Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"CYLCH MYFYR" CANOLBARTH LLOEGR. SEFYDLWYD y Gymdeithas hon yn agos i hanner can mlynedd yn ôl gan Gymry Bir- mingham a'r trefi o amgylch. Ni chyfyngir ei haelodaeth i rai a fedr siarad Cymraeg, ond croesewir pawb a gymer ddiddordeb mewn pethau a berthyn i'r Cymry. Trefnir Cylch Myfyr yn y gwa- hanol drefi, lle y trinir materion fel rheol yn Gymraeg. Drama a Darlith. Y Llywydd eleni yw'r Athro W. J. Gruffydd. Bu trydydd cyfarfod y tymor yn Ysgoldy Capel Cymraeg Wolver- hampton, a daeth cynhulliad da o Birmingham, Dudley, WalsaUa Wolverhampton. Perfformiwyd dwy ddrama gan Gylch Myfyr Wolverhampton, Bu pedwerydd cyfarfod y tymor yn Siambr Fasnach Birmingham, sef darlith gan Mr. Trefor Jones, ar Cloddio am hanes yng Ngheredig- ion." Os oes Gymry yng Nghanolbarth Lloegr a ddymuna ymuno gallant gael manylion gan yr Ysgrifenydd- ion Miss J. M. Williams, 287, Ragley-road, Birmingham, a Mr. A. F. Williams, 5, Whitehall-road, Handsworth, Birmingham. CYFARFOD BRWD CYMRY NOTTINGHAM. Y MAE i Gymry Nottingham a'r cylch Gymdeithas Gym- raeg lewyrchus, a cheir cyfarfod- ydd o dan ei nawdd yn Notting- ham. Trefnir rhaglen amrywiol a di- ddorol ar gyfer pob gaeaf, ac yn yr haf trefnir gwibdeithiau. Llywydd y Gymdeithas eleni yw Mr. E. I. E. WiUiams, Clerc y Dref, Ilkeston, a'r ysgrifennydd yw Mr. D. Howell Jones, Stapleford.. Cafwyd dau gyfarfod hapus, yn ogystal â dawns, y tymor hwn. Cylch o Gymry trwyadL Heblaw'r Gymdeithas uchod, y mae cylch bychan o Gymry trwyadl Gymreig, a Mrs. Owen, Beeston, yn Llywyddu. Y mae Mrs. Owen ac eraill o'r aelodau, sydd â'u cartrefi yn y cylch, yn gwadd y Cymry hyn i gyfarfod ar eu gwahanol aelwyd- ydd, a threulio nosweithiau llawen Cymreig. Cymraeg yn unig a siaredir yn y cyfarfodydd hyn. Yn Mertyn," Beeston, Notting- ham, cartref yr Athro a Mrs. Owen, yr oedd, y cyfarfod diwethaf o'r fath. Darllenwyd papur diddorol ar Ceiriog gan Mr. J. R. Thomas (Glyn- ceiriog), -j-iürcanẁyd gwaith Ceiriog gan Mrs. Green (Djrfîryn Ardudwy), Miss Gwen Jones-WiUiams (Coed- poeth), a Mr. E. O. Edwards (Llan- uwchU-yn), Miss G. J. WiUiams a Mr. T. Glynne Jones (Yr Wydd- grug) yn cyfeilio, ac adroddwyd darnau o Geiriòg gan: Miss Eluned T. Roberts (Llandegfan) a Miss Enid ẄiUiams (Rüyd-ddu). HEN ARFERIAD Y NOS WEDFR NADOLIG. A'R Nadolig yn syrthio ar y Sul, a'r cyfleusterau teith- io'n gyfyngedig i'r rheilffyrdd, bu rhaid mynd heb yr Ysgol Sul mewn rhai mannau yn Llundain, a thenau iawn, iawn, oedd y cynulI- eidfaoedd nos Sul. Y noson wedyn yr oedd Cartref Oddi Cartref yn y mwyafrif o'r Eglwysi a'r capeli, a hwyl ar wneud aelwydydd cynnes i'r llu merched a bechgyn na allai dreulio Dydd Nadolig yn yr hen wlad. Y mae'r arferiad hwn yn hanner canrif oed, ac yn dal yn boblogaidd. Bu Syr Evan D. Jones, Arglwydd Raglaw Newydd Sir Benfro, am flynyddoedd yn un o Gymry Llun- dain ac yn barod ei wasanaeth. Fe'i enwogodd ei hun fel llyfr- bryf a chasglwr hen lyfrau a llaw- ysgrifau, a dyledus ydym fel cenedl iddo am roddion gwerthfawr i'r Llyfrgell Genedlaethol. Hen Eglwys Gymreig. Darllenais bod yr adeiladau'n adfeilio cymaint yn Eglwys Ely Place, Holborn Circus, i'w hanghym- wyso at gadw gwasanaeth; a bod gorfod encilio i'r crypt. Cyn ei gwerthu i'r Pabyddion, ardrethid yr eglwys hon gan y Cymry a hi yn wir oedd yr Eglwys Esgobol Gymreig gyntaf yn Llun- dain. Symudwyd yn 1879 i Eglwys St. Benet, ac yno y bugeilia'r bardd Isylog ei braidd, a'r eglwys yn un o'r adeiladau prydferthaf a gyn- lluniwyd gan Syr Christopher Wren (y dethlir ei dri-chan-mlwyddiant y misoedd hyn). Merched Mon. Bu merched Môn yn ymweld â'r Brifddinas--cryn gant ohonynt- trwy drefniant Sefydliad y Merched, a chawsant groeso cynnes gan Fon- wyson Llundain. Gwelsant y Senedd-dai ac adeiladau hanesiol eraill a chlywsom sibrwd iddynt dreulio awr yn siop enfawr Selfridge. Gyda'r Cymdeithasau. Bu'r Parch; T. Ogwen Griffith, y Rhyl, yn darlithio ar Y Chwar- elwr" i'r Arfoniaid; Mr. Bob Owen yn atgofio Aelodau Sir Ddinbych am wasanaeth brodor- ion y Sir i lên Cymru yny ddeu- nawfed ganrif, a Dr. P. B. Ballard yn annerch Cymdeithas Sir For- gannwg ar iaith a diwylliant y Sir. Gan LLUDD. Cychwynwyd Cymdeithas newydd gan frodorion Sir Feirionnydd. Gwibdeithio. Bu adran Hanes Cymdeithas y Cymry Ieuainc, yn rhai o hen eglwysi'r ddinas, o dan arweiniad Mr. John Williams, Willesden. Aed trwy eglwys hynafol St. Bartholomew a chofio merthyru'r saint yn Smithfield ger llaw. Yna trwy Eglwys St. Sepulchre, Hol- born ac ar gais y ficer, aeth blaenor Methodus i'r pulpud a thraethu hanes Thomas Gouge, ficer yr Eglwys yn nyddiau Siarl II, a'i aberth i ddwyn addysg i werin Cymru a gwasgar y Beibl a llyfrau eraill yn ein gwlad. £ 5,000 i'r Presbyteriaid. Bu'r Athro J. Lloyd Jones, Dublin, yn Willesden Green yn dar- lithio ar Enwau Lleoedd y Parch. Ben Davies yn Barrett's Grove ar Yr Emyn Cymraeg yr Athro Hughes Parry yn Ham- mersmith ar Gerrig Milltir yn Hanes Cymru"; y Parch. D. Gwynfryn Jones yn Brunswick ar Daniel Owen" Mr. Cecil Williams yn Dewi Sant ar Ceiriog Mr. Frank Owen, yr Aelod Senedd gynt, yn King's Cross, ar Rwsia," etc. Daeth anrhydedd arall i Mr. D. Owen Evans, A.S., yn ei ddyrchaf- iad i gadair Seiri Rhyddion Cyf- rinfa Ceredigion, a gorseddwyd ef o flaen cynhulliad urddasol o'r aelodau. Addawodd Syr. Howell J. Williams £ 5,000 at fugeiliaeth eglwysi gwan Presbyteriaid Cym- reig Llundain, ar yr amod y cesglid swm cyffelyb gan eglwysi'r Hen- aduriaeth. Y Cymrodorion. Y mae Mr. J. R. Thomas wrthi'n ddyfal yn ymweld â'r Cymdeithasau drwy'r ddinas, a gwerthfawrogir gwaith a ffyddlondeb y Llywydd gan yr aelodau. Daeth tymor anrhydeddus Cym- deithas y Cymmrodorion i ben. Etholwyd Mr. L. N. Vincent Evans, unig fab Y Finsent Mr. Cecil Williams, a Mr. J. Arthur Price, yn aelodau o'r Cyngor. Wrth derfynu, dymunwnFlwydd- yn Newydd Dda i bawb cysylltiol â'r Ford Gron ac i'w darllen- wyr yn Llundain, Cymru a phob- man. DADLAU AM GYMRAEG YM MANCEINION. Gan HENRY ARTHUR JONES. RHODDODD yr Athro W. J. Gruffydd ddarlith i'r Gymdeithas Genedlaethol ar Geiriog," ac yr oedd cynhulliad lliosog yn gwrando arno. Er nad oes neb, hyd y gwyddys, yn aros ymhlith Cymry Manceinion sy'n cofio Ceiriog pan oedd yn y ddinas, y mae gan aml i un yma atgofion amdano a drosglwyddwyd gan rai a fu'n gymdeithion iddo tra'r oedd yma. Trigain mlynedd a saith sydd er pan symudodd o'r ddinas i Gymru, a synnwn-i ddim, ped aid ati, y cesglid aml i hanesyn diddorol am- dano o gell cof y rhai hynaf yn ein plith. YDdadl. Traddodir darlith nesaf y Gym- deithas Genedlaethol gan Mr. Rhys T. Davies, Prifathro Ysgol Ganol- radd Treffynnon, ar Ieuan Gwyn- edd a'r Diwylliant Cynhenid." Hwn fydd ymweliad cyntaf Mr. Davies â'r Gymdeithas Genedlaethol. Bydd y cyfarfod ar Ionawr 13. Bydd Cymdeithas Genedlaethol Lerpwl yn ymweld â Chymdeithas Genedlaethol Cymry Manceinion Ionawr 20, a cheir dadl Bod gwybod y Gymraeg yn hyrwyddo cynnydd addysg a phethau materol Cymru." Y siaradwyr yn cadarn- hau fydd Mr. J. H. Jones (Cyn- Olygydd y "Brython") a Miss Gwladys Owen (Manceinion) ac yn nacau, Mrs. Iorwerth Hughes (Lerpwl) a'r Parch. W. J. Jones (Manceinion). Mr. J. Ceinionydd Roberts. lly- wydd Cymdeithas Manceinion, fydd yn y gadair. CHWARAE A CHYNGERDD YN GLASGOW. Gan E. N. LLOYD. Bu Cymdeithas Gymraeg Glas- gow yn chwarae wist a chael cyngerdd yn ystod y mis. Aeth gwobr gyntaf y merched yn y chwarae i Mrs. Carnegie, yr ail i Miss Eunson, a'r Bwbi gan Mrs. Macready; o'r dynion, daeth Mri. R. T. Pritchard a W. T. Campbell yn gyfartal gyntaf. Rhan- wyd y gwobrau gan Dr. Rena Llovd. Wedyn, mwynhawyd cwpanaid o dê a phawb yn ei elfen a'r hen iaith i'w chlywed ym mhobman­mor felys ydyw, onid e, ar ein gwefusau os bydd y cyfle i'w siarad yn anfynych. Yn y Cyngerdd. Arweinydd y cyngerdd yn dilyn oedd Mr. Alban Griffiths a'r Dr. E. R. Lloyd yn y gadair. Dyma'r cantorion Mr. Barlow (detholiad cerdd) Mr. Green (cân) Dave Allan (adrodd) Miss Mitchell (cân) Mr. Gardener (cân); Mr. Nailer (cân) Mr. Green (cân) Miss Mitchell (cân). Aethom adref â phigyn hiraeth yn ein bron am Gymru.