Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAFYDD Gan DAFYDD HUWS, Y Siop, Llanarjon. YR oedd gwraig y Fodol un adeg yn gwsmer ragorol hyd nes galw'i gŵr i'r cyfrif mawr yn ddisymwth. Gwerthwr glo oedd ef, a chan mai un lled ofer ydoedd, y mae lle i ofni mai parhau yn y busnes glo y mae. Pan dderbyniodd ei wŷs," yr oedd arno i mi ryw bymtheg swllt a saith geiniog, a bu ei weddw unig yn ymdrechu'n galed i glirio'r ddyled. Deuai bob wythnos i'r siop i dalu swllt ar y bil, ac ni fethodd un waith yn ystod y tair blynedd diwethaf. Ryw fis yn ôl, gofynnodd imi beth oedd gweddill y ddyled. Dywedais wrthi y madd- euwn y gweddill iddi am fod mor ymdrechgar ac anrhydeddus. Ar hyn, dyma gwestiwn y mabwysiadu'n codi. Yr oedd yn eiriol mor daer, nes toddi fy nghalon o'r bron. A'r noson honno, pan oedd pawb parchus yn Llanarfon yng ngwlad Nod ers oriau, anturiodd Isaac a minnau tua'r Fodol i hebrwng aelod newydd y teulu adref. Sylwais fod iddo ddau bâr o freichiau, pedwar troed, ac amryw olwynion. Gafaelais ynddo a dweud wrtho am ddyfod yn ei flaen yn dawel, fel y dywed plisman wrth ddyn llai nag ef. Gwyddwn mai gwylio'i gyfle i chwarae rhyw gast arnaf yr oedd a hanner y ffordd i lawr y grisiau, dyna un o'r traed yn rhoi cic imi yn fy nghoes, a'r un pryd fe syrthiodd Isaac fel tun- nell 0 1o ar fy nghefn. Nid pic-nic oedd ein rhyddhau em hunain o afaelion yr octopus." Yr oedd un troed i mi yng ngheg Isaac, a'r llall ym mhoced fy nhrowsus, a bu ffrwgwd am ugain munud pwy oedd perchennog y fraich oedd yn dynn rhwng y dannedd a'r dres. Wedi cyrraedd y cyntedd, dyma'r cloc mawr yn cael cic, ac yna baglu'r umbrella stand." Erfyniai'r wraig arnom beidio â'i farchogaeth i lawr allt. Gwelais gyfle i'w adael 1le y safai, ond yr unig ateb a gcfais i'm cynnig oedd clep ar y drws. Allan ar y lawnt o'r diwedd. O, olygfa dorcalonnus Dau ddyn diniwed, caddug nos yn toi'r glyn, a bwystfìl ymladdgar yn aros ei gyfle i wneud niwed iddynt. Clywais fy nannedd gosod yn rhincian yn fy mhoced, a dau ben glin Isaac fel sŵn tabyrddau. Cychwyn i lawr Gallt-y-foel, ac Isaac yn ochneidio'n dorcalonnus. Minnau'n edifarhau na fuaswn wedi dysgu dweud fy mhader. Yr oedd ymddygiad da yr octopus yn fy ngwneud yn amheus. Ychydig lathenni o waelod yr allt, dyma'r bwystfil yn troi tuag at y ffos, ac wrth geisio'i rwystro, syrthiais ar draws rhywbeth. HUITS A'R BEIC Os oedd ar lawr, dyma gyfle i roi curfa iddo. DWBL Ond yr oedd y dyrnodau'n disgyn yn amlach arnaf nae y gallwn eu talu'n ôl. Fore trannoeth, daeth y postman ar ein traws, a holodd pwy oeddwn. Clywais ef yn dweud wrth Isaac fod un llygad iddo yn ddu a darn o'i glust ar goll. 'Weîais i mo Isaac, gan fod fy nau lygad yng nghau, a'm clustiau'n debyg i ddwy cauliflower." Cafwyd yr octopus yng ngwaelod yr allt, llawn drigain llath o faes y frwydr, a rhaid bod Isaac a minnau wedi bod yn brysur yn ein cadw'n gilydd yn gynnes. Daw cyfle eto i dalu'n ôl iddo am fod mor feddylgar. Ciliodd creithiau'r ysgarmes, a daeth goleuni'n ôl i'm llygaid ymhen rhyw wythnos, a gwnes ymchwiliad ar y beic. Gwelais fod camder yn jt olwyn ôl. Holais y cwsmer cyntaf a ddaeth i'r siop sut i'w wella, a dywedodd ei fod yn bencampwr ar y gwaith. Sylwais ei fod yn gyfarwydd â thrin beics, a bod y trychfil yn goddef iddo'i droi a'i ben i láwr. Clywais ef yn sibrwd ball bearings droeon, gan edrych yn ffyrnig ar y beic. Gafaelodd yn fy het, dododd hi ar y llawr, a thywallt llu o bethau bach crynion iddi tebyg i belenni Beecham. Pan ddaeth ci'r drws nesaf â'i drwyn i busnes fel arfer, gan afael yn yr het a rhedeg i ffwrdd â hi, clywais y Cymraeg cryfaf a glyw- odd Cymro erioed. Ar ô1 ysbaid o'r Cymraeg cryf, collodd ei dymer, hergwd i'r beic, ac yna collodd hwnnw'i dymer, a bu brwydr galed rhyngddynt am awr gyfan. Weithiau y beic oedd uchaf, dro aral y dvn. Just iawn," meddai ganwaith, ac O, 'mysedd tlawd Ond ef a orfu aeth jt olwyn yn ô1 i'w Ue a scriws i'w chadw yno. Wel yn wir, wylais ddagrau gonest gwelais ei fod wedi trin yr olwyn iach, a'i bod erbyn hyn yn waeth na'r un. Ceisiodd y gŵr-gwybod-popeth fy ar- gyhoeddi ei fod wedi gwneud fel y gofynnwyd iddo, sef gwneud i'r olwynion gyfateb i'w gilydd dywedodd y buaswn mewn amser yn cynefìno â'r sŵn a wnâi'r olwynion wrth grafu'r ffj-rch. Cefais dair wythnos o lafur caled i gofio bod eisiau edrych tros fy ysgwydd chwith pan awn yn syth edrych o'm blaen pan drown i'r dde, ac edrych tua'r olwyn ôl pan drown i'r chwith. Búm yn hir cyn medru perswadio Catrin i ddysgu erbyn heddiw buasai'n well ar Catrin a minnau, a dau gyw iâr, dwy gath ac un ci, pe buaswn wedi gwrando arni. Ryw ddydd Mercher braf, dyfod ddarfu Catrin, yn ei dillad gorau, ac edrychai'n dda yn ei bonet fawr, ei shawl paisley," a pais gwmpasog goch a gwyn, a phâr o glocsiau cartre. I lawr i'r Betws a hawdd oedd deall, wrth weld y moch, ieir, defaid, cathod, plant a'r trigolion yn gwasgar, ei bod yn ddiwrnod fîair yno. Cododd plisman ei law, i'n croesawu, mae'n debyg, a chodais innau fy het iddo. Ymlaen â ii i Roswyau Catrin yn holi enw'r fforest goed, ninnau'n egluro mai polion telegraff oeddynt. Heibio i eglwys Llanlludw, aros i roddi cyw lâr yn fy mhoced, a chyrraedd Pentre Bresych. Daeì tê yno, a chlywed rhywun yn holi ai y Oraf Zeppelin oedd Catrin. Gadael Pentre a chychwyn am Aberhalen, taith o ddeuddeng milltir. Annog Catrin i roi ei deg ewin ar waith i dorri'r record," a thorri asgwrn cefn cath ddu. Catrin yn brygawthan ein bod wedi torri'n lwc wrth ladd y gath. Congl sydyn, clywed y beic yn ysgafnhau ac yn teithio'n gyflymach. Cyrraedd Aberhalen mewn hanner awr troi i longyfarch Catrin, ond dim hanes ohoni Ar hyn daeth plisman ataf a holi pwy oeddwn, -pam y beic dwbl i un gyrrwr ? Gwrthododd wrando arnaf, a'm cyhuddo o ddwyn y beic. Tyrd gyda mi yn dawel," meddai. Byddaf o flaen fy ngwell ymhen ychydig ddyddiau. Yr Wyddfa. Chwil dŵr yr uchelderau­yw'r Wyddfa Gyrhaeddfawr ei bannau; Trocha yn niwl entrychion Iau,- Parc moel He pawr cymylau. WILLIAM EVANS. Moduro trwy Fynydd-dir Newydd. (0 dudalen 82.) fel mannau na sangodd troed dyn arnynt erioed. Colli Ffordd. Tua phum milltir y tu hwnt i Flaen-gwynfi fe geir, yn ôl y map oedd gennyf i, ffordd yn troi i'r dde ac yn mynd i Gastell Nedd. Ond fe gollais i hon, a'm cael fy hun toc yng Nghwm- afon, heb ffordd yn y byd i fynd i Gastell Nedd ond trwy Aberafon a Phort Talbot ond gan fod yr heol yn parhau'n odidog nes cyrraedd y dref, ni chwynais. O Gastell Nedd y mae ffordd newydd yn rhedeg i'r gogledd trwy Seven Sisters, Onllwyn, a Glyn Nedd, ond gan ei bod hi wedi hwyrhau, a minnau eisiau gweld y golygfeydd yng ngoleuni dydd, mi ohiriais hyd rywdro arall yr hyfrydwch o deithio hyd-ddi. Ddwy filltir ar ôl mynd heibio i Gastell Nedd, mi ddilynais y ffordd oedd yn fforchogi i'r dde, a chyrraedd Aberhonddu trwy Resolfen a Hirwaun. Nid yw'r heolydd newydd yma i'w cael ar y map Ordnans hanner-modfedd, No. 26, ond y mae pob un ohonynt yn adran JJ o'r map moduro a werthir yn Woolworth's am chwechoiniog. R. M. J.