Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PULPUD, Y COLEG — A'R LLEILL OEDRYCH dros restr y rhai a enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol y ganrif hon, fe welir ar unwaith fod ymron bob un ohonynt a'i alwedigaeth feunyddiol yn help iddo gystadlu. Dyma'r buddugwyr gweinidogion, athrawon mewn colegau, gwyr y wasg Gym- raeg ac ambell ysgolfeistr,-a'r mwyafrif mawr ohonynt yn cael eu bywoliaeth yn y cyfeiriad hwn. Saif Hedd Wyn ar ei ben ei hun fel esiampl o wir fardd heb ei ddosbarthu yn v cwmni uchod, a llawenydd yw meddwl bod cymaint yn dyfod i sylweddoli yr angerdd treiddgar a geir yn ei awdl i'r Arwr." A ydyw'n deg Wel, a yw'r gystadleuaeth yn deg ? A oes gobaith i unrhyw un y tu allan i'r cylchoedd hyn yn yr Eisteddfod heddiw ? Fe wn i am amryw lenorion sylweddol yn dal swyddi cyfrifol eraill na fwriadant gystadlu o gwbl am y rheswm syml fod eraill sydd â'u swyddi braidd yn eu tywys i'r cadeiriau hyn. Fe ddywed y rhain Beth gwell ym ni o feddwl am gynnig ? Y mae hwn a hwn ar staff coleg y fan a'r fan, a phob llyfr gwerth ei gael wrth law ac fe all gael barn aeddfed ei gyd-athrawon yn y coleg ar ei waith, tra'r vm ni bob dydd yn gorfod dilyn ein galwedigaeth sydd heb fod yn dal perthynas o gwbl â llenyddiaeth Gymraeg." Moduro trwy Fynydd-dir Newydd Croeso i'r heolydd newydd sy'n cysylltu'r Rhondda â'r ffordd o Aberhonddu dros y Mynydd Du. Rhedant gydag ymyl y tir glo a rhoddant i'r teithiwr ugain milltir o leiaf o olygfeydd newydd arfryniau a dyffrynnoedd. Naddwyd y ffyrdd yn y mynydd- oedd creigiog sy'n gorwedd rhwng Caerdydd, Castell Nedd, a Merthyr Tydfil. DILYNWCH ffordd Castell Nedd o Aberhonddu. Fe'ch dwg hon chwi dros v Bannau. Dyma un'o'r ffyrdd mynyddig gorau yng Nghymru. Am tuag wyth milltir dringo'r ydych, nes cyrraedd y crib sy bron 1,500 0 droedfeddi'n uwch na'r môr. Tua'r gogledd y mae'r golygfeydd gorau, a mynych yr arhoswch i fwrw golwg yn ôl dros y dyffryn tywyll i lawr at afon Wysg ac ar draws at y bryniau y tu hwnt i Aberhonddu. Y mae'r heol ei hun yn wych, ac fe'ch temtir i yrru'n gyflym. Ond gwrthsefwch y demtasiwn, neu ar eich colled y byddwch. Profiadau Newydd. Yn y groesffordd y deuwch ati ar ôl mynd heibio i'r reservoir dilynwch y ffordd ar y dde GAN BRINLEY RICHARDS, Aberafan. Ymysg y lliaws o'r rhai y tu allan hyn, yn cynnwys crefftwyr distadl a gweithwyr cyffredin, meddylier am ddau yn unig am y tro, sef y doctor a'r cyfreithiwr. 'Does dim un Uvfr jrci Gymraeg yn help i'r un o'r rhain jrci ei alwedigaeth. Meddylier am rywun yn ceisio llwyddo fel doctor wrth ddarllen rhyw bamffledyn bach yn Gymraeg ar wynt yn y cylla neu ar boen yn y pen-neu ryw gyf- reithiwr yn dyfynu o gyfreithiau Hywel Dda yn y llys, neu'n ceisio meddwl yn Gymraeg wrth ddrafftio gweithredoedd tj' Felly, o ran llenyddiaeth eu galwedigaeth, beth bynnag 'does dim yn eu harwain a'u cymell i astudio llenyddiaeth Gymraeg, ac o ganlyniad, nid teg fyddai cystadleuaeth rhyngddynt â'r rheini sy'n treulio bob dydd yn y gwaith. Y mae'r allanolwyr yma yn cystadlu ar waethaf eu galwedigaeth, ac fe ellir bron ddywedyd fod y lleill yn cystadlu oherwydd hynny. Nid awgrymu y wyf mai y swydd sy'n gwneud y bardd byddai hynny yn sarhâd o'r mwyaf ar athrylith eithriadol pobl fel Gwynn Jones, Williams Parry a Parry Williams. Am eu cyfleusterau yn unig yr wyf yn ceisio sôn. (y mae'r un ar yr aswy'n arwain i Ferthyr Tydfil-11e i'w osgoi). Fe'ch cewch eich hun yn Uithro'n esmwyth i lawr i Hirwaun. Y mae tro sydyn i'r dde yn y pentref, ac yn fuan wedi i chwi droi fe ddeuwch at bostyn sy'n dangos y ffordd i Gwm Rhondda. Dyma'r fan 11e y mae'r profiadau newydd yn dechrau. Pe bawn yn gofyn barn Dafydd Huws, eich gohebydd ffyddlon o siop Llanarfon, diau vr awgrymai newid y testunau am un- waith. Er enghraifft, hawdd fyddai cynnal cystadleuaeth i gyfreithwyr yn unig, a chynnig gwobrau, dywedwch, am faled Yn v County Court neu soned ar Hen Gownt neu delyneg fach ar Godi Rhent gydag ergyd syfrdanol yn y lhiiellau clo. Hawdd hefyd fyddai dewis testunau cymwys yn gyfyngedig i ddoctoriaid yn unig, megis Ymson Claf uwch Bocs o Bils," neu gywydd i Ddolur y Galon neu gadwyn o englynion i Niwralja." A beth am bryddest i Lwnc Sych ? Beth bynnag am farn dybiedig Dafydd Huws, credaf y dylid symud mewn un cyfeiriad. Gair mawr y byd heddiw yw moratorium." Beth am rywfaint o oedi ymysg y gweinidogion a'r athrawon hyn er mwyn rhoi cyfle i rywun arall am unwaith ? Yna byddai'r pregethwr, yn ystod yr oedi hwnnw, yn gallu treulio'i amser i ganolbwyntio ar bregethu'n well neu achub mwy o eneidiau, a'r athro ar baratoi rhywbeth newydd yn ei ddarlithiau fel na fyddo perygl i fyfyriwr gael yr un notes ag y cafodd ei dad pan oedd yntau yn y coleg Yn 1623 fe basiwyd y Monopolies Act i ddiddymu hawl ambell un i hawlio gormod. Y mae eisiau rhywbeth tebyg ym myd llenyddiaeth Cymru heddiw. Ysguba'r ffordd rownd cylch anferth o fryniau creigiog. Ymgyfyd ymylon danheddog y creig- iau uwch eich pen fel mur mawr, a hyd nes byddwch wedi troi rownd yr ail dro herpin a chyrraedd blaen y cwm, gyrru i'r anwybod a'r anweledig yr ydych. Milltiroedd Unig. Ar ôl croesi pen y mynydd, y mae o'ch blaen dair milltir ar y goriwaered-milltiroedd unig, heb gwmni ond y defaid a'r cymylau-nes deuwch i Flaen Rhondda. Yna fe ddeuwch i'r heol hir anfad a elwir yn Dreorci ('does dim modd osgoi hon, ond fe ewch trwyddi mewn rhyw chwarter awr), ac ymhen milltir wedyn fe ddeuwch at dro i'r dde. 'Fedrwch-chwi ddim methu'r tro yma, oherwydd y mae'r drws iddi wedi ei naddu mewn gwenithfaen (granite) ac ar yr ochrau geirwon y mae'r cyfarwyddyd wedi ei brintio â sialc-i Aberafon a Chastell Nedd. A'r ffordd yn syth i Benybont-ar-Ogwr, y lle nesaf i weld y byd fel yr oedd cyn adeiladu'r heol ydyw Blaen-gwynfi, ac ar y ffordd yno fe ddringwch unwaith eto nes cyrraedd 1,700 0 droedfeddi uwchben y môr. Yma eto, wrth edrych dros y bryniau uwchben glyn Nedd, fe deimlwch fel gŵr a ddarganfu wlad newydd. Ymddengys y moelydd cuchiog, sydd â gwrid cochddu'r grug olaf arnynt yma ac acw, [I dûdalen 78.