ond yn cadw'i lygaid ar Mbs. PARRY, tra cymer arno ddarllen.) MRS. PARRY (gyda blas) O, dim ond ei bod wedi ffraeo'n ofnatsan hefo Mrs. Hooper a'r ledis yna i gyd. Mi 'roedd hi'n rhoi ar y Saeson na chlywsoch chwi 'rioed flasiwn beth, Mr. Thomas bach. Mi 'roedd yn ddrwg gennyf-i drostyn'-hw', cofiwch Dic Hip Hip MR. Thomas Ffraeo hefo Mrs. Hooper, y ffolan fach Am beth ? Mbs. PARRY Ynglŷn â chyfarfod nesa'r Women's Institute, Mr. Thomas bach. I chwi ddeall, cyfarfod mis Mawrth fydd hwnnw, ac y mae Olwen yn awyddus ofnatsan am ei gael yn Gymraeg i gyd, er mwyn cofio am Ddewi Sant 'ddyliwn i. Ond (yn codi'n sydyn) dyma Olwen yn dyfod, ac mi wnaifî hi egluro'r cwbl i gyd ichwi. (OLWEN yn dyfod i mewn. Geneth 21 oed ydyw, yn weddol dal, a chanddi wyneb tlws, a gwallt du. Y mae wedi gwisgo'n syml ond yn dda. Ni chymer fawr o sylw o gyfarch Mbs. PARRY.) Wel, dyma chwi wedi cyrraedd, Olwen fach rhaid i minnau fynd peidiwch â styrbio, Mr. Thomas bach, fe ddaw Dic i agor y drws imi, oni ddowch, Dic bach ? Wel, goodnight everybody! (Yn mynd allan, a DIC ar ei hôl.) Olwen Dyfod yma i gario clec o'r cyfarfod wnaeth-hi ? Dic (yn dyfod yn ôl a dynwared llais Mas. PARRY): Da chwi, Olwen fach, peidiwch â dweud clec. Hen air common ydyw-o, 'fyddaf i bob amser yn dweud gossip, mae o'n llawer iawn mwy genteel. Mr. Thomas Gobeithio nad oedd hi ddim yn dweud y gwir heno, beth bynnag. Be fuost-ti'n wneud, dywed ? Olwen Be ddwedodd Mrs. Parry ? MR. Thomas Dweud dy fod wedi tynnu Mrs. Hooper a'r Saeson yna i gyd yn dy ben. Be ddrwg sy' arnat-ti, dywed, na adewi-di i rywun arall wneud pethau fel yna ? Ti wyddost o'r gorau mai'r Saeson ydyw'r cwsmeriaid gorau sy' gennyf-i drwy'r gaeaf, a be ddoi o'r Llan yma yn yr haf heb yr ymwelwyr, os gwn-i ? Olwen Nid dyfod yma i'ch plesio chwi a phobl Llanarth-on-Sea y mae'r ymwelwyr yn yr haf, tada. Maen 'hw'n cael mwy na gwerth eu pres, gellwch fod yn siwr o hynny, neu 'ddoen' hw' ddim yma. Ac am y Saeson sydd yn byw yma, pam na ddysgan'-hw' siarad Cymraeg, os ydyn' hw' mor awyddus i fyw yng Nghymru ? MR. Thomas Paid â siarad lol 'Sut y medr Mrs. Hooper ddysgu siarad Cymraeg yn ei hoed hi ? Gan CLAUDIA JONES Dic Hip! Hip! Dyna one up i chwi, 'nhad! Olwen Pam na adawa-hi i ni sy'n medru, i siarad ein hiaith ein hunain ynteu ? Os bydd un Sais neu Saesnes mewn cyfarfod o Gymry, mae'n rhaid troi'r cyfarfod yn Saesneg ar un- waith er mwyn i'r Saeson gael rhoi eu bys yn y brywes. MR. Thomas Wel—beth am hynny ? Os ydym-ni'n gallu dwy iaith, pa waeth p'run a siaradwn-ni ? Ond wel-di-dos i hel swper. 'Rydwy'i bron llwgu. Dos dithau, Dic, i helpu, a brysiwch, da chwi, mae wedi naw o'r gloch. (Y mae'r ddau'n hulio swper,—tê a bara 'menyn a ham oer wedi ei berwi yna y mae'r tri'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta.) MR. Thomas Mi garwn i wybod pwy sy wedi bod yn rhoi'r syniadau yma am siarad Cymraeg yn dy ben di, Olwen. P'run ai Rees, y Gweinidog, ynteu Jones yr Ysgol ? DIC 'Rhoswch, nhad !—'does dim rhaid i Olwen fenthyca oddi wrth neb, mae ganddi ddigon yn ei phen ei hun. Olwen Mae gennyf-i ddigon o gariad at y Gymraeg yn fy nghalon, beth bynnag am fy mhen. 'Dydwy'i ddim am i'r Saeson yma'i gyrru o'r wlad. MR THOMAS (yn sychlyd) Mae hwnna'n swnio'n debyg i Rees, y gweinidog. OLWEN (yn boeth) Pam na ddwedwch-chwi Mr. Rees, tada ? Fe fyddwch bob amser yn dweud Canon Flegg. Dic (yn gyfrwys) Mae Canon Flegg yn un o'r boneddigion, Olwen, Cymro ydyw Mr. Rees. Olwen Ac fe fyddwch yn tynnu'ch het i Mrs. Flegg, ond byth i Mrs. Rees,—dim ond codi'ch llaw. Ac mae Mrs. Rees yn B.A. (Cnoc ar y drws ffrỳnt.) Dyn annwyl, pwy all fod yna 'rwan ? 'Ei di at y drws, Dic ? DIC (yn troi'n ôl, wrth fynd trwy'r drws) Wyddost ti pwy sy- na, Olwen ? Mrs. Hooper yn gyrru i ddweud ei bod am ddechrau dysgu Cymraeg bore fory Ha-ha Go brin, 'rwy'n meddwl (Yn agor y drws. Clywir sgwrs am funud, yna'r drws yn cau; daw Dic yn ôl, a llythyr mawr, pwysig yr olwg, yn ei law.) Be ddwedais-i ? Dyma fo—llythyr i chwi oddi wrth Mrs. Hooper, 'nhad. Gwas y Towers oedd yna. MR. Thomas Llythyr i mi, 'ramser yma o'r nos! Beth all fod y mater, yn enw'r dyn ? (Yn agor y Uythyr, a'i ddarllen a'i olwg yn duo.) Dyna! (gan ei daflu i OLWEN). Fe fyddi'n fodlon bellach, feallai. OLWEN (yn darllen yn araf) Mrs. Hooper reauests that Mr. Thomas send in his account up to date, as she does not intend to continue her patronage of his shop any longer." Dic D u wch Mb. THOMAS (wedi gwylltio) A gredi-di 'rŵan 'faint o ddrwg wyt-ti wedi 'wneud hefo dy hen Gymraeg ? Dyna golled i mi o gan- noedd o bunnau yn y flwyddyn, a mwy, oblegid fe fydd y lleill yn gwneud 'run peth cyn pen diwrnod neu ddau-Mrs. Wilkins a Cymal Scott a'r Saeson yna i gyd. Mi fyddaf yn y wyrcws cyn wired â dim, a hynny o'th achos di. OLWEN (yn parhau i edrych yn syn ar y llythyr) O, tada