Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Çolff Gan J. E. Wìlliams Dysgu Swing a Thro-Rhedeg TREÜLIASOM ein hamser yn y llith ddiwethaf gyda'r pyter ar y grîn. Y tro yma fe'n dodwn ein hunain yng nghymniau'r grin gyda'r broblem i'w datrys sut i fynd arno, a hynny cyn agosed at y pin ag y mae inodd. Y mae i bob grîn dda amryfal fathau o gjmniau. a dibynna bob amser ar ansawdd y tir pa foddion arferir i ddyfod ohono a chyrraedd y nod. Cym- erer yn y Ue cyntaf ein bod ar y fferwe ychydig o lathenni yn fyr o ymyl y grîn. Rhaid i ni ddewis y naill neu'r llall o ddwy ffordd i ddodi'r bel yn ymyl y twll ffordd yr enfys neu ffordd yr afon. Nid yr un clyb a ddewisir at y naill a llall, ac y mae'r ddwy siot yn hollol wahanol i'w gilydd. Ysbys y dengys y dyn O ba radd y bo'i wreiddyn." Dywedir bod modd adnabod golffar a ddysgodd chwarae i'r gogledd i afon Tweed oddi wrth ei ddewis rhwng y ddwy ffordd yma o gyrchu'r pin. Ffordd yr afon a gymer y tígotyn bron bob amser, oni bydd rhaid iddo gymryd y naill i gario ryw anhawster. Tuedda'r Sais wedyn at ffordd yr enfys, boed anawsterau ar y ffordd neu beidio. A thlws odiaeth ydyw'r siot honno hefo mashi-niblic a gyfyd fel rocet a disgyn- like a poached egg," chwedl y Sais-yn yniyl y pin heb syßyd oddi yno. Life, medd un o rhelyw, holds few greater joys than the execution of the perfect mashie-niblick pitch." Gwyddom am yr ias honno gwyddom fwy am yr alanas o'i threio a methu. Yn ddiamau, ffordd y Sgotyn ydyw'r orau, er boneddiced yr ymddengys y llall­pan geir hi yn ei holl brydferthwch. Siot y Sgotyn. Mid-iron a gymer y Sgotyn fel rheol at y pitch and run," ac y mae mwy o run nag o pitch ar ei bêl bob tro. Er mwyn cael hyn rhaid iddo daro'r bêl yn y fath fodd fel y bydd tro ynddi ju barod i redeg pan ddisgynna; hynny ydyw, rhaid taro i roddi top-spin ar y bêl, ac nid yw hyn yn beth hawdd ei wneuthur o gwbl. Peth arall yw topio'r bêl a gwneud iddi redeg. Ni raid ond codi pen i wneuthur hynny. Ond peth pur anodd ydyw dodi tro-rhedeg ar y bêl heb dorri ceg ar ei hwyneb nes ei Lod yn gwenu arnom mewn byncar wedyn. Os am ddysgu siot y Sgotyn cynghorwn gychwyn gyda swing fer megis at yrru'r bêl at v pin o'r man y dodasom hi ar y dechrau. Gafaeler yn o isel yng nghoes y clyb, a sefyll yn union yr un fath â chyda'r pyter-u ph'vysau'r corff i gyd ar y troed chwith. Yni dyger y llafn yn ôl yn glòs wrth y ddLear, gan ei droi gyda'r llaw chwith i'r osgo y'i gwelir ynddi yn y darlun cyntaf. Y roae hwn ar dop y swing. Yna wrth ddod i lawr fe gymer y llaw dde lywodraeth ar y strôc a throi tros y llaw chwith ar gefn y siafft yr un foment ag y trewir y bêl, nes gorffen y swing fel y'i gwelir yn yr ail ddarlun, ac wyneb y llafn tua'r ddaear. Ymarfer yn y Drych. Dylid yn gyntaf ymarfer cryn dipyn ar y swing heb bêl i'w tharo, nes cael y clyb i gychwyn ac i orffen fel y'i gwelir yn y darluniau. Eitha' peth ydyw ymarfer y swing yma yn y glàs yn y tŷ,­hyn o hint i'r merched! Ac wedi dod i mewn i'r swing a thro y garddyrnau, na ddigalonner pan fo pêl i'w tharo a methu ar y cyntaf reoli ei chwrs a'i hyd. Nid ar frys y mae dal iâr. Rhaid ymarfer yn amyneddgar ac aberthu rhyw ddeng munud yn awr ac yn y man gyda hanner dwsin o hen beli, ac o ofalu cadw'r llygaid yn ddisyfl ar lawr nes bo'r clyb wedi mynd trosodd fe ddaw trefn ar bethau fesul tipyn, ac os yw'r gêm yn werth ei chwarae y mae'n werth cymryd trafferth i'w dysgu yn iawn. Ni phair gofod y tro yma i drafod y ffordd arall o approach, a gadawn iddi tan y tro ne^af. PAN RODIODD ING Â MI. (Anhysbys.) BUM filltir gyda phleser, Parablai hyd-ddi'n ffri Ond 'doeddwn i ddim callach Er cymaint ddwedai hi. Bûm filltir gyda gofid, Ni thorrodd air yn y byd Ond O, a ddysga s pan fûm i Ac ing yn rhodio 'nghyd! MAREDUDD AP TOMAS. DATHLU GWYL DDEWI. (Y ffordd boblogaidd.) Mynnu'r gân, mwynhau'r ginio,­a rhoi socs I'r Sais balch," a gwrando Rhagrithwyr, ac areithio Mai da'r iaith, da iawn-am dro! BARDD SARRUG. CastiauTwm Sion Cati [ gan LESLIE W. EVANS AR fryn, yn ne-ddwyrain Tregaron, gwelir adfeilion Porth-y-Ffynnon, a elwir gan y bobl oddi amgylch, Plas Twm Siôn Cati. Yma'r oedd mab Syr John Gwynn o Wydyr yn byw, a adnabyddir yn gyffredin wrth yr enw Twm Siôn Cati," hynny yw, Twm, mab John, a Chatherine." Tomos Jones oedd ei wir enw. Ganwyd ef yn 1590, a bu farw yn 1630. Cyfrifid ef yn hynafieithydd ac yn brydydd godidog, ac yr oedd yn dra hyddysg mewn achyddiaeth hefyd. Ond er hyn oll, adwaenir ef yn well oddi wrth rai ystranciau a gyfrifir iddo fel ysbeil- iwr, ac y mae llawer ohonynt yng nghof trigolion Aberteifi a Chaerfyrddin. Dyma rai o'r chwedlau sydd ar gael amdano. Craffu mewn crochan. Unwaith, dywedir iddo gyfarfod dyn tlawd ar ei ffordd i brynu crochan, ac i Dwm addo cael un yn rhad iddo. Aethant ill dau i siop, a phan oeddynt yn gofyn pris rhai, dywedodd Twm wrth y siopwr bod twll yn un o'r crochanau, a gwadodd yntau hynny. Dymunodd Twm arno osod ei ben ynddo ac yna caffai ei weld. Tra'r oedd y siopwr yn gwneud hynny, dywedodd Twm wrth y dyn tlawd am fynd ag un o'r crochanau ymaith. Wedi i'r siopwr graffu ei orau yn y crochan, gwadodd eil- waith, ond ebe Twm gan chwerthin Pa fodd y medraist ti osod dy ben ynddo ynteu Dro arall, dywedwyd wrth Twm bod lleidr pen ffordd yn y gymdogaeth, a phender- fynodd Twm ei ysbeiho. Marchogodd hen geffyl gwael, a chymerodd god ledr yn llawn o hoelion, a mynd i'w gyfarfod. Gorchmynnodd y lleidr iddo aros, a rhoi ei arian iddo, ond taflodd Twm y god ledr dros y clawdd. Rhegodd y lleidr ef, a gorchymyn i Dwm ddal ei geffyl. Tra bu'r lleidr dros y clawdd, neidiodd Twm ar gefn y ceffyl gwerthfawr ac ymaith ag ef. Byw yn onest. Aeth Twm i garu etifeddes Ystradffîn, yn Sir Gaerfyrddin, ond gydag ychydig iawn o obaith am Iwyddiant. Un noson gwaharddwyd iddo ddyfod yn agos i'r ty. Rhowch imi'ch llaw un waith, cyn yr ymadawom dros byth," ebe Twm wrthi. Estynodd y fun ei llaw trwy'r ffenestr a chydiodd Twm ynddi'n dynn, gan fygwth ei thorri'n ddi-atreg, oni phriodai hi ef y funud honno. Bu fyw yn onest ac yn sobr ar ôl hynny. Y mae agoriad mewn craig, a elwir Ystafell Twm Siôn Cati," yng nghymdog- aeth Ystradffin dywedir mai yno y trigai Twm cyn ei briodas. Edrydd pobl y dalaith y llinellau hyn amdano Mae llefain mawr a gweiddi, Yn Ystradnm eleni Mae'r cerrig nadd yn toddi'n blwm, Rhag ofon Twm Siôn Cati.