Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Barn darllenwyr Y Ford Gron ELIZABETH DAVIES, Y NYRS. At Olygydd Y FORD GRON. YMDDANGOSODD ysgrif yn Y Foed Gron am fis Ebrill diwethaf ar "Elizabeth Davies "—nyrs wrth ei galwed- igaeth-oedd yn cydoesi â Florence Nightingale, ac mor enwog a hithau. Dywedir yn yr ysgrif mai o'r Bala oedd, ond yr wyf yn credu mai yn Erw Dinmael, Cerrig-y-drudion, y ganed ac y magwyd hi, ac y mae trigiannydd presennol y lle o'r un enw a'i thad. Clywais chwaer sydd yn dechrau mynd i oedran mawr bellach yn dweud ei bod wedi clywed ei mam yn dweud mai o Bryn Aber, Cerrig-y-drudion, ac nid o'r Bala, y diangodd hi ymaith. Nid wyf am geisio penderfynu dim yn ei chylch yr wyf yn disgwyl y gwna eraill mwy abl na mi hynny. Fy unig amcan yw ceisio codi llen sydd wedi ei chadw o'r golwg cyhyd. Ysgrifenned pawh sy'n gwybod rhywbeth amdani yr hanes i'r papurau. Mentraf wneud ychydig awgrym- iadau. Dylai'r Bala roddi darlun ohoni yn ei ystafelloedd cyhoeddus, a cherfio'i henw ar gofeb y milwyr, a dylid cyfieithu ei chofiant. C. E. ROBERTS. Y Bala. Wrth droed Pumlumon yng Ngheredigion ffermwr yn codi mawn at y gaeaf. Sais a'r Cymraeg. At Olygydd Y FORD Oron. SAIS ydwyf i, ond cymeraf ddiddordeb mawr yn yr iaith Gymraeg, a dymunaf ddatgan fy ngwerthfawrogiad o'r Ford Gron. Yr wyf yn myned i Gymru am wyliau ers blynyddoedd, a deuthum i garu Cymru a Chymraeg, ac er byw yn Lloegr yr wyf yn dal i ddysgu Cymraeg o hyd, a chaf Y Ford Gron yn gymorth gwerthfawr imi. W. D. WALKER. Y Llydawiaid. At Olygydd Y Ford GRON. DIDDOROL oedd darllen nodiadau Syr BedwjT ar Taldir y Bardd a'r llenor Llydeẁig. Onid Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd oedd, ac nid Caerdydd, pan ddaeth Taldir a Chaledfwlch ac un neu ddau eraill o'u cyd- genedl gyda hwy i'r Eisteddfod ? I Lys Llanofer (nid oes castell yn Llanofer) y gwahoddwyd hwy i dreulio'r Sul a'r wyth- nos yn dilyn, ac nid gan Arglwyddes Llan- ofer, Gwenynen Gwent—yr oedd hi yn ei bedd ers blynyddoedd, ond gan ei merch, y Wir Anrhydeddus Mrs. Herbert, mam yr Arglwydd Treowen presennol. Troesai hi, pan briododd John Arthur Herbert o Gwrt Llanarth, at y grefydd Babaidd, ac am mai Pabyddion o grefydd oeddynt, dyna pam y cawsant wahoddiad i dreulio wythnos yn Llys Llanofer. Pe buasai'r hen Arglwyddes byw, 'welai yr un ohonynt gyfyl y Ue y oedd yn Brotest- ant ry eithafol i adael yr un pabydd i ddyfod o dan ei chronglwyd, ac yn fwy felly er pan briodasai ei merch. Daethant i gapel y Methodistiaid Calfinaidd er mwyn clywed gwasanaeth Cymraeg, ond gan y dechreuid am 10-30 jr bore, a hwythau'n meddwl mai am 11 yr oedd, ni chawsant ond darn ola'r oedfa. Mabon yn Ateb. Rjwfodd neu'i gilydd, llwyddasai Morien i'w gyplysu ei hun â hwy, ac ef oedd yr arweinydd y Sul hwn. Yr oeddynt yn gwmni difyr dros ben. Mabon oedd un o'r arweinyddion yn Eisteddfod Casnewydd, a phan ymddangos- odd Mrs. Herbert ar j Uwyfan yn foneddiges urddasol, a'i gwallt yn disgleirio fel yr aur, gwaeddai bechgyn y Rhondda ar uchaf eu llais Pwy yw'r ddynes bengoch yna, Mabon ? yntau'n ateb Y Wir Anrhydeddus Mrs. Herbert o Lanofer." Yn union gwaeddent drachefn Côr p'le yw hwnna, Mabon ? Côr y pennau crynion," meddai, yn sych a swta. Ysgrifennodd Taldir lawer erthygl mewn Cymraeg da i'r Cymru flynyddoedd yn ôl. MORGAN 0 WENT.