Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Byw yng ngolau Cannwyll J. H. JONES, Golygydd Y Brython gynt. (Y FiCER PRICHARD. Cannwyll y Cymry Llyfrau'r Ford Gron, Hughes a'i Fab, pris 6d.) Y .MAE'R Gannwyll hon yn gu iawn gennyf, canys â'r plant yn fychain ers talm, ac yn bwrw cyfnod y dweud adnod yn y Seiat, byddai'n arfer gan eu mam a minnau'r tad ddysgu rhai o benillion yr hen ficer iddynt, a chaffai'r hynaf o'r tri arddeliad digamsyniol wrth adrodd meddyl- iau ysbrydol a chartrefol hen offeiriad Llan- ymddyfri nes cynhesu'r cynulleidfaoedd. A phe cawn i fy ffordd, Mr. Golygydd, fe dorrwn ar undonedd sychlyd aml oedfa nos Sul trwy drefnu bod parti o had yr eglwys yn cyd-adrodd teleidion llên a barddas Cymru ar goedd, a byddai hynny'n foddion i ddwyn llawer o'r trysorau defosiynol ac arall i glyw a gwybod pobl sy'n rhy ddieithr iddynt. Rhyfedd mor gyndyn a di- ddychymyg ydyw ein swyddogion eglwysig, ac mor chwannog i sgrythru yn yr un drych ystrydebol, pan ellid amrywio a melysu'r moddion â phethau sy mor gydnaws â'r galon Gymreig ac sy mor hawdd ganddi agor i'w derbyn pan eu cyflwynir mewn modd cyfarwydd. Fy mhenillion innau. Diddorol iawn i mi ydoedd bod golygydd y gyfres hon wedi dethol amryw o'r un penillion i'r casgliad hwn ag a farciaswn innau fel y pethau mwyaf trawiadol i mi yn argraffiad 1867 o'r Gannwyll sydd ar fy silffoedd. Er enghraifft, y rhain o Awn i Fethlem. Awn i Fethlem i gael gweled Mair â Mab Duw ar ei harffed Mair yn dala rhwng ei dwylo Y mab sy'n cadw'r byd rhag cwympo. Awn i weld concwerwr Angau Gwedi'i rwymo mewn cadachau, A'r mab a rwyga deyrnas Satan Yn y cratis, heb allu cripian. Dyfynnir yn y Detholiad hwn 25 o'r 56 pennill sydd yn Y Gannwyll yn "Rhybudd i Gymru i edifarhau, ynghylch yr amser yr oedd y chwarren (pla) mawr yn Llundain," nid rhy wan mo'r ficer; edliw eu beiau i 'ffeiriadon yr oes. Mae dy 'fîeiriaid hwyntau'n cysgu Ac yn gado'r bobol bechu Ac i fyw y modd y mynnon' Heb na cherydd na chynghorion. "Pwr Jon." Ebe'r Ficer, ymhellach ymlaen yn yr un gân wrth sôn am y glem a'r darnlwgu: Y mae llawer oedd yn ceisio Quails a pheasants idd eu cinio, 'N awr yn chwennych torri'u newyn, Ar Bŵr Jon a hen ymenyn. Gan y Cyrnn Ond pa bysgodyn, ys gwn i oedd o Poor John a dalfyrrir yma yn Bŵr Ion?" Canodd y Ficer bum pennill ar hugain o Fene Tecel i dre Llan'ddyfri, ac wele un o'r deg a ddyfynnir yn y Detholiad: Cur dy ddwyfron, tyn dy wallt, Wyla'r deigrau dwr yn hallt, Crian ddyfal iawn "Peeavi, Arglwydd, maddau 'meiau imi." "Sut i fyw." Y mae rhywbeth yn dwt ac amcanol yn y rhain allan o'i gyfres penillion ar Sut i Fyw Bydd dra grasol yn dy eiriau, Bydd yn fedrus yn dy chwedlau, Bydd yn gywir yn dy bromais, Bydd ym mhob peth tan a llednais. Cyfarch bob dyn yn dra siriol, Gostwng i'th well yn gwrteisiol, Parcha'r henaint a'r awdurdod, A rho'r blaen i'th well yn wastod. Dwg y pennill olaf i'm cof fy mod yn chwarae ar y ffordd fawr yn Nhalsarnau, tua 1868, gyda "Twm Ffatri." Fe'm dysgesid i i gwrcydu i bob gŵr bonheddig, ond hogyn didoriad ydoedd Twm, wedi dod i'r ardal, ef a'i deulu o un arall a mwy bolshef- iaidd o Sir Feirionnydd; a phan welais Mr. Parry, Yswain y Glyn yn dynesu ar gefn ei ferlen: Cofia di 'neud bow iddo pan basia," ebwn i; a phan elai'r yswain heibio, Bow!" ebe Twm nerth esgyrn ei ben, canys welsai Twm erioed mo olau'n Can- nwyll. Dwys. Hawdd y gallsid dod ymlaen, ond rhag tresmasu ar y gofod, a gwthio plotiau pobl eraill dros ymyl y Ford, bodlonaf ar ddyfynnu a ganlyn o benillion dwys y Ficer i Fel y Rhed yr Haul i'r Hwyr Fel y rhed yr haul i'r hwyr, Fel y treulia'r gannwyll gwyr, Fel y syrthia'r rhosyn gwyn, Fel y diffydd tarth ar lyn. Felly treulia., felly rhed, Felly derfydd pobl cred, Felly diffydd bywyd dyn, Felly syrthiwn bob yr un. Ni cheir gweled mwy o'n h61, Nag ôl neidr ar y ddôl, Neu ôl llong aeth tros y tonnau, Neu ôl saeth mewn awyr denau. Fel ty bugail y'n symudir, Fel 'stên briddlyd y'n candryllir, Fel dilledyn y darfyddwn, Fel y llwydrew y diflannwn. Da ydoedd dwyn gwaith yr Hen Ficer i'r gyfres chwe cheiniog; canys bu adeg yng Nghymru pan ystyrrid y Beibl yn frenin y llyfrau a'r Gannwyll yn dywysog, y dodid y ddau yn nesaf i'w gilydd ar y bwrdd, na'r un esboniad na llawlyfr yn beiddio mynd i-hwg y ddau. Bro Beirdd a Chantorion (o dudalen 57). a Dafydd Niclas, Aberpergwm, awdur Y Deryn Pur." Wele un o'r englynion can- moliaeth a wnaeth Rhys, tua 1764, i'r heol newydd o Gastellnedd i Bont Nedd Fechan Ffordd lydan wiwlan olwg-ffordd luniaidd, Ffordd lana Morgannwg, Wedi amser Rhys a chj*wj-ddwjT eraill, daeth y tribanwyr a'r beirdd talcen-slip. Yn y 19eg ganrif yr oedd pawb a'i bennill yn ei gwrs yn y lofa, yn y siop grydd, yn yr efail, ac yn y dafarn, a cheid digon o ddigrifwch. Y tri Doctor. Tybed a oes bentref yn ynys Brydain, heblaw Resolfen, sy wedi magu tri doctor mewn cerddoriaeth ? Yma y ganed Dr. David Evans (Prifysgol Caerdydd), a'r Dr. T. Hopkin Evans (Lerpwl) ac yma y buont yn gweithio tan y ddaear fel glowyr. Dau gefnder yw'r ddau gerddor, ac fe wyr pob Cymro amdanynt fel cyfansoddwyr, beirn- iaid Eisteddfod Genedlaethol, ac arweinyddion Cymanfaoedd. Brodor o'r pentref hwn hefyd oedd Dr. William Rhys Herbert, fu farw yn yr Amerig yn 1921. Gwnaeth lawer o gyfan- soddiadau gwerthfawr iawn. Dewiswyd ef i feirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd, 1918, ond oherwydd perygl croesi Môr y Werydd yn amser y Rhyfel Fawr, methodd ddyfod i gyflawni'r gorchwyl. Ar ei farwolaeth ysgrifennodd Dr. Daniel Protheroe Dyma ni wedi colli lwmp o athrylith Gymreig. Cymro hollol oedd, a Chymro gwlad, caredig a chalon-agored. Bydd yr awen Gymreig yn dlotach o'i golli." Gorchestion eraill. Cyfoed i'r tri doctor uchod oedd Mr. D. Rhys-Phillips (Y Beili Glas)-un arall 0 fechgyn Resolfen. Adnabyddir ef drwy Gymru fel ysgrifennydd Cymdeithas Lyfrau Cymru, Trefnydd Arholiadau'r Orsedd, awdur-ymhlith dwsinau o lyfrau eraill-The History of the Vale of Neath (y llyfr rhyfeddaf o'i fath a sgrifennwyd erioed), a Llyfrgellydd tref Aber- tawe. Y mae gorchestion eraill sy'n dwyn clod i bentref bychan Resolfen. Y mae côr meibion y pentref wedi ennill amryw weithiau ym mhrif gystadleuaethau'r Eisteddfod Genedlaethol, a bu'r Gymdeithas Ddrama yn cipio un o brif wobrwyon Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, 1930. A new Edition of this Work, the only publication of its kind, is in preparation. All thoee wha's names should appear and who have not furnished particulars, are requested to apply to the publishers 34, Duko Street, St. James's, London, S.W.l. Ffordd union ddi-droeon-drwg Yn gytun trwy blwyf Catwg. WHO'S WHO IN WALES. A. G. REYNOLDS & CO., LTD.,