Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Papur Newydd, a'i Rym Y mae'r wlad wedi sobri, ac yn disgwyl am alwad." YTRI pheth mwyaf eu dylanwad o blaid y da neu'r drwg yn y byd heddiw ydyw'r papur newydd, y radio, a'r cinema,­y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw ? Am gyfnod maith bu'r papur newydd ar y maes ei hunan. Ai i ran helaeth o gartrefi Cymru, a bu ei wasanaeth i'n cenedl a'n hiaith yn amhrisiadwy. Trwyddo y lledaenid nid yn umg newydd- ion y dydd, ond hefyd syniadau meddylwyr y dydd, a syniadau newyddion am grefydd, gwleidyddiaeth, gwyddcniaeth, a llên. Ychydig, yn wir, oedd nifer y papurau Cymreig yn y blynyddoedd a aeth heibio, ac efallai mai hynny a'u hanwylodd gymaint ym meddwl y tadau, ac mai dyna'r rheswm y rhoddent gymaint pwys ar bopeth a ym- ddangosai mewn print. Cofiaf yn dda mai pechod anfaddeuol yn y dyddiau a fu oedd darllen papur Saesneg ar y Sul, ond ni ddeuai'r rhai Cymraeg o tan yr un farnedigaeth. Cyn y papur. Cyn dyfod y newyddiadur i'i wlad, dibyn- nai'r bobl ar areithwyr a phregethwyr i'w goleuo a'u cynghori i wahanol ffyrdd. Yn naturiol, ychydig oedd rhif y rhai a ddeuai i gyffyrddiad â'r dynion hyn, ac o ganlyniad cyfyng oedd eu dylanwad. Cerddai ambell un filltiroedd lawer er mwyn clywed un o'r hen areithwyr, a dauai'n ôl i'w bentref bach yn ddyn o bwys ac yn ddyn â hawl ganddo i basio barn ar y byd a'i bobl. Ond wedi mynd y mae'r dyddiau hynny, a bellach gall pawb ddod i gyffyrddiad â meddylwyr mwyaf y byd a dilyn y feddyleg ddiweddaraf ar bob pwnc trwy gyfrwng papurau'r dydd. Yr hen bapurau. Edrychwn ar bapurau hanner can mlynedd yn ôl, a chawn ddynion yn ysgrifennu ar yr un pynciau ag yr ysgrifennir arnynt heddiw, megis darganfyddiadau new- yddion, pechodau'r oes, perffeithrwydd gwy. bodaeth y dydd, a gwahanol bleidiau i werin yn tuchan tan ei baich, meddyginiaethau anffaeledig at flinderau'r corff. Diddorol ydyw darllen yr hen bapurau hyn a gweled eu pendantrwydd ar bynciau sydd, yn ôl y goleuni a roddwyd i ni heddiw, yn hollol gamarweiniol. Yn wir, bron na teddyliwn y buasai yn well osgoi rhoddi barn bendant ar unrhyw gwestiwn rhag inni fod yn destun chwerthin i'r oes a ddêl. Ond gan nad oes fawr ddim yn fwy anghymeradwy gan ein cyd-oeswyr I GAN J. WILLIAMS HUGHES, Marian Glas. na diffyg pendantrwydd, rhaid dewis rhwng gwawd y dyfodol a ffydd ein cyd-oeswyr, ac o ddau ddrwg, dewiswn yr un sy'n ymddangos leiaf, sef gwawd y dyfodol. Wrth ddilyn y papurau heddiw, gwelwn pa mor aml y mae yr ysgrifenwyr yn newid eu meddyliau. Wrth lwc, byr yw côf y bobl. Efallai mai da hefyd yw y newid syniadau, gan mai drych o'r oes y dylai papur newydd fod ac y dylai adlewyrchu, hyd y mae'n bosibl, ansefydlogrwydd môr tonnog ein hoes. Y rhai cyntaf. Mae'n debyg mai lledaenu newyddion oedd prif amcan y papurau cyntaf. Y cyntaf ym Mhrydain oedd y Publick Intelligence" yn y flwyddyn 1633. Yn wir, yr un newyddion oedd yrddynt yr amsei hynny ag sydd yn ein papurau ninnau heddiw, ac mae'n debyg mai'r un pethau fydd ynddynt ymhen can mlynedd eto,-yr un pethau yn digwydd ond i wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Byr fu oes y Publick Intelligence," a daeth y Morning Post fod yn y flwyddyn 1772, ac y mae'n dal i redeg yn ei lawn nerth hyd heddiw. Y mae llawer un arall wedi ei eni ar ôl hynny, wedi cael ei ddydd, ac wedi darfod. Dengys hyn yn ddiau fod eisiau rhywbeth heblaw newyddion i gadw papur yn fyw. Dengys fod cymeriad mor angenrheidiol i bapur ag i ddyn os ydyw am ddal ei dir. Ymhen can mlynedd. Tybed pa bynciau fydd yn cael sylw ein newyddiaduron ymhen can mlynedd eto ? A fydd problem y di-waith yn dal i flino'r byd ? A fydd diarfogi a heddwch byd eang yn ffaith ? A fydd y dosbarthiadau cymdeithasol wedi uno ? Efallai, erbyn hyimy, na fydd America ond taith ychydig oriau o Gymru. Amhosibl," meddai rhywun. Nage, llawn mor bosibl ag yr ymddangosai y radio a'r darluniau siarad yn ein golwg ddeng mlynedd yn ôl. Papurau Cymru. Bu'r newyddiaduron o wasanaeth mawr i Gymru. Deuthant â'r De a'r Gogledd yn nes at ei gilydd ac ddeall safbwynt y naill a'r llall yn well. Buont yn ddolen rhwng llawer Cymro a Chymraes ar hyd a lled y byd a'u hen gartref. Trwy'r wasg Gymreig y deffrowyd ac y cedwir yn effro ieuenctid Cymru. Coffhawn gyda pharch y rhai fu'n foddion i gychwyn y papurau hyn, ac i'w cario ymlaen dan filoedd o anawsterau a gorthrymderau heb na gobaith am elw ariannol na chwant am glod y byd,-y rhai, trwy chwythu yn ddyfal ar y wreichionen oedd bron wedi diffodd, a'i gwnaeth yn fflam, a honno yn fflam sy'n twymo ac nid yn dinistrio, yn goleuo ac nid yn mygu. Codi safon. Nid yn unig mae nifer y cylchgronau Cym- reig yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ond y maent hefyd yn gwella o ran cynnwys, ac y maent yn rhai sydd yn creu awydd ar bobl i gyfodi eu meddyliau at eu safon. Trist ydyw gweled newyddiadur yn dechrau ar lefel uchel ac yn araf ddirywio i lefel y mwyafrif, yn lle dal ar ei waith aruchel o geisio codi'r mwyafrif i'w lefel ef ei hun. Wrth gwrs, y bai am hyn yn Lloegr ydyw fod y cwbl bron yn nwylo'r benthycwyr arian, ac wrth gwrs rhont hwy fwy o bwys ar eu llogau blynyddol nag ar ddiwylliant eu darllenwyr, Gwell gweled newyddiadur yn methu nac yn gwyro. Mae'r cynnydd yma a welir ymysg cylchgronau Cymreig yn arwydd iach a gobeithiol dros ben, ond gresyn fod Cymru gymaint ar ôl gyda phethau eraiU sydd erbyn hyn yn cydweithredu â'r newyddiaduron er daioni. Ceir heddiw bigion diwinyddion a meddyl- wyr yr oes i siarad â ni yn ein cartrefi ac yn y darlundai. Nid pethau i ymladd yn erbyn ei gilydd ydyw y pethau hyn, ond pwerau i gyd-weithio ac i gyd-ymladd o blaid goleuni. Cymru a'r Radio. Hyd yn hyn, methodd Cymru gael ei gorsaf radio, ac y mae hyn yn golled na all neb ei phwyso. Nid bai'r Sais yn gyfangwbl yw ein bod hebddi. Rhaid inni gyfaddef mai gwgu y byddwn ninnau pan glywn iaith ddieithr yn cael ei lledaenu o Daventry. Rhaid inni gofio mai dyna deimlad y Sais tuag at raglenni Cymreig. Rhaid i'r B.B.C. drefnu, meddent hwy, ar gyfer y mwyafrif o'i gwrandawyr. Er bod y rhaglenni Cymreig a geir o dro i dro yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr, ni chyfarfyddir â gofynion Cymru mewn un- rhyw fodd ond trwy gael gorsaf Gymreig i ledaenu i'r De a'r Gogledd. Os gwir ydyw fod ysbrydion y tadau yn nofio ar donnau yr ether heddiw, tybiaf weled Williams Pantycelyn yn gwylied Shakespeare yn gwenu wrth wrando ar Hamlet o Daventry, a Bach yn gwrando ar un o'i aml gantatau o Berlin, a Williams yn holi Ceiriog. Beth ddaeth o Gymru [I dudalen 96.