Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHEN a Chymru Dyma ddarlun o fywyd hen Athen odidog, lle blagurodd gwerin- iaeth yn bren ir A ydyw Cymru mor werinol ag y bu ? Gan y Parch. HERBERT MORGAN YR oedd hi'n arfer gan yr Atheniaid gasglu'r lladdedigion ar ôl brwydr a'u claddu gyda'i gilydd mewn mynwent a gedwid i'r pwrpas hwnnw'n umg. Trefnid angladd swyddogol i ddangos parch i goffa'r rhai a fu farw ar faes y gad, a dewisid gŵr o ddoethineb a huodledd eithr- iadol i draethu clod y meirw a diolch dros y ddinas am ffyddlondeb ac aberth mor fawr. Yn y flwyddyn 431 cyn Crist, gwnaed hyn gan Pericles, arweinydd yddinas yn.j- cyfnod disgleiriaf yn ei hanes. Sonnir, hyd y dydd hwn, am oes Pericles fel un o binaclau diwyll- iant y byd, ac y mae enwi cyfnod ar ôl y gŵr mawr hwn yn dystiolaeth i'w athrylith ddi- gymar. Ef oedd y gŴT blaenaf yn anterth gogoniant Groeg a phan gipiwyd ef ymaith, daeth anffodion i gymylu'r ffurfafen, a machludodd haul Athen erbyn diwedd y ganrif. Yn wir, yr oedd yr ystorm yn ymgasglu eisoes pan draddododd yr anerchiad godidog hwn, tua diwedd ei fywyd. Rhyw ddechrau gofidiau oedd y rhyfel y syrthiasai'r milwyr hyn ynddo ond ni wyddai ef na'r Atheniaid mo hyn. Wrth wrando ar eiriau Pericles, hawdd canfod bod hyder a gobaith y ddinas yn ddigwmwl. Pwy a warafun iddynt eu gwynfyd tra gallent ei gael ? Teimlai Pericles mai peth naturiol a gweddus wrth dalu teyrnged o barch i'r milwyr, oedd holi pa ryw wlad oedd honno y buont hwy mor lew o'i phlaid. Beth oedd sail eu gorfoledd hwy ynddi ? Pa fraint oedd iddynt hwy, yn anad neb ? Ei ateb i'r cwestiynau hyn ydyw'r folawd ddihafal i Athen a geir yn ei araith uwchben y meirw a faged yn ei mynwes dirion. Athen a'i phobl ei hun. 0 ran trefn ein bywyd cymdeithasol, meddai Pericles, yr ydym yn weriniaeth, oblegid mai gofalu am les y lliaws a wnawn yn hytrach nag am fantais i ychydig. Nid dynwared eraill a wnaethom, eithr llunio ffurf-lywodraeth sy'n batrwm i eraill. Nodwedd amlycaf y drefn werinol hon ydyw cydraddoldeb y dinasyddion. 0 ran ein hamgylchiadau preifat, y mae pawb ohonom yn gydradd gerbron y gyfraith. Yn ein bywyd cyhoeddus nid yw cyfoeth na safle gymdeithasol yn sicrhau rhagorfraint i neb. Nid yw tlodi yn rhwystro neb i ennill blaen- oriaeth yn ein plith os bydd ganddo gymwys- terau personol. Y cydraddoldeb hwn yw Yr Acropolis, Athen, a'r Parthenon ar ei ben. sylfaen bywyd dinesig Athen. Gwelir yr un rhyddfrydigrwydd yn rhedeg trwy ein bywyd beunyddiol. Nid oes neb yn ymyrryd â'i gym- ydog. Gall pawb ei ddifyrru ei hun yn y ffordd y gwelo'n dda heb gael gwg na sen am wneud hynny. Ond er bod cymaint o ryddid yn y pethau hyn, eto nid oes diffyg parch i ddeddfau'r ddinas, yn enwedig i'r deddfau hynny sy'n amddiffyn rhag cam. Ond er bod cymaint o ddifrifoldeb yn y bywyd dinesig, y mae yno hefyd ddigon o ddigrifwch fel na bo bywyd yn rhy undonog. Y mae llawer o wyliau cyhoeddus yn ystod y flwyddyn ac y mae digon o fwynderau gan bawb yn ei ymyl. Felly, y mae hamdden difyr gan bawb yn ogystal â gwaith. Heb- law hyn. y mae Athen, meistres y môr, yn derbyn cynyrchion o bell ac felly yn ychwanegu at gysur ei bywyd. Athen a'r estron. Y mae Athen yn rhyddfrydig yn ei hym- ddygiad tuag at estroniaid. Nid ydyw'n ofnus nac yn ddrwgdybus, ac felly nid ydyw yn ceisio cau'r estron allan rhag iddo ddysgu rhywbeth a all fod yn fantais iddo mewn rhyfel, dyweder. Os gwêl yr estron pa arfau rhyfel sydd gan Athen, pa waeth am hynny ? Nid yn ei harfau y mae ffydd Athen, eithr yn ei dyn- ion. Yn hyn o beth y mae Athen yn ddoethach na'i chymdoges, Sparta. Yno y mae'r ddisgyblaeth filwrol lem yn dechrau'n gynnar ac yn dal ymlaen yn hir, a'r canlyn- iad ydyw bod caledi a chaethiwed rhyfel yn blino'r bywyd yn y blynyddoedd pan na bo rhyfel. Y mae Athen yn osgoi'r gyfundrefn ormesol hon ac eto y mae ei dinasyddion hi yn llawn mor wrol a gwlatgar. Yn wir, y maent yn barotach i ymgyfaddasu ar gyfer pob math o argyfwng, fel y dengys eu gor- chestion ar dir ac ar fôr. Ymhyfrydu mewn diwylliant. A chanddynt yr hyder hwn ynddynt eu hunain, y mae'r Atheniaid yn rhydd i ymhyfrydu mewn diwyUiant. Y maent yn ymddigrifo mewn harddwch ac yn y celfau cain heb syrthio i foeth, ac y maent yn caru doethineb a gwybodaeth heb ymfeddalhau a choUi rhuddin moesol. Llwybr canol rhwng eithafion ydyw llwybr y gwir foesoldeb yn ôl Aristoteles, ac y mae'r Atheniaid yn teimlo ei fod yn ennill gwir ragoriaeth trwy gymedroldeb a hunan- lywodraeth. Gwyddai'r Atheniaid nad Bohemiad llipa ydyw'r gwir artist ac nad creadur anghofus ac anymarferol ydyw'r gwir athronydd a'r gwir ysgolhaig. Y mae hoffter yr Atheniad o gelfyddyd a doethineb yn profi bod ganddo syniad cywir am werth pethau. Gwelir hyn hefyd yn ei ffordd o edrych ar gyfoeth a thlodi. Nid ydyw'n diystyru golud ond nid ydyw ychwaith yn ei wneud yn sylfaen i ymffrost a rhodres. Cyfrwng i gyflawni gorchest a gwasanaeth ydyw yn hytraoh na nôd i fywyd. Nid ydyw tlodi yn beth cywilyddus, ond y mae'n anfri ar ddyn os paid ag ymdrechu yn ei erbyn. Dadl ac ymgyngor. Y mae'r Atheniad yn ŵr goleuedig a phwyllog. Gwyr sut i drin ei amgylchiadau ei hun ac, ar yr un pryd, gymryd rhan ym mywyd cyhoeddus y ddinas. Dyma beth digyffelyb yn yr oes honno, sef dynion yn dilyn rhyw alwedigaeth feun- yddiol ac eto yn trin materion gwleidyddol yn fedrus. Nid ydyw Pericles yn honni bod