Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gan EVAN ROBERTS, Birkenhead CEIRIOG, y Dyn fel yr oedd Yr oedd ei wisg yn dra thrwsiadus ai gerddediad fel pe bai wedi cael triniaeth rai/itr." SUT un ydoedd Ceiriog yn ei fywyd bob dydd, tybed ? Oblegid ni ellir deall na barddoniaeth na dim arall a berthyn i ddyn yn iawn heb wybod rhyw- beth am ei arferion beunyddiol. Yn y rheini y daw gwir dymer dyn i'r golwg Ysgrifennodd y diweddar Mr. David Jones, y Fan, Llanidloes, ei atgofion am Geiriog,* ac ni welais ddim yn unman yn dangos Ceiriog bob dydd fel y gwna'r atgofion hyn. Dyn lluniaidd, trwsiadus. Daethai Mr. David Jones, a oedd yn llenor a cherddor ei hun, i adnabod Ceiriog pan oedd y bardd yn oruchwyliwr y Van Railway. Ffordd haearn ddinod oedd honno, ac nid anrhydedd i ymffrostio ynddo oedd cael bod yn oruchwyliwr arni. Gwelsai Mr. Jones Geiriog, meddai ef, i ddechrau, mewn cyfarfod pregethu yn y Fan, a dyma'i ddisgrifiad ohono Yr oedd y pryd hwn yn anterth ei nerth, yn dal a lluniaidd­ei ysgwyddau'n ysgwâr, heb ddechrau gwargrymu, a'i wallt heb ddechrau gwynnu, ond yn colli ychydig ar a coryn. Yr oedd ei wisg hefyd yn dra thrwsiadus -het silc o'r defnydd gorau, froclc coat a gwasgod olau, a'i gerddediad fel pe bai wedi cael triniaeth filwr." Mynnu siarad Saesneg. Yng Nghaersws yr oedd yn byw yn y cyf- nod hwn. Gan fod David Jones yn siopwr, daeth i gyfathrach yn fuan â'r goruchwyliwr wrth dderbyn nwyddau i'r siop, a gyrru'r bocsus gwag yn eu holau. Rhaid imi ddweud inni fod yn hir cyn dyfod i'n deall ein gilydd," meddai Mr. Jones. Ymddangosai i mi yn or-feistrolgar ac yn gorfforiad o awdurdod. Ymsythai o'm blaen i'w lawn faint a 'synnwn-i ddim nad oedd tuedd ynof innau i yswatio o'i flaen yntau. Hefyd, mynnai siarad bob amser yn Saesneg. Aeth pethau o ddrwg i waeth, nes yn y diwedd iddi fynd yn ffrae o'i hwyl. Wrth atgofio'r helynt ymhen blynyddoedd fel hyn, yr wyf yn hollol barod i addef bod bai o'r ddeutu. Fy mhrofiad i yw, bod Ceiriog yn hawdd cymodi ag ef." "Unrhyfeddyw'rbardd Myn rhai na chostiai barddoniaeth Ceiriog fawr ddim iddo. Nid felly, meddai David Jones. Pan fyddai Ceiriog mewn myfyrdod ddwys, anghofiai'r lein fach yn Uwyr. Unwaith collasai'r siopwr ddwy sachaid o flawd wrth eu cludo yn y trên o Gaersws. Aeth i chwilio am y goruchwyliwr, a oedd i Yn yr Eurgrawn Wesleaidd," 15 mlynedd yn 61. fyny rhywle tua'r llyn. Dywedasai Dei Smith, "llaw dde 'r goruchwyliwr, nad oedd na phen na rheswm i'w gael ganddo." Ewch i fyny, Mr. Jones, a threiwch o," meddai Dei. A dyna D. Jones ato. Os gwelwch-chi'n dda, Mr. Hughes, mae gen i neges bwysig efo chi. Mae dwy sachaid o Sunbeam yngholl yn y tryc ddaethoch chi i fyny 'rwan imi a fedrwch-chi roi rhyw wybodaeth imi amdanyn'-hw' ? 'Rhoswch chi. am beth oe'ch chi'n holi ? "Euthum dros yr un stori drachefn, ond mewn cyweirnod uwch, er mwyn dangos iddo fy mod o ddifri. Ie,' meddai, beth oedd gynnoch-chi ?' Beth sy gen i ? dipyn yn gynhyrfus erbyn hyn. Ond holi'r ydw i am y sachaid fflŵr yna sydd ar goll Prynhawn da,' meddai, ac i ffwrdd ag ef â'i wyneb tua'r Uawr." Pan gafodd lythyr o Groesoswallt ynghylch y peth, ni chofiai i D. Jones erioed sôn wrtho am y blawd. L1e mae nhryc glo-i ? "Câi lawer o gam gan ddynion an- wybodus, yngljm â'i waith fel goruchwyliwr y lein fach. Da y cofiaf am un gŴT yn rhuthro ato, pan oedd ar ganol dweud stori i gwmni. Lle mae 'nhryc glo-i, Mr. Hughes ? meddai, er mwyn i'r cwmni ddeall ei fod yn cael tryc ar y tro. Be wn i am y'ch trjc-chi, ddjm ? meddai'r bardd ydych-chi'n meddwl 'mod- i'n cario peth felly yn fy mhoced '? Ei dymer orau. Am dymor, bu'r trên bach yn cario teithwyr o'r Fan i Gaersws i gyfarfod trên marchnad y Drenewydd. Wedi eu troi heibio gan y Cambrian yr oedd y cerbydau a'u cludai; ac er eu bod yn ddigon gwael eu golwg, yr oedd yn dda eu cael. Ond yr oedd gan Ceiriog gerbyd iddo'i hun a phan fyddai'r goruchwyliwr yn ei dymer orau, caffai rhyw hanner dwsin o etholedigion ohonom ein galw i mewn ato i'r Ue gorau, a cheuid y drws. Dro arall, mi wyddwn o birbell, ar ei wyneb, nad oedd wiw i neb ddisgwyl ffafr o'r fath. Hoff o'i wely. Ymddengys nad oedd yn godwr bore wrth ei bleser. Tipyn o dasg oedd hyn iddo. Ac efallai bod ei afiechyd yn effeithio arno, erbyn hyn, yn y ffordd hon. Bu rhywun yn ceisio dangos iddo werth bore-godi, a dyma ateb Ceiriog 'Rych-chwi 'run fath â hen ffermwr adwaenwn i. 'Roedd o'n ffaelu cael y bachgen o'i wely ben bore. Cwyd o dy wely, John Tyd odd'na, fachgen, mae Dafydd Tý Mawr wedi cael sofren ar lawr heddiw, weldi. Dyna be- di codi'n fore.' Wel, nhad,' meddai John o'i wely, rhwng cwsg ac effro, 'roedd hwnnw gollodd y sofren wedi codi o'i flaen e' Dyna ffordd Ceiriog o gyfarfod ei wrth- wynebwyr. Gweld y Barnwr. Daeth Ceiriog i siop D. Jones un bore wedi'i wisgo'n drwsiadus. Yr oedd yn mynd i Lanidloes o bwrpas i weld barnwr newydd y cwrt bach (Mr. Brynmor Jones yr adeg honno), oherwydd ei fod, meddai, yn gyd- nabyddus iawn â'i dad. Yr oedd gan D. Jones dipyn o fusnes yn y Cwrt, ond ni fedrai ei fynegi'i hun yn dda yn Saesneg. Ac yn sydyn dyna lais o'r tu ôl i D. Jones Your honour, may I help Mr. Jones, I know the circumstances well ? Who are j-ou ? meddai'r Barnwr. I am John Ceiriog Hughes,' A chyda'r gair yr oeddwn i'n tybio i wedd y barnwr newid yn hollol," meddai D. Jones. Ar y terfyn, croesodd y barnwr at y bardd, a gwelwyd y ddau yn mynd fraich ym mraich i gyfeiriad prif westy'r dref. Troi at yr Eglwys. Magwyd Ceiriog ar aelwyd grefyddol. Bedyddwyr parchus oedd eÌTÌeni, a bedydd- iwyd ef gan Afanwy yng Nghapel Bedyddwyr Granby Row, Manceinion. Camgymeriad yw dweud iddo ymaelodi ag Eglwys y Bed- yddwyr, ar ôl dyfod i Lanidloes. Ar ôl dyfod i Gaersws, yn yr eglwys yr addolai. Mynychai'r gwasanaeth bob Sul, a bod- lonai hyn ei briod yn fawr. Ond yn raddol, ymollyngodd, ac ni welid ef yno ond yng ngwyliau arbennig yr Eglwys. Chwibanwr da. Nid oedd Ceiriog yn gerddor, a'r hyn sy'n fy synnu i yw, sut y llwyddodd i ddeall ac i esbonio'n hen alawon. Ni fedrai ganu dim. Pan ofynnid iddo gyfansoddi geiriau i hen alaw, âi at ryw gerddor yn j- cyrraedd, a gofynnai iddo'i chanu â'i lais neu â'r delyn, neu'r piano, lawer gwaith drosodd. Yna, fe'i chwibanai wrtho'i hun. Yr oedd yn chwibanwr campus. Gofynnai i mi weithiau A fedrwch chwi'r alaw a'r alaw ? Na fedraf, Mr. Hughes.' `` Dyma hi,' meddai, a chwibanai hi drosti fel aderyn. Ar ôl ei chael i'w feddwl, myfyriai ar ei theithi a'r canlyniad fyddai priodas hapus rhwng y felodi a'r geiriau."